Siarad Yn Agored
English version
Wyt ti'n lesbiaidd, hoyw neu'n ddeurywiol (LHD)?
Wyt ti'n meddwl efallai dy fod di?
Wyt ti rhwng 11 a 19 oed?
Os wyt ti, gallet ti Siarad Yn Agored am sut beth ydy bywyd yn dy ysgol neu dy goleg di.
Mae Siarad Yn Agored yn arolwg ar-lein ac yn gwbl gyfrinachol.
Mae'r astudiaeth yn cael ei gyflawni gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Teulu yng Nghaergrawnt yn i Stonewall Cymru. Pum mlynedd yn ôl cafodd yr astudiaeth fwyaf cyntaf ei wneud gan Stonewall am brofiadau pobl ifanc LHD yn yr ysgol.
Roedd yr astudiaeth yn dangos fod llawer o bobl ifanc LHD yn cael eu bwlio a bod llawer o ysgolion ddim yn gwneud dim am y peth. Mae Stonewall wedi defnyddio'r wybodaeth o'r astudiaeth honno i geisio gwella pethau.
Bydd yr astudiaeth yma yn dweud wrthym sut mae pethau bellach. Bydd posib gweld os ydy pethau wedi newid a beth sydd angen ei wneud dal i wneud pethau'n well.
Os hoffet gymryd rhan, gall gael gwybodaeth bellach yma.
Gall hefyd e-bostio speakout@sdp.cam.ac.uk neu ffonio 01223 334580.








