Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Wyt Ti Eisiau Goroesi Diwedd Y Byd?

Postiwyd gan neilramsden o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 24/11/2010 am 14:07
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Amgylchedd, Materion Cyfoes

  • Silocondo

English version

Fel yr ydym i gyd yn ymwybodol, mae diwedd y byd yn agos. Mae yna amryw ffyrdd efallai byddem yn cicio’r bwced yn gyfunol; ergyd meteorit, terfysg hinsawdd, cwympo ariannol, hyd yn oed ymosodiad estronwyr (alien) (wyt ti wedi sylwi ar y cynnydd mewn ffilmiau sydd yn seiliedig ar estronwyr sydd ar eu ffordd?).

Mae’r flwyddyn 2012 wedi rhoi digon i ddamcaniaethwyr cynllwyn gynhyrfu amdano, er y ffaith fod y calendr Mayan ddim yn proffwydo diwedd y byd, dim ond yn cychwyn eto, meddylia am ein sefyllfa ‘Byg Mileniwm’, pan diciodd y cloc drosodd i 00:00:00.

Felly o feddwl am ddiwedd y byd, pam ddim trin dy hun i Silohome? Gall dim ond $2.3 miliwn brynu’r cartref fwyaf diogel adnabuwyd gan ddyn. Mae’r rhain yn seilos taflegrau niwclear Rhyfel Oer, wedi cael eu hadeiladu ond, diolch byth, erioed wedi gweld angen, sydd nawr yn cael eu trawsnewid i mewn i gartrefi gor-ddiogel yng nghefn gwlad America.

Ailgylchied trawiadol o’r safleoedd drud ac, ar yr olwg gyntaf, diwerth yma, y peth brawychus ydy’r ffordd maent yn cael eu marchnata. Mae www.survivalcondo.com (mae’r enw yn rhoi blas i ti o’r wefan) yn datgan: “Yn y flwyddyn 2012, bydd yr argyfwng economaidd byd-eang presennol, newid hinsawdd fyd-eang a bygythiadau terfysgaeth yn ychwanegu at restr o fygythiadau cynyddol sydd yn gwneud bod yn berchen ar “Condo Goroesiad” yn benderfyniad craff.”

Y flwyddyn 2012! Mae’n ymddangos nad lleiafrif ecsentrig yn unig sydd yn ofni'r dyddiad hwn, ond mae digon o bobl gyfoethog iawn i ffurfio marchnad am gartrefi tanddaearol. Mae’r un wefan yn brolio eu bod wedi ymddangos yn ddiweddar ar bennod o Conspiracy Theory gyda Jesse Ventura! Sut allwn i anwybyddu hyn?

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â gwaith Mr Ventura, nid ditectif anifeiliaid anwes ydyw ond mae’n ymddangos fel brawd coll Steven Segal, sydd, er lles diddordeb cyhoedd Americanaidd, yn datgelu’r gwir mae’r llywodraeth yn cadw oddi wrthynt. Oedd hyn yn declyn marchnata da i'r condos goroesi?

Y llinell gorau gen i o ddarn newyddiaduraeth ymchwiliol Jesse Ventura ydy: “Pan glywais am y cynllwyn 2012 yma am y tro cyntaf, roedd yn swnio fel llawer o mymbo-jymbo oes newydd. Ond yna cawsom awgrym gan ddyn o’r enw Jim Higgins. Mae’n golygu llyfrau ar gynllwynia…”

Stopia! Dal y ffonau! Jim Higgins? Y dyn yna sydd yn golygu llyfrau ar gynllwynia? Mae’n rhaid bod ef yn gwybod am beth mae’n siarad, beth oedd ganddo i ddweud? “Dywedodd gall hwn fod yr un i ddiweddu popeth.” Wow. Os ydy Jim Higgins yn dweud hyn efallai dylwn i ail-gysidro… Ei waith yn sylfaenol, i’r rhai sydd ddim eisiau mwynhau’r rhaglen wych yma, oedd bod tystiolaeth wyddonol o ddigwyddiadau trychinebus yn 2012, a bod y llywodraeth Americanaidd wedi bod yn paratoi bynceri er mwyn i’r elitwyr fyw ynddynt. Yn ôl pob tebyg, meddai survivalcondos.com, gallet ti hefyd fod yn y lleiafrif saff yma sy’n cael eu casáu!

Mae gwahanol wefan, www.silohome.com, yn datgan ’defnydd posib’ o’r datblygiad ym mharc stad Efrog Newydd: “Gyda realiti Medi’r 11eg, pam ddim cael hafan ddiogel i gilio ynddo os ydy rhywun angen yr opsiwn. Ar yr un amser, lle grêt i fynd i ffwrdd am y penwythnos neu ar wyliau.” Gwych eu bod yn gallu cyfuno lle cuddio apocalyptaidd a chartref gwyliau. Mae gan y wefan hon llawer o linciau hefyd sydd, cyn belled a welaf, yno er mwyn i ti gael dy gyfeirio at yr arddangosle silohome os wyt ti’n chwilio am unrhyw un o’r brawddegau canlynol: ‘diwedd 2012’, ‘calendr Mayan’, ‘lloches ymbelydrol’ neu ‘goroesiad eithaf’. Mae’n wirioneddol poeni fi fod pobl yn gallu cymryd theori cynllwyn mor ddifrifol fel eu bod yn gallu marchnata cartrefi $2.3 miliwn ar sail ofn.

Dwi’n meddwl mai’r gwir gwestiwn yw, ydy unrhyw un wedi cysidro beth sydd yn digwydd i’r silohome o dan tsunami? Os ydw i’n gwario’r fath yna o arian dwi eisiau silo taflegryn niwclear sydd yn dal dŵr diolch yn fawr.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.