Y Gwir Am Mephedrone
Peidiwch â drysu mephedrone gyda methadone (sylwedd sydd yn cael ei ddefnyddio i drin rhywun sydd yn gaeth i heroin).
Mae yn edrych yn debygol y bydd mephedrone yn cael ei wahardd. Ar ôl hanesion fod mwy a mwy o bobl ifanc Prydain yn marw ar ôl camddefnyddio’r cyffur, Mephedrone (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel m-cat, meow, MIAOW), mae’r Pwyllgor Cyngor ar Gamddefnyddio Cyffuriau yn argymell fod y cyffur cyfreithiol yn dod yn gyffur Dosbarth B. Mae cyffuriau dosbarth B yn cynnwys canabis ac amffetamin.
Mae mephedrone yn cael ei werthu fel powdr gwyn sydd fel arfer yn cael ei sniffian i fyny’r trwyn, ond mae hefyd ar gael mewn capsiwlau a thabledi neu yn gallu cael ei gymysgu mewn hylif, neu hyd yn oed ei chwistrellu. Mae’n dod yn fwy poblogaidd mewn clybiau nos, gan fod y cyffur cyfreithlon yn cael ei ddefnyddio yn lle ecstasi a chocên. Mae rhai o’r effeithion gall gael yn ddychrynllyd, i feddwl fod y llywodraeth wedi gadael i mephedrone fod yn gyfreithlon hyd yn hyn. Mae mephedrone yn gallu achosi trwyn gwaedlyd, llosgiadau i’r trwyn, rhithwelediadau, cyfog, chwydu, problemau cylchrediad y gwaed, brech, pryder, paranoia, ffitiau, a rhithdybiau.
Cafodd un person oedd yn defnyddio’r cyffur, ar ôl 18 mis o’i ddefnyddio dau waith yr wythnos, ei yrru i uned seiciatrig. Daeth yr argymhelliad ar ôl I 2 o bobl ifanc farw yn ddiweddar. Mae ymchwil wedi darganfod fod y cyffur ymhlyg yn gyffredinol mewn 18 marwolaeth yn Lloegr a 7 yn yr Alban. Ond nid oes prawf gwyddonol eto fod y marwolaethau yn gysylltiedig â mephedrone, er mae gwyddonwyr yn parhau i weithio i weld os ydy’r cyffur yn niweidiol.
Mae’r cyffur, sydd yn cael ei gondemnio yn gyfreithiol, yn cael ei werthu ar wefannau ar y rhyngrwyd. Mae nifer o ddelwyr wedi cael eu cysylltu gan y cyfryngau ac yn cracio gyda’r straen; fel canlyniad mae ei gwefannau yn cael eu cau.
Wrth chwilio yn Google daeth saith o wefannau i fyny ar y dudalen gyntaf. Mae hyn yn dangos pa mor hawdd a hygyrch ydy’r cyffur i ddefnyddwyr ifanc.
Mae hyd yn oed y rhai sydd yn darparu’r cyffur yn dweud nad ydyn wedi, ac na fyddent byth, yn trio’r cyffur eu hunain, fod darparu’r cyffur yn syml yn ‘rhedeg busnes’ a dyma maen nhw yn ei wneud fel ‘bywoliaeth’.
Dywedodd deliwr o Leeds, “Ti’n wirion i gymryd o.”
Cafodd deliwr o Abertawe ei gyfweld gan newyddiadurwr Newsbeat, o BBC Radio One, ac roedd ef yn amddiffyn y busnes mephedrone drwy ebychu mai’r diwydiant tybaco a alcohol ddylai fod yn teimlo’n euog gan fod mwy o farwolaethau yn gysylltiedig I nhw nag mephedrone.
Beth ydych chi’n feddwl am y cyffur cyfreithlon mephedrone?
Ddylai o fod yn anghyfreithlon?
Os ydych chi angen cymorth yn ymwneud â phroblemau cyffuriau yna mae sefydliadau gall helpu ar dudalennau camddefnyddio sylweddau CLIC.







