Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Help us push CLIConline forwardHelpwch ni i ddatblygu CLICarlein

Y Siwrne Nerfus

Postiwyd gan Ollys_Direction o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 25/08/2011 am 11:34
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd, Materion Cyfoes

  • eye shadow

English version

Y Siwrne Nerfus Trwy Bryder Ac Iselder

Felly'n ddiweddar dwi wedi bod yn edrych drwy erthyglau ac wedi dod ar draws yr un yma drosodd ar theSprout.

Roeddwn yn meddwl fod y person ysgrifennodd y darn yma yn ddewr iawn, a gan fy mod i wedi bod drwy siwrne debyg, meddyliais byddwn yn rhannu fy mhrofiad.

Wedi'r cwbl, mae wedi bod yn rhan o fy mywyd am dipyn bellach a dwi'n gobeithio bydd yn helpu pobl ifanc sydd efallai yn dioddef yr un peth.

Gyda llaw, dylwn i rybuddio ti, mae braidd yn hir, felly os wyt ti'n mynd i ddarllen hwn i gyd, byddwn yn gwneud hyn pam mae gen ti ddigon o amser. Paid poeni; dwi ddim yn meindio os ddei di yn l wedyn!

Reit, felly dwi'n meddwl dylwn i ddechrau ar y cychwyn. Yn l yn 2006, tuag at ddiwedd yr haf/mis Medi cynnar fe ddechreuais bryderu am bethau. Roeddwn yn dilyn fy mam i bob man a trwy'r noson byddwn yn gwaeddi "nos da!" ac os nad oedd hi'n ateb oherwydd gan ei bod yn cysgu, byddwn yn sgrechian y t? i lawr.

Doeddwn i byth yn meddwl pam roeddwn yn gwneud hyn tan iddi ofyn un noson "pam fod ti'n gweiddi yn y nos arnaf i?" Atebais "Dwi ofn byddet ti'n marw, mam." Ia, dyna oedd yr holl banig yma – yr ofn o golli mam. Digwyddai ymhobman. Yn yr ystafell fyw tra roedd hi lawr yn y gegin, fi yn fy ystafell ar y cyfrifiadur a hithau yn yr ystafell fyw yn gwylio'r sebonau.

Ni wellodd pethau, chwaith. Roeddwn yn gweiddi mwy a mwy, ac os na oeddwn yn cael ateb byddwn yn sgrechian ac yn rhedeg i weld os oedd hi'n fyw. Yn amlwg, nid oedd hyn yn rhywbeth arferol, o gysidro fy mod i'n 11 oed ac yn cael yn barod i fynd i'r ysgol uwchradd y flwyddyn wedyn.

Felly, gan fod mam yn gweithio efo bob math o bobl wahanol oedd yn gweithio gyda phlant am eu lles, siaradodd gydag un o'r merched oedd yn gyfrifol am asesu problemau pobl ifanc, ac yna penderfynu beth fyddai'n digwydd.

Daeth y ddynes ataf un diwrnod a chwestiynu fi, llenwi ffurflenni a phenderfynu pasio fi ymlaen at seicolegydd yr ysgol. Roedd hyn yn ofni fi braidd felly pan gawsom apwyntiad o'r diwedd i weld y seicolegydd, cefais pwl o banig. Un go iawn hefyd, dim fel y rhai bach roeddwn wedi bod yn cael am mam.

Roedd yn codi ofn arnaf i ac ar mam. Gan mai seicolegydd yr ysgol roedd rhaid i mi weld, yn amlwg roedd rhaid i mi ei weld yn yr ysgol (roeddwn yn flwyddyn ddiwethaf ysgol gynradd ar yr adeg, dim ond i ti gael gwybod) ac fel cefais fy ngalw gan un o'r athrawon i adael i mi wybod bod mam lawr grisiau gyda'r seicolegydd, cefais bwl o banig arall. Y tro hwn o flaen y plant i gyd yn y dosbarth. Roedd rhai yn meddwl bod hyn yn ddoniol, eraill yn meddwl ei fod yn od.

