Sweden Yn Rhoi Twitter I Ddinasyddion
Mae Twitter yn beth eithaf hyfryd, yn tydi?
Mae Sweden yn hefyd, gan i mi gofio o'r nifer gwaith dwi wedi gweld lluniau ohono ar Google. Dwi'n cofio'r cyfnodau yna yn dda.
Ond mae syniad newydd Sweden yn eithaf gwahanol i unrhyw beth arall sydd yn digwydd ar Twitter. Y rheswm am hyn? Wel, mae ymgyrch yn cael ei redeg gan Geidwaid Sweden, sydd yn caniatáu i un dinesydd yr wythnos i tweetio o gyfrif Twitter swyddogol y genedl. @Sweden. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw genedl ganiatáu hyn.
Y syniad tu ôl i hyn ydy i hyrwyddo'r "natur ddemocratig brand y wlad".
Mae'r tweets hyd yn hyn wedi bod yn gymysg, o synfyfyrio personol am golli rhai agos a materion personol i tweets sydd yn eithaf doniol a hunan-hyrwyddol.
Hyd yn hyn, mae'r rhai o fewn y sffêr Twitter yn meddwl fod y syniad yma o tweetio ar ran y genedl yn ddiddorol, gyda Tweetiwr o'r enw Christina Pappas yn dweud "pwy well na'r preswylwyr i fod yn llais y wlad?"
Dywedodd defnyddiwr Twitter arall, Bret Treasure, fod hyn yn "arbrawf da iawn mewn democratiaeth".
Felly beth ydy'r tebygolrwydd o Gymru yn gwneud hyn? Beth fyddet ti yn ei ddweud os mai ti fyddai'n gyfrifol amdano? Sylwadau isod!
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
CLICarlein ar Twitter
Shouttawe ar Twitter
CLIConline ar Twitter
Fynhonnell – Al-Jazeera







