Rhybudd - 'Ffrîc' Yn CLIC
English version
Faint ohonoch welodd Daniel Grosvenor o CLIC ei hun ar y teledu dydd Llun diwethaf?
Ia, yn ôl BBC Three mae gennym ffrîc ein hunain yn ein canol, a dwi’n defnyddio’r term yn y ffordd fwyaf annwyl.
I’r rhai ohonoch sydd wedi darllen erthygl Dan Cyfaddefiadau Darllenydd Proflen, byddwch yn ymwybodol o’i obsesiwn gyda gramadeg cywir, a nawr mae Dan wedi penderfynu rhannu hyn gyda’r byd ar gyfres newydd BBC Three Freak Like Me sydd yn cael ei gyflwyno gan y digrifwr Russell Kane.
Cafodd Dan ei ffilmio yn mynd o gwmpas Caerdydd yn cywiro camlythreniadau mewn graffiti, a chwarae teg iddo fe lwyddodd gwneud hyn a hyrwyddo’r gwefan hon ar yr un amser, trwy wisgo ei grys-t CLIC ffyddlon.
Roedd hi’n grêt gweld un o fy nghyd-weithwyr ar y teledu ac i fod yn deg i Dan doedd o ddim yn ymweld yr un mor ffrîci a rhai o’r eraill ar y rhaglen: merch 18 oed yn dal i sugno dymi unrhyw un?
Mor falch oeddwn i allu weiddi, “Yli mae boi dwi’n gweithio efo ar y teledu. Dwi’n gweithio efo ffrîc. Ww-hw. Da iawn Dan!”
A do, fe wnaeth rhywun ofyn: “Ydy o’n poeni gymaint â hynna amdano?”
Yndi.
Ti yn teimlo ychydig yn ofnus yn gyrru e-bost neu neges Skype neu Twitter iddo weithiau, ond un peth da ydy dy fod yn ailedrych arno cyn ei yrru i wneud yn siŵr beth ti’n ‘sgwennu, sydd yn beth da i ramadeg heddiw maen tebyg – a dwi’n siŵr fod Dan yn ddiolchgar am hyn.
Dwi’n gwybod fod Dan ei hun mor falch o gael ei goroni fel dyfyniad y dydd ar flog rhywun gyda’r geiriau anfarwol: “Os byddai camlythreniad yn derfysgwr yna fi fyddai Jack Bauer”. Chwarae teg Dan, dyfyniad gwych, ynghyd â, “Mae fel nam ar wyneb angel”. Gwych.
Felly bobl. Ydych chi’n ymwybodol fod Dan yn rhoi’r CLICshot mae rhai ohonoch yn ei dderbyn drwy e-bost at ei gilydd? (os nad wyt ti’n ei dderbyn cofrestra i’r wefan hon) Dwi’n gofyn i bob un ohonoch chwarae gêm fach gyda fi – Gwylio’r Gwallau. Ar ôl mynd ar deledu cenedlaethol i ddatgan ei obsesiwn i bawb, dwi’n credu ei bod hi’n ddyletswydd arnom os byddai’n gwneud camgymeriad rhyw dro, i adael iddo wybod! Er mae’r tebygrwydd o hyn ddigwydd yn annhebygol iawn.
Welais di Dan ar Freak Like Me? Beth oeddet ti’n feddwl? Gadawa sylwad isod.
O.N. Os wyt ti’n darllen hwn Dan, plîs paid â thynnu’r beiro coch yna allan, mae’n ddiawl i drio cael oddi ar sgrin cyfrifiadur! ;O)









