Rhyw - Gwerth Siarad Amdano
Mae Sugababe Jade Ewan a chyn-ganwr Misteeq Sabrina Washington yn cefnogi ymgyrch i annog trafodaeth am iechyd rhywiol.
Mae’r ymgyrch hefyd yn cynnig cyfle i ennill taith VIP i Lundain i leisio eich barn o flaen y camera ac i weld Lily Allen a Dizzee Rascal mewn cyngerdd.
Wrth lansio’r mis Chwefror hwn, mae 'Big Think - Sex. Worth Talking About' Bebo, yn dymuno gwybod beth sydd gan ti i’w ddweud am ryw, iechyd rhywiol, atal cenhedlu a pherthnasoedd.
Os gall gyflwyno sylw cofiadwy, cyngor o ansawdd neu ddechrau trafodaeth ar draws cymuned ‘Think Big’ Bebo gallet fod yn un o’r enillwyr lwcus i gael dy gludo i leoliad moethus yn Llundain i gael sgwrs gyda Zara Martin ac yna mynd ymlaen i gyngerdd arbennig.
Mae llu o enwogion wedi dod ymlaen i gefnogi’r ymgyrch ac rydym eisoes wedi gofyn iddyn nhw pam maent yn meddwl ei bod yn werth siarad pan ddaw yn fater o ryw.
Dyma sydd ganddynt i’w ddweud:
Sabrina Washington: “Pan oeddwn i yn ifanc doeddwn i ddim hyd yn oed yn sylweddoli y gallai chlamydia dy wneud yn anffrwythlon.”
Jade Ewen: “Dylet fod yn siŵr o’r ffeithiau i gyd cyn i ti ddechrau gwneud unrhyw beth a bod yn siŵr dy fod bob amser yn defnyddio condom i warchod rhag STIs.”
Mae Ymgyrch ‘Rhyw. Gwerth Siarad Amdano’ yn cefnogi’r cam newydd hwn o ‘Big Think’ Bebo. Mae’r ymgyrch yn anelu at helpu pobl ifanc i siarad am ryw fel y gallant gael y cyngor a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud dewisiadau mwy goleuedig am ryw, atal cenhedlu, edrych ar ôl dy iechyd rywiol ac osgoi beichiogrwydd anfwriadol.
Mae’r ymgyrch yn dangos pa mor hawdd, a normal yw cael trafodaethau am bethau fel atal cenhedlu a phrofi am chlamydia rhwng partneriaid, rhieni a swyddogion proffesiynol sy’n ymwneud â gofal iechyd.
Lansiwyd ‘Big Think’ Bebo ym mis Gorffennaf 2009 a hyd yma mae dros 55,000 o bobl ifanc wedi ymuno mewn gwahanol ddadleuon ar y fforwm ar-lein annibynnol a arweinir gan ieuenctid. Mae ‘Rhyw. Gwerth Siarad Amdano’ yn dilyn o’r Take Your Ideas To The Top hynod lwyddiannus, lle gwnaeth grŵp o bobl ifanc hanes fel yr unigolion ieuengaf i annerch y Cabinet gydag awgrymiadau arloesol ac ymarferol ynglŷn â sut i wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran trosedd, gyrfaoedd a hinsawdd.
Sut i ymgeisio:
Hoffem i ti anfon dy gyngor at ‘Big Think’’ Bebo (neu ebostia hello@bebosbigthink.com). Bydd yr enillwyr yn teithio i Lundain i gymryd rhan mewn sgwrs agored am ryw ac yna yn mynd ymlaen i weld Lily Allen a Dizzee Rascal mewn cyngerdd. Bydd y sgwrs yn cael ei ffilmio ac er na fydd angen i chi siarad am dy brofiad dy hun bydd yn rhoi cyfle i ti siarad am beth ti yn ei feddwl.
Bydd chwech o enillwyr. Mae’r brif wobr yn agored i’r rhai hynny sy’n 16 oed a throsodd yn unig, ond gall ddal ennill rhai gwobrau rhyfeddol os wyt ti o dan 16.
Mae cystadleuaeth 'Big Think - Sex. Worth Talking' Bebo yn cau ddydd Mercher 24 Chwefror.






