Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rownd Derfynol BYB 2011

Postiwyd gan CLICdan o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 23/08/2011 am 10:12
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Cerddoriaeth

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • Judges
  • prize

English version

Rownd Derfynol Brwydr Y Bandiau CLIC 2011 yng Nghlwb Ifor Bach

Sut mae posib beirniadu pwy ydy'r bandiau gorau heb eu harwyddo yng Nghymru? Nid yw'n dasg hawdd yn sicr.

Ond dyna'n union beth mae CLICarlein yn ei wneud bob blwyddyn: rydym yn chwilio'r wlad am artistiaid ifanc Cymraeg – pawb o fetel trwm i MCs – ac yn helpu o leiaf un act i gyrraedd y brig.

Mae CLICarlein yn gweithio gyda cherddorion a chyfarwyddwyr sefydledig i feirniadu a gwobrwyo'r bandiau gorau. Eleni roeddem yn gweithio mewn cydweithrediad gyda Merthyr Rock a Gitarau Schechter ar gyfer ein gwobrau: slot i berfformio ym Merthyr Rock i'r tri enillydd, gyda gwobr gyntaf yn gitâr Schecter Tempest Custom (gwerth £750) ac agor y prif lwyfan yng Ng?yl Merthyr Rock sydd gydag uchafswm cynulleidfa o 4,000.

Ar ôl amryw rownd gynderfynol dros y wlad, cyhoeddwyd y pum band terfynol. (Gall wrando ar y pump yma – yn sicr byddet yn clywed mwy oddi wrthynt yn y dyfodol gan eu bod i gyd yn wych.) Ac ar 18fed Awst daeth pawb at ei gilydd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, i ymladd am y brif wobr.

Dwi ddim am drafferth dweud wrthyt fod y bandiau i gyd yn dda; oherwydd er mwyn cyrraedd mor bell roedd pob band wedi profi eu bod yn gerddorion medrus ac yn berfformwyr gwych, yn gallu creu (a thrin) torf. Gan fod y gynulleidfa yn cynnwys amrediad eang o bobl, dwi'n meddwl roedd gwir arwydd gallu bob band yn cael ei arddangos gydag ymateb y gynulleidfa: mae'n debyg nad oedd y rhieni cefnogol a phobl oedd wedi dod draw i glywed alawon pop-pync siriol Editions yn gynulleidfa targed sgrechian gwaedlyd metel trwm The Hotel Ambush, ond roedd y pyncs a'r pensiynwyr i gyd yn mwynhau yn y pit ger y moshers a'r pennau metel. Roedd yn braf gweld sut roedd presenoldeb llwyfan pob band yn goruwchreoli unrhyw wahaniaethau cerddorol ymysg y gynulleidfa.

Un o fy ffefrynnau i o'r noson oedd The Hotel Ambush a Eric Unseen: y ddau yn cynnig set gwbl wahanol gydag arddull cerddorol gwahanol iawn, ond eto roedd y ddau yn arddangos gallu aruthrol i weithio fel uned. Mae perfformiad yn amlwg yn dod yn ail i'r gerddoriaeth ei hun ond, roedd yr hogiau yma yn dangos sut mae cyfuno'r ddau yn gwneud gwahaniaeth: o gnocio pen cydamseredig i siacedi cydweddol Eric Unseen, roedd y ddau yn mynd a'u set i'r lefel nesaf ac roedd y gynulleidfa wedi'i swyno.

Er mai dim ond set 15 munud oedd ganddynt, llwyddodd dau o'r bandiau gael amser i daflu cân 'cover' i mewn: cawsom fersiwn pop-pync o Firework gan Editions tra chwaraeodd The Hotel Ambush fersiwn metel diddorol iawn o'r clasur 80au You Spin Me Round (Like A Record) [gwranda yma].

Roedd y gig yn cael ei gyflwyno gan Julian Gardner o Circle Of One, a'r beirniaid oedd Matthew Davies (The Blackout), Darran Smith (Funeral For A Friend) a Paul Gray (The Damned – gofynna i dy rieni os nad wyt wedi clywed amdanynt ;)

Ac enillwyr Brwydr Y Bandiau CLIC 2011 oedd:

Cyntaf: Eric Unseen (Enillwyr! Yr enwogrwydd, y gorfoledd, y gitâr. Fydd yn agor y prif lwyfan ym Merthyr Rock)

Ail: The Hotel Ambush (Yn perfformio hanner ffordd drwodd ar yr ail lwyfan ar ddydd Sadwrn Merthyr Rock)

Trydydd: Editions (Agor yr ail lwyfan)

A nawr rydym yn rhoi cyfle i'r enillwyr eu hunain siarad:

"Hoffai Eric Unseen ddweud diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth gan bawb ddaeth i'r rownd derfynol ac i'r holl feirniaid am gefnogi'r band, rydym yn bwriadu defnyddio'r llwyddiant yma fel platfform i wella fel band. Mae llawer o bethau ar y gweill ar hyn o bryd. Mae lansiad ein halbwm ar 17 Medi yn Institiwt Glyn Ebwy ac yna rydym yn cefnogi The Stiff Little Fingers yng Nghanolfan Hamdden Glyn Ebwy ar 15 Hydref…gobeithio dyma gychwyn pethau i ddod! Welwn ni chi ar brif lwyfan Merthyr Rock!"

Dwi wedi darganfod bandiau gręt drwy fod yn rhan o BYB CLIC, o ganeuon diofal Nothing New i eiriau caeth y rapiwr o Gaerdydd Akronist. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb fu'n cymryd rhan ym Mrwydr y Bandiau eleni, yn berfformiwr, wedi cofrestru i'r gystadleuaeth, neu'n rhywun ddaeth draw i un o'r gigs i ddangos cefnogaeth. Bloedd fawr i The Undivided a Men On The Chessboard y ddau fand arall yn y rownd derfynol – gobeithio gwelwn ni chi eto flwyddyn nesaf. Roedd pawb yn rocio.

LINCIAU:
Galeri Lluniau

CLIC BYB 2011: Y Bandiau

A oedd y (wybodaeth) hyn defnyddiol i chi?

[nid a yw'n dda, ond oedd o ddefnydd]

     

Diolch am dy help!

Mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi.

Mae drwg gennym am nad oedd y wybodaeth am ddefnydd

A allwch chi sbario eiliad i ddweud pam?


Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill Ł50