Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Twistio Fy Melon

Postiwyd gan maxwell90 o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 17/01/2012 am 11:13
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Cerddoriaeth

English version

Bydd The Happy Mondays yn aros mewn atgof hanesyddol fel nid yn unig un o fandiau gwylltaf  Prydain ond, yn llygaid rhai pobl, fel y rhai wnaeth greu'r sîn gerddoriaeth Madchester.

Daeth llwyddiant The Mondays yn yr 1980au hwyr. Llwyddodd caneuon fel Step On a 24 Hour Party People i wneud The Mondays yn ffefrynnau yn syth o fewn y gymuned rêf, ond nid pils, cyffro a phoen bol oedd popeth yn gyfan gwbl i'r bechgyn o Salford, ond byddai'r defnydd toreithiog o gyffuriau yn gadael ei farc wrth iddynt greu'r pedwerydd albwm stiwdio, Yes Please!

Nid yn aml oedd un band efo rheolaeth lwyr dros eu cwmni record, ond roedd The Mondays efo gafael llwyr dros Factory Records yn 1992 pan wnaethant Yes Please!

Er nad hwn oedd un o albymau mwyaf llwyddiannus The Happy Mondays, bydd yn cael ei gofio am y stori fwyaf od mewn hanes cerddoriaeth sydd yn gysylltiedig ag ef.

Roedd y ffaith fod Shaun Ryder a'i frawd Paul yn ddifrifol i mewn i heroin yn y 90au cynnar wedi'i ddogfennu yn dda, felly er mwyn trechu hyn, penderfynodd Factory Records yrru'r band i ynys hyfryd Barbados, lle nad oedd heroin yn bodoli, a byddai hyn y lle perffaith i'r band recordio'r pedwerydd albwm stiwdio. Yn anffodus i Factory, roedd Barbados efo cyflenwad mawr o grac cocên…

Ar ôl pedair wythnos roedd y band wedi gwario'r arian i gyd ac wedi dechrau gwerthu dodrefn o stiwdio Eddy Grant – lle'r oedd y band i fod yn ysgrifennu a recordio – i ariannu eu defnydd o gyffuriau.

Roedd Bez, chwaraewr maracas y band, wedi torri ei fraich ar ôl damwain car oedd wedi'i hurio, tra doedd Shaun Ryder ddim wedi ysgrifennu'r un gân.

Wedi cyrraedd yn ôl i Brydain, gyda'r tapiau gwreiddiol o'r ychydig llwyddant i recordio, bygythiodd Shaun Ryder dinistrio nhw os nad oedd Factory yn rhoi arian iddo. Ar ôl llawer o drafodaeth yr unig beth roedd Ryder ei angen oedd £50 am ei hit nesaf o gyffuriau ac roedd y tapiau yn ddiogel yn nwylo cydberchennog Factory Records, Tony Wilson.

Yn anffodus i Tony, roedd yr albwm yn fethiant llwyr. A dyma oedd cychwyn y diwedd i Factory Records, a chyhoeddwyd eu bod nhw yn fethdalwyr (bankrupt) ychydig wedi rhyddhad yr albwm.

Diflannodd gyrfa The Happy Mondays bron yn gyfan gwbl, ond yr agwedd wallgof yma wnaeth wneud nhw'r band oedden nhw yn y lle cyntaf. Llwyddodd Bez i gael ei le yn y band wedi iddo golli ei hun yn llwyr yn y gerddoriaeth un noson yn yr Hacienda, cymaint fel ei fod wedi mynd ar y llwyfan i ddawnsio. Pythefnos wedyn roedd ganddo bâr o faracas yn ei ddwylo a dywedwyd wrtho y byddai'n wynebu'r gynulleidfa nid yn rhan ohono.

Y rheswm am ysgrifennu'r erthygl hon ydy oherwydd y waedd diweddar fod rhai cerddorion yn dweud fod cerddoriaeth wedi marw bellach. Yn ddiweddar dywedodd Patrick Carney o'r Black Keys fod "Roc a rol yn marw am fod pobl yn fodlon gyda Nickleback yn dod yn fand mwyaf y byd". Fedra i ddim cofio Nickleback erioed yn gwneud Keith Moon ac yn lluchio teledu allan o ffenestr ystafell gwesty, 'dim ond er hwyl y peth'.

Dywedodd Tom Clarke, prif lais y rocwyr o Coventry, The Enemy, fod cerddoriaeth yn "f***in warthus ar y funud" ac yn credu mai dyletswydd ef a'i fand ydy datrys hyn.

Ydy hyn efallai oherwydd un rheswm amlwg gall adnabod yn hawdd yn y stori uchod? Ydy cwmnïau record y genhedlaeth yma efo gormod o rym? Beth ddigwyddodd i'r straeon gwych fel yr un yma?

Mae'r cwestiynau hyn i gyd yn frawychus i edrych arnynt… ond yn rai sydd raid wynebu'n benben, yn yr un modd a Bez.

Tudalen Cerddoriaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.