Aethom a fi allan a galw ar mam i ddod i dawelu fi cyn mynd i weld y seicolegydd. Dwi ddim am ddiflasu ti efo beth gafodd ei ddweud gan bwy. Dwi am fyrhau'r darn yma drwy ddweud, fe welais ychydig mwy o weithiau cyn cael fy nghyfeirio at y Clinig Carnegie yn Nhrehafod ochr yn ochr 'r meddyg teulu.

Roeddwn yn mynd i'r clinig hwn am gyfnod rheolaidd, yn ceisio darganfod beth oedd wedi achosi hyn a sut i roi stop arno. Cymerodd dipyn o amser a chefais dechnegau gan y seicolegydd i'm hymlacio ac ati dros y misoedd nesaf. Yn y diwedd, stopiais gael y pyliau panig yma. Roedd pawb yn meddwl fy mod wedi tyfu allan ohonynt. Camgymeriad mawr.

Yn flwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd roeddwn yn iawn. Roeddwn yn iawn tan flwyddyn 8. O gwmpas Nadolig 2008, dwi'n meddwl, cychwynnais gael pyliau o banig eto a aeth pethau'n waeth. I ddweud y gwir, wedi meddwl, roedd hi cyn hynny, gan fy mod wedi cael cyfres o byliau o banig yn Disneyland Paris. Un o fy llefydd gorau yn y byd, felly roedd pawb yn gwybod fod rhywbeth o'i le.

Ddim yn hir wedi 'The V Factor', sioe dalent oedd yn digwydd yn y Park & Dare yn Nhreorci yn 2009, fe ddois adref o'r ysgol a dechrau beichio wylo wrth i mi ymgwympo ar y soffa. Gofynnodd mam beth oedd yn bod a wylais i mewn i'm nghlustog "Fedrai ddim gwneud hyn ddim mwy."

Dros y misoedd diwethaf yn yr ysgol roeddwn wedi bod yn teimlo'n clawstroffobig gan fod 1,500 o ddisgyblion yno ar y pryd (dwi'n meddwl fod hyn wedi cynyddu i 1,600 nawr) ac roeddwn yn teimlo'n bryderus iawn ac yn dod yn fwy pesimistaidd am bopeth. Roedd y dyddiau yn teimlo fel eu bod yn ymestyn ac roeddwn yn teimlo fel carcharwr mewn bywyd ac ar ben fy hun. Fedrai ddim disgrifio fy holl deimladau am eu bod mor od a phoenus.

Ffoniodd mam fy nhad a dweud ei bod am wneud apwyntiad doctor argyfwng am y diwrnod canlynol. I ddweud y gwir, roedd hyn yn syniad gwirion gan fod y doctor arferol ddim yno ac roedd rhaid gweld y doctor anobeithiol yma oedd bob tro'n cael pethau'n anghywir. Teimlai fel ei fod yn holi fi'n graff pan ofynnai cwestiynau i mi ac yn gwneud iddo ymddangos fel mai fi oedd yn bod yn wirion.

Dychrynodd fi cymaint fel y cefais bwl o banig arall. Roedd rhaid i dad fynd a fi allan tra roedd y doctor yn siarad efo mam. Cysylltodd gyda'r Clinig Carnegie eto a rhoi fi lawr fel achos argyfwng. Dywedodd wrth mam gadw fi i ffwrdd oddi wrth farwolaeth gan ei fod wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd fel colli ffrindiau, aelodau teulu ayb.

Mae'n ddrwg gen i, ond doedd hynny, ac nid yw hynny, yn gwneud synnwyr i mi o gwbl. Sut mae posib cadw i ffwrdd o farwolaeth? Mae'n rhan o fywyd a gallai ddigwydd yn unrhyw le ar unrhyw amser. Beth oeddwn i yn fod i wneud? Cuddio yn fy ystafell am byth? Awgrymodd hefyd fy mod yn aros adref o'r ysgol am dipyn. Syniad drwg hefyd.

Pan ddaw'n amser i fi gychwyn yn l yn yr ysgol (a phaid gofyn beth helpodd wneud y penderfyniad i fi fynd yn l, gan dwi ddim hyd yn oed yn gwybod) ond doeddwn i ddim yn gallu mynd. Roeddwn yn cael pyliau panig difrifol ac yn ofni ysgol yn llythrennol.

