Stereoteipio
English version
Mae wedi bod yn dair blynedd ers i Rob Maltby (24) golli'r ferch roedd yn ei garu, Sophie Lancaster (20) oherwydd stereoteipio.
Bu farw Sophie y tu allan i’w chartref yn ceisio amddiffyn ei chariad o ymosodiad creulon gan ddau fachgen ifanc 15 a 16 oed ar yr adeg, oedd yn meddwl eu bod nhw’n rhy wahanol.
Roedd Rob a Sophie yn Goths: gwallt, colur a dillad du. Roeddent yn edrych yn wahanol. Ond ydy hynny yn rheswm digon da i eisiau brifo rhywun mor ddrwg â hynna?
Cafodd Rob ei wthio i’r llawr a’i gicio drosodd a throsodd yn ei wyneb a’i frest.
Arhosodd Sophie gyda Rob drwy hyn i gyd, yn crudio ei ben yn ceisio’i amddiffyn. Fe drodd y ddau arni hi a’i chicio mor galed fod argraff esgid wedi’i adael ar ei thalcen. Rhedodd y ddau fachgen i ffwrdd a gadael y cwpl i farw.
Roedd Rob mewn coma am wythnos. Deffrodd mewn union bryd i weld Sophie cyn i’r system cynnal bywyd gael ei ddiffodd, roedd ei hanafiadau mor erchyll.
Mae Rob yn parhau i geisio ail-adeiladu ei fywyd ond mae ganddo broblemau ar ôl yr ymosodiad. Mae wedi colli ei synnwyr blasu ac yn teimlo yn nerfus iawn wrth adael ei dy. Mae’r ddau fachgen a wnaeth hyn wedi cael eu carcharu am 18 mlynedd.
Mae mam Sophie wedi sefydlu elusen er cof o’r enw Stamp Out Prejudice, Hatred And Intolerance Everywhere (S.O.P.H.I.E). Mae’r elusen yn anelu i godi ymwybyddiaeth o beth ddigwyddodd i’r cwpl a sut y medrai hyn gael ei atal rhag digwydd eto.
Mae’r trasiedi yma yn dangos sut y gall stereoteipio ddinistrio bywydau pobl. Mae barnu rhywun ar sut maent yn edrych, beth maent yn hoffi a sut maent yn ymddwyn yn annheg. Dydy o ddim yn ddigon o reswm i farnu rhywun am eu bod nhw’n gwrando ar fiwsig rap neu am fod rhywun yn gwisgo du yn unig.
Mae’r esiampl uchod yn achos difrifol iawn o stereoteipio; ond mae’n cael ei ddefnyddio pob dydd, ble bynnag rwyt ti’n mynd. Y ‘chav’ ar y stryd sydd bron bob tro eisiau achosi trwbl i bawb. Y ‘nerd’ sydd bob tro’n cwblhau ei waith cartref ar amser. Yr ‘emo’ sydd yn eistedd ar ben ei hun ac yn anafu ei hun.
Gall y rhestr fynd ymlaen, ond dydy’r ffaith fod rhywun yn ffitio stereoteip penodol oherwydd eu bod yn gwrando ar y gerddoriaeth neu’n gwisgo’r dillad ddim yn golygu fod ganddynt yr agwedd sydd yn gysylltiedig efo bod yn ‘chav’ neu’n ‘emo’.
Mae’n anodd weithiau i edrych ar rywun a pheidio stereoteipio nhw, ond mae’n bwysig i beidio barnu pobl. Mae stereoteipio yn gallu bod yn rhywbeth mor fach a meddwl y peth, neu mor fawr ac ymosod ar rywun ar lafar neu yn gorfforol.
DOLENNI
Tudalen gwybodaeth Gwahaniaethu
Tudalen gwybodaeth Dioddefwyr Trosedd
Tudalen gwybodaeth Gwahaniad a Cholled
Sefydliad Sophie Lancaster ar MySpace
FFYNHONNELL: Erthygl Sun gan Rob Maltby
DELWEDD: srlk









