Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sut Newidiodd CLIC & Swoosh Fy Mywyd

Postiwyd gan thepurpleninja o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 05/12/2011 am 12:07
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Hinsawdd, Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Dawns, Addysg, Amgylchedd, Ffasiwn, Gwyl, Bwyd a Diod, Iechyd, Hanes, Ffilmiau, Cerddoriaeth, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Materion Cyfoes, Teithio, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Cyffuriau, Gyffuriau

  • resi
  • swoosh

English version

Reit, dwi'n gwybod fod y mwyafrif o bobl ddim eisiau darllen hwn, ond creda fi, mae'n werth darllen.

Dim ond 2 ydw i ond ers i mi ymuno gyda CLIC a Swoosh mae fy mywyd i wedi newid cymaint.

Dwi am gychwyn trwy ddweud wrthyt ti sut mae Swoosh wedi newid fy mywyd.

Ymunais gyda Swoosh ar ôl clywed amdano trwy fy Fforwm Ieuenctid. Fe es i gyfarfod gyda fy chwaer fawr. Roedd o'n hwyl fawr (ac nid oherwydd y pitsa am ddim!). Ymunais â CLIC hefyd drwy Swoosh (ond fe ddywedaf fwy am hynny wedyn).

Dwi wedi cyfarfod pobl o ar draws y Fro (gan gynnwys pobl yn fy ysgol). Mae'n rhaid bod yn 11 i ymuno, pam ti rhwng 11 a 25 ti'n cael dy gysidro fel person ifanc. Dwi’n mwynhau mynd i'r cyfarfodydd a chael llawer o hwyl.

Yn ein cyfarfod diwethaf cyfarfûm â Phencampwr Ieuenctid newydd Y Fro, Richard Bertin (gwelais ef eto heddiw, yn gyrru bws). Dywedodd wrthym am rai o'r pethau oedd yn cael eu cynllunio yn y Fro, gan gynnwys sinema. Byddwn i yn gwadd unrhyw un i ddod draw, gan ei fod yn hwyl fawr ac yn beth anhygoel i fod yn rhan ohono.

Ymunais gyda CLIC hefyd trwy Swoosh (CLIC ydy gwefan ieuenctid Cymru gyfan). Bob hyn a hyn mae llawer o bobl ar draws Cymru yn cyfarfod ar benwythnosau preswyl ac yn cael llawer o hwyl, ond rydym hefyd yn gwneud pethau pwysig. Rydym yn siarad am beth sydd yn digwydd i bobl ifanc yn ein hardal a phethau fel hynny.

Diolch i CLIC mae gen i ffrindiau ar draws Cymru, ac er bod pawb yn h?n na fi (o lawer o flynyddoedd) maent wedi derbyn fi i mewn i'w gr?p o bobl ifanc. Ar y preswyl cyntaf es iddo ym Mae Caerdydd, fe gefais yn orfywiog IAWN ar ddiod ffrwythau!

Fe wnes ychydig o ffilmiau zombie (edrycha ar y fideo ar yr ochr) oedd yn hwyl fawr i wneud (diolch i staff ANHYGOEL CLIC). Dwi'n meddwl fod y fideo ar y wefan CLIC hefyd. Byddwn yn gwadd pobl i ymuno gyda CLIC hefyd (ond mae'n rhaid i ti gael dy ffurflen penwythnos preswyl i mewn yn fuan gan fod llefydd yn mynd yn sydyn IAWN).

Byddwn yn cychwyn trwy ymuno gyda dy griw CLIC lleol (ee. Caerdydd – the Sprout, Bro Morgannwg – Swoosh, Casnewydd – Young Newport ac ati).

Mae CLIC a Swoosh wedi newid fy mywyd am y gorau, ac os wyt ti eisiau ymuno, dwi'n gobeithio bydd CLIC a dy griw CLIC lleol yn newid un ti hefyd.

Os wyt ti eisiau ymuno gyda CLIC dilyna'r ddolen yma ac os wyt ti eisiau ymuno yn y Criw Golygyddol Swoosh tyrd i'r ochr porffor, edrycha ar y ddolen hon a chysyllta â’r Golygydd, Dominique LeSeauteur ar Dominique@swoosh.me.uk neu ffonio 01446 733622 (estyniad, 14).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50