Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

'Weed'

Postiwyd gan Kinghamster o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 21/03/2011 am 11:07
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Iechyd, Pobl

English version

Mae pobl ifanc yn ystyried ysmygu neu gymryd canabis fel rhywbeth diniwed.

Maent yn mwynhau’r teimlad o fod yn ‘high’.

Pan hysbyswyd iddynt yr effaith gallai gael ar dy ymennydd, ac yn hwyrach yn dy fywyd, yr ymateb arferol ydy, “ni fydd hyn yn digwydd i mi”.

Fel hyn roeddwn i’n meddwl a nawr dwi’n talu am y camddefnydd sylweddau gyda phroblemau iechyd meddwl.

Mae yna ddigon o ffynonellau gwybodaeth allan yna ond dwi ddim yn meddwl fod myfyrwyr mewn ysgolion yn eu defnyddio. Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd fy ffrindiau i gyd yn dweud na fydda nhw byth yn ysmygu na chymryd cyffuriau. Nawr dwi oddi ar y cyffuriau ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu cymryd.

Roeddwn i yn ysmygu canabis am dros dair blynedd ac fe ddois yn gaeth i sigaréts drwyddo. Mae ysmygwyr sydd yn cychwyn yn ifanc fel arfer yn cychwyn drwy ganabis. Mae wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd ac rwyf bob tro yn cael fy nhemtio i fynd yn ôl arno pan fedra i ddim ymdopi efo’r pethau drwg sydd yn digwydd mewn bywyd.

Roeddwn i’n ei ddefnyddio fel rhyddhad i ymdopi efo ysgariad fy rhieni. Roeddwn i’n ei ddefnyddio i gael drwy’r diwrnod ysgol, ac yn fwy na hyn roeddwn i’n ei ddefnyddio i geisio pylu'r boen o gyfnodau anodd a straen rhwng 13 a 17 oed.

Oherwydd yr holl gamddefnydd yma, roedd y perthynas hir dymor cyntaf gefais yn anodd ymdopi gydag ef. Doeddwn i byth yn deall pam fod pethau drwg yn digwydd i mi ac yn ei chael yn anodd ymdopi efo’r gwahaniad a cholli fy swydd. Cyn hyn roeddwn i’n defnyddio canabis i ymdopi gyda sefyllfaoedd drwg, roeddwn i wedi stopio’i ddefnyddio ac roedd yn gwneud pethau mor anodd.

Nawr dwi’n brwydro i ymladd ac ymdopi gydag iselder a’r effaith iechyd meddwl hir dymor mae wedi’i gael arnaf. Mae canabis fel arfer yn cychwyn yn oed ysgol gyfun a dwi’n meddwl gall y rhan fwyaf o’r achosion gael eu hosgoi.

Dwi’n meddwl, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth a’r cyngor allan am y cyffur fe ddylen nhw ofyn i bobl fel fi fynd i mewn i ysgolion a dweud wrthynt beth gall ddigwydd. Dwi’n meddwl bod gweld beth allai wneud i rywun ym mywyd go iawn gael effaith mawr ar y dewis o’i gymryd neu beidio.

Tudalen Canabis
FRANK: Cannabis
Dan 24/7: Cannabis

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50