Roedd rhaid i'r ysgol alw cyfarfod gyda mam a phobl eraill oedd yn rhan o fy lles (dwi'n meddwl fy seicolegydd, gweithiwr cymdeithasol a phwy arall? Dwi ddim yn gwybod, doeddwn i'n cymryd dim sylw) a cheisio trafod beth oedd orau i mi. Roedd fy addysg yn cael ei aflonyddu yn ofnadwy ond roedd fy iechyd hefyd yn fwy pwysig.

Penderfynwyd y byddwn yn cael mynd am awr y dydd i ba bynnag wersi roeddwn yn mwynhau fwyaf (Drama, Saesneg) ac yna dros yr wythnosau adeiladu ar hyn gan ychwanegu gwers arall yma ac acw tan roeddwn yn l yn yr ysgol fel arferol. Swnio fel syniad da i fi. Trueni nad oedd

Gan fod mam yn gorfod dysgu mewn ysgol uwchradd wahanol ychydig filltiroedd i ffwrdd, roedd rhaid iddi ollwng fi yn nh? nain bob bore, lle byddwn yn gadael am yr ysgol (yn dal ar unrhyw beth allwn wrth gerdded am fy mod yn teimlo'n bryderus), cael addysg ym mha bynnag wers roeddwn wedi'i ddewis am awr, ac yna byddai nain yn cyfarfod fi pum munud cyn y gloch oedd yn gorffen y wers er mwyn i mi gael cerdded adref, yn osgoi'r dorf fel na fyswn yn teimlo'n clawstroffobig.

Am y ddwy wythnos gyntaf (dwi'n meddwl), roedd hyn yn gweithio. Ond un diwrnod, wrth i mam yrru i ffwrdd ar l gollwng fi yn nh? nain, fe wnaeth rhywbeth yn fy mhen wneud i mi wylo a rhedais ar l y car i fyny'r stryd yn galw arni i ddod yn l. Sylweddolodd mam arnaf a throi'r car rownd, dod allan o'r car (oedd wedi stopio yng nghanol y stryd ac yn gorfodi ceir eraill i stopio a chanu corn mewn dig), rhedeg drosodd a rhoi cwtsh i mi. Dyna pryd penderfynom fod pethau wedi mynd yn ddifrifol iawn.

Doedd merch 13 yn ymddwyn fel hyn ddim yn arferol – yn wylo am ei mam. Gwnaethom apwyntiad argyfwng arall yn y clinig. Daethant i'r penderfyniad fy mod yn dioddef o Cyclothymia (ryw fath o anhwylder deubegwn), pryder, iselder (pan gartref doeddwn i'n gwneud dim efo fy mywyd ac yn gwenu ar ddim. O gwbl.) a'r unig ffordd gallwn wella oedd gyda chyffuriau gwrth iselder. Doeddwn i ddim yn rhy si?r ar y cychwyn ond pan esboniwyd sut byddent yn fy helpu, penderfynais mai dyma fyddai'r peth gorau. Dyna'n union beth oedd.

Cymerodd tua thair wythnos  i mi addasu i'r feddygaeth (roeddwn yn teimlo'n sl trwy'r adeg ar y cychwyn) ond cychwynnais stopio panigio a theimlo mor isel. Ar l yr haf, cychwynnais yn l yn yr ysgol fel arferol a chefais Ddawns Fasgiau mawr ar fy mhen blwydd yn 14, ac roedd fy ffrindiau i gyd wrth eu boddau. Roeddwn dros y gwaethaf. Wrth gwrs, roeddwn dal i gael pyliau o banig bob hyn a hyn, a chyfnodau lle'r oedd fy emosiynau ymhobman (mae'n digwydd hyd heddiw. Nid fydd yn diflannu ond dwi'n well nag yr oeddwn felly Dw Da Dw, mae popeth yn dda) ond roedd y gwaethaf drosodd.

