Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ydy’r Ffactor Sgwâr Gen Ti?

Postiwyd gan Young Newport o Casnewydd - Cyhoeddwyd ar 18/05/2010 am 09:45
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Gwyl, Cerddoriaeth, Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes

English version

Wyt ti mewn band neu yn berfformiwr unigol? Hoffet ti gyflwyno dy dalentau o flaen cynulleidfa enfawr?

Ddydd Sul 18 Gorffennaf 2010 yng nghanol Casnewydd cynhelir digwyddiad cerddoriaeth am ddim er cof am John Sicolo, sefydlydd ganolfan gerdd TJ’s.

Wedi’i drefnu gan TJ’s a chylchgrawn Voice mewn cydweithrediad gyda Cartrefi Dinas Casnewydd, Sgwâr John Frost yw’r lleoliad awyr agored ar gyfer TJ's Yn y Sgwâr, lle bydd rhai fel GLC, Flyscreen a Sick Livers yn perfformio i gynulleidfa enfawr mae’n sicr.

Gobeithir y bydd pymtheg o fandiau yn chwarae, y mae pedwar ar ddeg ohonynt wedi eu trefnu’n barod, ond mae’r hyrwyddwyr yn chwilio am un act derfynol i gwblhau rhestr o berfformwyr. Dyma rywbeth y gallet ti fod â diddordeb yno.

Os wyt ti yn 18 oed neu iau ac yn gwneud cerddoriaeth o unrhyw ddisgrifiad, gall gyflwyno dy hun a gall o bosib cael dy ychwanegu at y rhestr.

I wneud cais, anfona demo – nid oes raid iddi fod o ansawdd broffesiynol oherwydd maent yn chwilio am dalent heb ei datblygu – CD neu dâp, neu hyd yn oed ddim mwy na dolen i dy dudalen MySpace ac ati a bydd panel o arbenigwyr yn y diwydiant yn rhoi deg o berfformwyr ar y rhestr fer i fynd ymlaen.

Os wyt ti yn un o’r deg a ddewisir, yna byddet yn mynd ymlaen i ysgol roc dau ddiwrnod yng Nghasnewydd, lle bydd arbenigwyr y diwydiant yn dy wylio yn perfformio ac yn rhoi dosbarthiadau meistr i ti mewn pynciau fel bod yn gerddor, peirianneg sain, sgiliau cyfweld, edrychiad a steil a mwy. Byddet hefyd yn cael sesiwn o dynnu lluniau.

Ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, byddet yn perfformio mewn arddull X Factor o flaen panel o feirniaid. Bydd y band sydd wedi elwa fwyaf o’r cyngor a roddwyd yn ennill.

Mae’r rhestr wych o wobrau a roddir i’r enillydd/wyr yn darllen fel hyn:

  • Slot cefnogi yn y gig ar Orffennaf 10fed
  • Sesiwn dynnu lluniau lawn mewn stiwdio gyda ffotograffydd proffesiynol
  • Logo wedi ei ddylunio ar gyfer ti neu dy fand
  • Prynhawn o recordio mewn stiwdio
  • Chwe chrys-t gyda dy logo arnynt
  • Cyfweliad gyda chylchgrawn Voice

Gwneir ffilm ohonot hefyd yn y gig ym mis Gorffennaf fel rhan o raglen ddogfen sy’n cael ei gwneud a’r lluniau cyhoeddusrwydd a fydd yn cael eu cymryd.

Mae’n debyg mai dyma un o’r cyfleoedd gorau i gerddorion ifanc y mae Casnewydd Ifanc erioed wedi ei weld, felly mae’n siŵr y byddet am wybod sut i wneud cais am y cynnig. Bydd y ddolen isod yn mynd â thi i’r ffurflen gais. Hysbysir y deg band olaf ddydd Iau 3 Mehefin, a chyhoeddir yr enillydd ddydd Sul 20 Mehefin.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb o dan 18 – nid dim ond y rhai hynny sydd yng Nghasnewydd.

Pob lwc!

Ffurflen Gais Ydy’r Ffactor Sgwâr gennych chi?

Ydy’r Ffactor Sgwâr Gen Ti? yn digwyddiadau

DELWEDD: deep_schismic

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.