Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Trac Sain I Dy Fywyd

Postiwyd gan steampunk13 o Penybont ar Ogwr - Cyhoeddwyd ar 25/07/2011 am 17:03
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Pobl, Materion Cyfoes

  • trac sain

English version

Mae pawb wedi cael y syniad yna – os byddai fy mywyd i'n ffilm tybed sut beth fyddai fy nhrac sain – wel dwi wedi, nifer o weithiau. Dwi hefyd yn cyfaddef na allaf beidio gobeithio un dydd bydd y byd cyfan yn byrstio i mewn i gân a dawns fel yn y sioeau cerdd. Tyrd yn dy flaen, nid fi yn unig sydd yn dychmygu hyn DRWY'R adeg?

Felly beth roeddwn yn meddwl oedd y byddwn yn gosod sialens arall wedi'i selio ar gerddoriaeth. Ysgrifenna erthygl, postia sylwad neu gwna fideo o'r caneuon byddet ti'n hoffi fel trac sain i dy fywyd. Nid oes rhaid dilyn strwythur fi na rhestru, dim ond mynd efo beth bynnag fydda'n digwydd yn ffilm bywyd ti dy hun. A dwi eisiau i BAWB geisio cymryd rhan yn hyn.

Fe gychwynnaf y sialens gyda thrac sain fy hun.

1) Yr Olygfa Agoriadol: ( Wake Up Call – Cherry Lee / Bathroom Girl )
2) Bywyd Fel Plentyn Bach: (Wombles Song – Wombling Song)
3) Blynyddoedd Ysgol Ddiniwed: (S Club 7 – Bring It All Back To You)
4) Fy 'Crush' Mawr Cyntaf: (Taylor Swift - Invisible)
5) Rhieni'n Gwahanu: (Christina Aguilera – I’m Ok)
6) Fy Mlynyddoedd 'Emo': (A Kiss Could Be Deadly – I’ll Be Your Anti-hero Baby)
7) Dioddef o Iselder: (Breaking Benjamin – Dear Agony)
8) Toriad Calon Gyntaf: (Christina Perri – Jar of Hearts)
9) Gorffen Ysgol o'r Diwedd: (Graduation Day – Head Automatica)
10) Mynd ar Ddêt Cyntaf: (Saving Jane - Butterflies)
11) Syrthio Mewn Cariad: (Sweetest Thing – Bethany Joy Galleotii)
12) Ac Yna Dyweddïo: (Grow Old With You - Adam Sandler)
13) Casáu Fy Mlynyddoedd Coleg: (Miss Invisible - Marie Digby)
14) Yna Dysgu Bod Yn Hapus: (Pink – F*ing Perfect)
15) Darganfod Cyfrifoldebau Newydd: (What’s my age again - Blink 182)
16) Dawnsio'r Ddawns Gyntaf: (Sweet Child O Mine – Guns and roses)
17) Canu Hwiangerdd i'm Mhlentyn: (Billy Joel - Goodnight My Angel)
18) Gobeithio Byddaf Yn Cyrraedd Henaint: (Jackson Browne – These Days)
19) Ac Yn Cael Diweddglo Hapus: (To Where You Are – Josh Groban)
20) Y Credydau: (Always look on the bright side of life – Monty Python)

Felly dyna ti. Fy nhrac sain byddwn i eisiau chwarae ar adegau penodol sydd wedi, a dwi'n gobeithio bydd yn digwydd i mi yn fy mywyd. Mae croeso i ti wrando ar fy ngherddoriaeth ac/neu ofyn i mi pam fod cân benodol yna. Felly ia, gad i mi wybod y Trac Sain I Dy Fywyd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50