Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Tyrd a Gavin A Stacey Yn Ôl

Postiwyd gan Imogen o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 04/05/2010 am 23:44
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Pobl, Materion Cyfoes

English version

Pan ddychwelodd Gavin And Stacey roeddem i gyd mor falch pam dangoswyd ar srgin ein teledu unwaith eto. Ond ers gorffennodd cyfres tri, mae pawb nawr yn tybio os bydd cyfres pedwar neu beidio.

Byddai’n dda os byddai cyfres arall, am fod Gavin And Stacey yn deledu grêt, doniol, a dwi’n meddwl yn hyfryd.

I’r rhai ohonoch chi sydd ddim wedi gweld Gavin And Stacey, stori am ferch ifanc Cymraeg o’r enw Stacey o’n tref y cymoedd ein hunain yn Barri, a hogyn o Essex o’r enw Gavin. Maen nhw’n cyfarfod, yn disgyn mewn cariad, e-bostio a ffonio ei gilydd lot ac yn y diwedd yn cael efo'i gilydd. Mae Gavin yn symud i Barri, maen nhw’n priodi ac mae’r stori yn dilyn eu perthynas ynghyd â’u teulu â’u ffrindiau gwallgof.

Cychwynnodd Gavin And Stacey ar y teledu tair blynedd yn ôl ym mis Mai 2007, yn denu cynulleidfa fach o 543,000. Nawr, tair blynedd wedyn mae ei boblogrwydd wedi codi i’r brig yn denu 10,250,000 o wylwyr ar Ddiwrnod y Flwyddyn Newydd 2010!

Mae’n gomedi rhamantus doniol iawn ac yn enwog iawn am ennill pedwar gwobr British Comedy Awards, dau Bafta a gwobr South Bank. Mae nifer o’r cymeriadau ar y sioe wedi mynd ymlaen i ymddangos mewn rhaglenni eraill ac yn helpu allan nifer o achosion da i elusennau fel Sport Relief, Comic Relief, Comedy Gala Sianel 4 a lot mwy.

Mae Stacey yn cael ei chwarae gan Joanna Page, Gavin gan Matthew Horne, Nessa gan Ruth Jones, Dave gan Steffan Rhodri, Bryn gan Rob Brydon, Gwen gan Melanie Walters, Jason gan Robert Wiltfort, Smithy gan James Corden, Pam gan Alison Steadman, Mick gan Larry Lamb, a Doris gan Margaret John.

Wel, i’r rhai ohonoch sydd yn caru Gavin And Stacey bydd rhaid i ni weddïo a gobeithio bydd cyfres pedwar ar sgrin ein teledu yn o fuan. Tyrd a Gavin And Stacey yn ôl!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.