Y Ddadl Fawr 2011
English version
Mae Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro yn cynnal ei ail ddigwyddiad ‘Question Time’ dydd Mawrth 12 Ebrill 2011 yn Theatr Merlin, Coleg Sir Benfro, Hwlffordd.
Mae ‘Question Time’ ar agor i bob person ifanc 11 i 25 oed sydd yn byw yn Sir Benfro, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Gynulliad Ieuenctid y sir.
Mae Question Time y BBC wedi bod yn rhedeg am dros 25 mlynedd a dyma yw’r rhaglen wleidyddol Brydeinig sydd yn cael ei wylio fwyaf.
Mae pobl ifanc yn gallu gofyn cwestiynau am unrhyw bynciau sydd yn effeithio nhw i banel o bobl allweddol sydd yn gwneud penderfyniadau. Mae’r digwyddiad yn anelu helpu pobl ifanc ddysgu am ddinasyddiaeth, cyfrannu i drafodaethau gwleidyddol cyffrous, gwella sgiliau siarad a gwrando a chysylltu gydag aelodau o’r gymuned.
Mewn cyfarfod Cynulliad Ieuenctid diweddar, gofynnwyd i aelodau pa faterion fydda nhw’n drafod yn ystof eu ‘Question Time’ delfrydol a pa gwestiynau fydda nhw’n gofyn i'r panel. O’r canlyniadau hyn gall ddewis pa bobl fyddai’n cael gwadd i eistedd ar y panel ac wynebu cwestiynau gan gynulleidfa byw.
Aelodau’r panel fydd y bobl sydd ar y lefel uchaf sydd yn gyfrifol am benderfynu’r polisïau a gwario yn eu maes. Bydd meysydd yn cynnwys addysg, trosedd, cludiant a hamdden.
Y bwriad yw rhoi cyfle i bobl ifanc dros y sir i ddadlau yn uniongyrchol gyda’r arweinwyr sydd yn gwneud penderfyniadau ac eraill sydd efo pŵer a dylanwad: i gyfnewid barn, a hefyd i archwilio ac i wneud yn atebol. Mae’r gynulleidfa byw yn gymaint o ran o’r digwyddiad â’r rhai sydd ar y panel.
Byddent yn cwestiynu’r panel ar amrediad o faterion testunol sydd yn effeithio pobl ifanc dros y sir.
Mae’r digwyddiad yn agor i bob person ifanc 11 i 25 oed sydd yn byw yn Sir Benfro. Mae llefydd yn brin, felly os hoffet ddod i’r digwyddiad, cysyllta â’r Tîm Gwybodaeth a Chyfranogi Ieuenctid ar 01646 680863.
DELWEDD: photosteve101







