Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

The Darkness Yn O2 Bryste

Postiwyd gan masterofpuppets o Powys - Cyhoeddwyd ar 16/11/2011 am 20:19
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth

  • dark
  • dark
  • dark3
  • dark4

English version

Os wyt ti erioed wedi bod yn Academi o2 Bryste, fy prif awgrym fyddai i gyrraedd yn fuan a chael lle gyda golygfa.

Os wyt ti wedi bod mewn sioe sydd wedi'i werthu allan yno, yna ti'n gwybod fod cyrraedd deg munud cyn i'r brif act ddod ar y llwyfan fel dod yno efo dy lygaid wedi cau.

Mae cynllun y lleoliad yn un sydd yn golygu, o'r 1600 o le yno, mae 1000 yn cael eu gwasgu'n beryglus i mewn i'r lle sefyll, tra mae'r 600 arall yn un ai a) wedi gludo i'r balconi / ardaloedd eistedd maent wedi llwyddo cipio yn fuan heb ddim bwriad rhoi modfedd i neb, neu b) yn ceisio, yn ofer, dal cipolwg o'r llwyfan tu ôl i'r wal o gyrff sydd ar y balconïau.

A dyma'r sefyllfa roeddwn i ynddi, yn camu o gwmpas y lleoliad yn ceisio darganfod unrhyw fath o berffaith fyd optegol. Yn y diwedd cefais le ar risiau tu ôl i rai eraill, lle gallwn weld y llwyfan, ond wrth i'r goleuadau fynd i lawr a cherddoriaeth The Darkness gychwyn, dyma ddyn diogelwch yn dod ataf ac yn gorchymyn fy mod i'n symud i lawr y grisiau.

O'r diwedd cefais le ar falconi ble roedd seinyddion yn cuddio hanner flaen y llwyfan (gweler yr ail lun) ac felly dyna sut y daeth hi fy mod i wedi gwylio'r mwyafrif o sioe Bryste The Darkness ddim ond yn gallu gweld y drymiwr Ed Graham, gitarydd Dan Hawkins (hynny yw, pan roedd yn sefyll ger ei amp Marshall), pen y bas Frankie Poullian, ac ychydig o gipolwg o'r prif ddyn dandi Justin Hawkins pan roedd yn sefyll ar godwr y drymiau i sefyll fel seren roc.

Ond roedd hyn yn ddigon i gael blas o The Darkness yn dychwelyd i gras ar ôl i JH adael i ddelio gyda'i ddibyniaeth cocên ac alcohol yn 2006. Wedi cicio'r arferiad, roedd Hawkins yn ôl i'w orau wrth iddynt agor gyda Black Shuck, y trac cyntaf oddi ar Permission To Land yr albwm cyntaf yn 2003 lwyddodd i fynd yn blatinwm pedwarplyg.

Chwaraewyd pob trac oddi ar yr albwm hwnnw, a rhai o'u hail o 2005, a'r rhai o'u halbwm sydd i ddod. Roedd hefyd fersiynau o ganeuon Queen a Radiohead i'w cysidro. Roedd y sengl cawslyd Nadolig, Christmas Time (Don't Let The Bells End) wedi dod a'r set i ddiwedd cyn yr encôr, gydag eira ffug yn dod o'r nenfwd.

Yn yr encôr gwelwed I Believe In A Thing Called Love yn llwyddo i gael y dorf yn symud, pan symudais tuag at yr allanfa i geisio osgoi'r rhuthro at y diwedd. Dewis da, gan imi ddod o hyd i le ar y grisiau uwchben y llwyfan am y gân ddiwethaf Love On The Rocks With No Ice sydd, fel bob tro, yn cynnwys Justin Hawkins yn chwarae unawd gitâr estynedig wrth gael ei gario trwy dorf ar ysgwyddau dyn diogelwch.

Marmite pur efallai, ond nid oes amheuaeth fod gan The Darkness y gallu i adlonni a chysylltu. Bydd y trydydd albwm yn brawf, gan ddilyn yr ail un oedd yn eithaf cyffredin, ond os yw'n taro'r marc yna byddaf yma'n fwy buan flwyddyn nesaf efo fy mhenelin wedi gludo i ddarn o'r balconi gyda'r olygfa orau.

Edrycha ar drefn y set
theactualdarkness.com
Tudalennau Celfyddydau Perfformio

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50