Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

X-Factor Yntau X-Fixer?

Postiwyd gan Tim_Crompton o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 27/10/2009 am 16:20
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Cerddoriaeth, Pobl, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes

  • xfactor

English version

Mae’n ymweld yn od i mi fod yr unig act i gael ei fwio ar y llwyfan yn parhau i fod yn y gystadleuaeth wrth iddo gyrraedd rownd pedwar. Mae John ac Edward i weld fel pobl neis i mi, paid â chael fi’n anghywir maen nhw’n andros o gythruddol, fel pan mae un o’r pryfaid mawr yna yn cael yn sownd yn dy ystafell neu gar. Ond y peth sydd yn fy nghael i ydy’r ffaith syml fod yr hogiau yma ddim yn gallu canu i achub eu bywydau. Gallwn ddeall nhw’n mynd mor bell â hyn yn Britain’s Got Talent, gan mai sioe dalent yw hwnnw a’r peth allweddol ydy adloniant.

Ond cystadleuaeth canu ydy’r X-Factor, naci? Mae’r ddeuawd Wyddelig yn gallu adlonni’r boblogaeth, ond nid gyda pherfformiad da yn lleisiol. Mae’r groes yn wir, fel un o’r hen gomedïau, sydd mor ddrwg mae’n dda. Ond mae’r X-Factor yn ceisio darganfod canwyr da, sydd efo gobaith o werthu recordiau yn y byd go iawn. Does gan yr hogiau yma ddim gobaith o wneud hyn.

Mae’n ymweld fel bod rhaid i un lle ymysg y rhai yn rownd derfynol yr X-Factor bob blwyddyn yn gorfod cael ei lenwi, yr act gythruddol. Yn 2006 y McDonald Brothers lenwodd y lle hwn, gyda nhw’n cythruddo Simon Cowell bob wythnos. Yna yn 2007 Same Difference gymerodd y llwyfan, a’i chariad am fywyd gorfywiog yn cythruddo rhai pobl gan gynnwys Louis Walsh, a’r flwyddyn yma mae’n edrych fel mai John ac Edward sydd wedi llenwi’r bwlch hwn, gydag agwedd ffroenuchel braidd sydd wedi rhwygo’r genedl yn ddau. Mae’r perfformwyr hyn fel arfer efo hanner y genedl yn cefnogi nhw a hanner ddim. Yn union fel Marmite; ti’n unai yn ei garu neu ei gasáu. Ond drwy siarad gyda phobl dwi’n adnabod, mae’r rhan fwyaf i weld yn casáu John ac Edward, mae’n amlwg fod pobl yn cythruddo â nhw gymaint fel eu bod yn “bwio”.

Dyma pam dwi’n meddwl ei fod yn syndod eu bod nhw dal yno. I gychwyn ni fedran ganu. Maen nhw’n gallu adlonni, ond mae’r X-Factor yn ymwneud â chanu.

Yn ail mae’n ymweld fel bod casineb ofnadwy tuag atynt, wrth gwrs bydd yna rai ohonoch sydd yn caru’r efeilliaid, ond cywira fi os ydw i’n anghywir, mae’r rhan fwyaf yn eu casáu. Byddai’n iawn os gallent ganu a bod pobl yn cythruddo â nhw, fel y brodyr McDonald a Same Difference…ond yn wirioneddol ni allent!

Dyma pam dwi’n meddwl fod yr X-Factor yn twyllo canlyniadau eleni, os ydy John ac Edward ddim yn gallu canu a ddim yn ymweld mor boblogaidd â hynny, yna sut mae posib iddynt gyrraedd rownd pedwar? Mae’r perfformwyr sydd yn gorfod mynd er mwyn cadw’r efeilliaid i mewn, yn ganwyr da a gallent fod efo cyfle i werthu recordiau, roedd Miss Frank efo steil gwahanol ac roeddwn yn meddwl bod bwlch yn y farchnad iddynt yn rhywle, ond nhw ydy’r golled ddiweddaraf o’r terfysg John ac Edward, yn mynd allan wythnos ddiwethaf.

Mae John ac Edward yn ymweld fel hogiau da, yn gythruddol ond maen nhw yn y gystadleuaeth anghywir.

Tim Crompton

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.