Statws Apathi
Ychydig fisoedd yn ôl lansiodd pobl ar Facebook ‘ymgych’ i ddod â chamdriniaeth plant i ben.
Roedd yr ‘ymgyrch’ yma yn gofyn i bawb gopïo a phastio statws eglurhaol generig i’w porthiant a newid eu llun proffil gyda chymeriad cartŵn o’u plentyndod.
Er cred boblogaidd, doedd y ‘symudiad’ yma ddim byd i’w wneud efo’r elusen Prevent Child Abuse America, a doedd ddim wedi cael ei gydoddef gan yr NSPCC.
Mewn gwirionedd, wrth i’r dyddiau basio, fe ddaeth gafodd y neges ei golli cymaint fod unrhyw gyfeiriad tuag at elusen neu godi arian (os oedd hyn yn bodoli yn y lle cyntaf) wedi’i golli, dim ond i gael ei ailosod gyda phobl yn gadael sylwadau ar eu lluniau proffil a defnyddio’r statws fel esgus am nostalgia.
I gychwyn roedd hyn yn ddifyrrus wrth i bobl bori drwyddynt yn cofio Hey Arnold, Rugrats a ffilmiau Disney, ond yna cychwynnodd y si maleisus am oedolion yn defnyddio’u proffiliau ‘fel plentyn’ newydd i gysylltu efo plant bregus trwy Facebook.
Roedd pwy bynnag gychwynnodd yr ymgyrch feiral hwn, er gyda’r bwriad gorau, wedi colli’r effaith gwreiddiol roeddent wedi anelu amdano.
Mae’r un thema gyffredinol wedi dod i’r amlwg nawr gyda phoblogrwydd ‘twibbons’. Mae hwn yn peintio logo neu arwyddlun elusen o dy ddewis ar lun proffil dy Facebook neu Twitter. Er bod hyn yn rhoi amlygiad da i’r elusen yna, nid yw’n rhoi dim yn ôl.
Mae elusennau wedi bod yn ffordd newydd o ddangos dy hun neu ennill statws moesol ymysg dy ffrindiau. Mae pawb yn adnabod y teimlad o roi arian i un sydd yn codi arian ar y stryd ac yn cael ‘gwobr’ yn ôl: pabi; cennin pedr; fflag; sticer. Mae lluniau proffil a statws Twibbons a Facebook wedi dod yn arwydd o elusen a rhoi, ond heb y broses o roi.
Mae’r ‘gwobrau’ hyn, yr ‘sticeri’ ar-lein o roi, yn wag. Ti ddim yn rhoi punt mewn bocs casglu i gael un nac yn rhoi drwy PayPal i gael yr hawl i roi un ar dy dudalen. Mae elusen wedi dod yn weithred o statws. Rydym yn hapus i eistedd gartref fel pencampwyr achos drwy newid ein llun proffil neu deipio neges o gefnogaeth, ond mae yna lawer mwy gallwn fod yn gwneud.
Gyda’r trychineb diweddar yn Japan, mae nifer o bobl wedi gyrru negeseuon cefnogaeth a gobaith drwy gyfryngau cymdeithasol. Ond faint ohonynt sydd wedi rhoi i elusen fel Y Groes Goch neu gronfa cymorth tsunami?
Wrth gwrs, mae yna nifer o bobl fel plant a myfyrwyr sydd ddim efo’r arian i wario pan ddaw at elusen ac mae hyn yn ddealladwy. Ond beth am yr ysgolion neu’r sefydliadau maent yn rhan ohonynt fel timau pêl droed, clybiau ieuenctid, cymdeithasau dramatig amaturaidd neu ysgolion dawns?
Er cyffredinrwydd elusen a rhoi yn y cyfryngau cymdeithasol, rydym wedi dod yn ddifater i broblemau pobl. Bydd hi’n Comic Relief cyn hir a faint o bobl fydd yn eistedd gartref yn mwynhau’r adloniant a byth yn codi’r ffôn? Byddent yn clywed y cyfanswm rhedegog o arian yn cynyddu a’r plant yn Affrica yn diolch iddynt, ond eto ni fyddent wedi gwneud dim.
