Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Streic Dydd Gŵyl Dewi?

Postiwyd gan Gareth CLIC o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 31/01/2012 am 14:21
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl

  • streic

English version

Wyt ti'n cofio mis Tachwedd diwethaf, ble roedd llawer o ysgolion dros Gymru a Phrydain wedi cau wrth i athrawon gael diwrnod o streicio mewn protest yn erbyn newidiadau pensiwn dadleuol.

Ond, mae'n ymddangos nad dim dyma ddiwedd y stori, gan fod cynlluniau i gael protest arall ar y 1af o Fawrth, sydd yn cael ei adnabod gennym ni bobl Cymru fel Dydd Gŵyl Dewi.

Roedd undebau dysgu mawr fel yr NUT a NASUWT yn rhan o'r streic mis Tachwedd diwethaf, a bydd streic arall ar Ddydd Gŵyl Dewi yn gallu golygu fod naw allan o ddeg disgybl ysgol allan o'r dosbarth.

O fewn y pythefnos nesaf, bydd gweithredwyr yr undebau yn cyfarfod i dderbyn adborth gan aelodau a gallai dyddiad streicio newydd gael ei benderfynu. Os ydynt yn streicio yna bydd rhaid i'r undebau roi rhybudd 7 diwrnod i unrhyw ataliadau eraill.

Mae'r undebau mawr yn 'sefyll yn gadarn' wrth i nifer ohonynt siarad gyda'i haelodau am dderbyn dêl y Llywodraeth.

Yn y streic ddiwethaf roedd 1,500 o 1,776 o ysgolion Cymru wedi cau, sydd yn debyg o fod yr un peth os bydd yr ail don o brotestio yn digwydd ar Fawrth y 1af.

Ffynhonnell – Wales Online

Tudalennau Addysg

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.