Er fy mod i bellach yn well, doeddwn i dal ddim yn gwneud llawer gyda fy mywyd. Hynny yw, nes i Wicid a CLIC ddod i'm mywyd. Efallai fyddet ti ddim yn credu hyn neu'n meddwl "Dim ond dweud hyn mae hi am ei bod hi'n ysgrifennu'r erthygl yma blah blah blah" ond gofynna di i unrhyw un sydd yn adnabod fi'n dda a fyddi di'n gweld fy mod i'n dweud y gwir 100%.

Gan fy mod wrth fy modd gydag ysgrifennu, mae'n rywle gallaf fynegi fy hun ac ysgrifennu am beth bynnag dwi eisiau (yn amlwg, o fewn rheswm) ac mae hefyd wedi rhoi hwb o hyder mawr i mi. Dim ond efo mam oeddwn i'n arfer mynd i lefydd ond yna  fe es ar ddau Breswyl, y Preswyl CLIC i Ynys Mn ac yna'r Preswyl Wicid yn Sir Benfro (fe wnes cymaint o ffrindiau newydd yn y ddau le hefyd, felly nawr dwi efo ffrindiau sydd efo rhywbeth yn gyffredin fi, yn wahanol i bobl yn yr ysgol) a dwi wedi gwneud cymaint o bethau ers hynny fel fy mod i bellach yn brysur drwy'r adeg!

Dwi'n mynd i lefydd gyda mwy o hyder nac erioed o'r blaen, a nawr dwi ddim ofn mynd at griw o bobl ddiarth a gwneud ffrindiau. Dwi hyd yn oed ddigon dewr i roi cwtsh iddynt! Byddwn i erioed wedi gwneud hynny o'r blaen. Dwi wedi gwneud cymaint o bethau o adolygu Billy Elliot i gyfweld Gino D'acampo (rhois gwtsh iddo ef hefyd! Roedd o'n lyfli!) a dwi wedi llwyddo cymaint.

O'r diwedd dwi wedi torri allan o fy mhlisgyn. Dwi'n fi newydd a gwell, fedra i fod yn pwy bynnag dwi eisiau bod a ddim poeni o gwbl (eto, o fewn rheswm, dwi'n poeni am fy ffrindiau, teulu ac ati.. sori dwi wedi crwydro braidd) a dwi mor hapus efo fi a bywyd nawr. Dwi'n gobeithio gwella fy hyder, cyflawni mwy a gwneud ffrindiau newydd hefyd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cael effaith ar gael fi'n well a ble rwyf heddiw fel Wendy Morris a Dr Nimani, fy seicolegydd a seiciatrydd, fy nheulu, athrawon yn yr ysgol – yn enwedig fy athro Gwyddoniaeth blwyddyn 8 a 9, Mr Nelson, am fod yno i siarad unrhyw amser, ac i fy mhennaeth blwyddyn trwy flynyddoedd 7-10 am wneud beth bynnag gallai i gael fi drwy hyn i gyd, ac wrth gwrs i bobl Wicid a CLIC a'r holl ffrindiau dwi wedi'i wneud am helpu fi i dorri allan o'm mhlisgyn.

Hoffwn hefyd ddweud, os wyt ti'n teimlo fel dy fod di'n dioddef, mae gobaith ac mae cymorth ar gael. Dweud wrth rywun fel rhiant neu athro. Does ddim rhaid dioddef – yn enwedig ar ben dy hun.

Am wybodaeth bellach ar iselder ymwela 'r adran ar Iechyd Meddwl yn yr adran Gwybodaeth o Wicid yma. Defnyddia'r adran sylwadau yma a'r rhifau ffn yn yr adran Sefydliadau.

Cofia bod y llinell gymorth Meic hefyd ar gael os wyt ti angen siarad gyda rhywun yn gyfrinachol. Fel dywedodd ihavethecyrusvirusx. Nid oes rhaid dioddef, yn enwedig ar ben dy hun.

Oedd hyn (y wybodaeth) yn ddefnyddiol i ti?

[Nid oedd o'n dda, ond oedd o'n ddefnyddiol]

     

Diolch am dy help!

Mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi.

Mae drwg gennym am nad oedd y wybodaeth am ddefnydd

A allwch chi sbario eiliad i ddweud pam?


Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill 50