Y Drychineb Yn Japan
Ar ddydd Gwener 11 Mawrth, roedd y byd yn sefyll ac yn gwylio wrth i olygfeydd brawychus ac emosiynol o ddinistr yn amlygu ar ein sgriniau teledu, gwefannau newyddion rhyngrwyd a phorthiant byw dros y byd. Am 2:46pm amser lleol (5:46am GMT) tarodd daeargryn maint 8.9 oddi ar arfordir Gogledd Ddwyrain Japan, tua 250 milltir o Tokyo ar ddyfnder o 20 milltir. Datganwyd mai dyma’r daeargryn cryfaf i daro Japan ers i gofnodion gychwyn 140 mlynedd yn ôl.
Yn ôl UPSeis, gwefan addysgiadol i seismolegon, mae daeargryn main 8 neu fwy yn cael ei gysidro’n ‘Daeargryn Mawr’ ac amcangyfrif fod y trychinebau naturiol yma ddim ond yn taro unwaith pob 5-10 mlynedd gydag effaith dinistriol i’r cymunedau sydd yn byw yn agos i’r uwchganolbwynt. Y daeargryn mwyaf gafodd ei gofnodi oedd Daeargryn Mawr Chile yn 1960, gyda maint 9.5.
Yn Tokyo dywedodd Roland Buerk o’r BBC: “Roedd adeiladau’n swaeo… roeddwn i yn y stryd, roedd o fel cerdded dros ddec llong ar y môr. Roedd pobl wedi brawychu, rhai yn gollwng i’r llawr mewn ofn”. Cafwyd adroddiadau tebyg gan breswylwyr lleol:
“Doedd yr adeilad ddim yn ysgwyd, roedd o’n rholian, fel cwch ar y môr. Roedd o’n arswydus iawn. Fe wnaeth fi’n ofnus ofnadwy.” (Jeffrey Balanag