Mae’r erthygl hwn yn annog ti i stopio’r statws o apathi a gwneud rhywbeth. Os wyt ti wedi cael dy effeithio gan y digwyddiadau yn Japan yna paid â newid dy statws a chael twibbon, neu os wyt ti, gwna rywbeth i’w haeddu. Dyma ychydig o syniadau i ti frwydro apathi gan nad yw hi’n dderbyniol i siarad am broblem yn unig:
- Gwna lun neu ddarn o grefft a’i werthu ar eBay (oeddet ti’n gwybod fod yr opsiwn gen ti i yrru’r holl elw i elusen o dy ddewis?)
- Annog dy ysgol / tîm / clwb i gynnal noson codi arian fel noson cabaret neu raffl, bingo neu gwis. Efallai bydd y dafarn leol yn gallu cael ei berswadio i gynnal noson cwis lle bydd yr elw yn mynd at elusen o dy ddewis.
- Cael gwared ar ddillad ac esgidiau sydd bellach ddim yn ffitio a mynd â nhw i dy siop elusen leol / bocs rhodd Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae’r un peth yn wir am hen lyfrau / teganau / CDs / DVDs. Neu, beth am gynnal sêl garej dy hun neu sêl cist car a gyrru’r rhoddion i elusen dy hun,
- Cymera ran yn rhedeg / cerdded hwyl Ras Am Fywyd neu elusen debyg. Mae nifer ohonynt yn digwydd trwy’r adeg ac mae llawer o gyfleoedd mwy cyffrous fel dringo mynyddoedd / gwibdeithiau tramor / parasiwtio a neidio bynji gallet ti wneud yn lle.
- Cefnogi digwyddiad casglu arian Dydd Trwyn Coch lleol (Fel The Big Red Hootenanny! Yng Nghaerdydd)
- Beth am olchi ceir (mewn tywydd da wrth gwrs), sêl cacennau, sêl crefftau. Mae unrhyw beth sydd yn gwneud i ti wneud rhywbeth yn gynhyrchiol ac yn hwyl dda. Pam ddim dewis dy hobi gorau a thrio meddwl am ffordd o godi arian hefo hwnnw? Mae unrhyw beth yn bosib.
- Dull mwy uniongyrchol. Mae cymaint o wefannau ar gael i bob elusen gallet feddwl amdanynt ac mae’n hawdd byth i ti roi iddynt, felly pam ddim? Gall ychydig bach fynd yn bell iawn, hyd yn oed os mai dim ond cwpl o geiniogau ydyw mae’n cael ei werthfawrogi gan gymaint o bobl. Mae rhywbeth yn well na dim.
Beth bynnag ti’n dewis gwneud neu sut bynnag ti’n dewis rhoi ac i bwy, rwyt ti wedi gwneud rhywbeth rhyfeddol. Efallai ei fod yn deimlad wych dy fod wedi codi ymwybyddiaeth at achos, os ydy hynny drwy Facebook, Twitter, MySpace, DeviantArt neu Tumblr, ond ni allai gymharu gyda gwneud rhywbeth o ddifri.
Dyma fy ffordd i o amlygu anymwybyddiaeth o apathi. Mae’n afiechyd cymdeithasol ofnadwy sydd angen cael ei ddileu, a’r unig wellhad ydy ti.








1 Comment – Postiwch sylw
cheeky.charly96
Rhoddwyd sylw 14 mis yn ôl - 18th March 2011 - 16:43pm
Mae hi’n Ddydd Trwyn Coch dydd Gwener 18 Mawrth. Mae’n annhebyg i unrhyw ddiwrnod arall wrth i’r wlad gyfan ddod at ei gilydd i wneud rhywbeth doniol am arian a newid bywydau di-rif yn y broses.
Mae popeth yn diweddu gyda noson o deledu gwych ar y BBC gyda rhai o’r mawrion o fyd comedi ac adloniant.
A’r peth gorau? Mae’r holl hwyl a gwallgofrwydd yn helpu codi arian a newid bywydau ar draws Prydain ac Affrica. A gallet ti fod yn rhan ohono hefyd.