Ynys Amser #3
English version
Dal i fyny gydag Ynys Amser yma
Pennod 2: Y Brenin Teigr
Fe wnaeth Chris a Tom adael y funud honno ac ar ôl dweud hwyl fawr a rhoi'r bagiau ar eu cefnau cerddant i mewn i'r jyngl. Cerddant am oriau ac oriau nes iddynt gyrraedd y deml. Cerddodd Chris at un o'r waliau a chychwyn darllen yr arysgrif oedd wedi cerfio i mewn iddo. Cerddodd Tom drosodd ato ac roedd wedi'i ddrysu'n llwyr gyda'r ysgrifennu od.
"Dyma ysgrifennu Mirrarsten. Dyma'r iaith oeddwn i am ddysgu i ti cyn i ni adael ond gan dy fod di mewn cymaint o frys i adael ces i ddim cyfle," meddai Chris.
"Beth maen nhw'n ddweud?"
"Maen nhw'n dweud fod pawb sydd yn dod i mewn heb wahoddiad am fawr. Ond paid bod ofn, dwi wedi bod yma sawl gwaith a dwi dal yma."
"Gad i ni weld beth sydd tu ôl i fanna."
"Na disgwyl!"
Gwthiodd Tom ddrws yn agored a daeth picell enfawr allan o'r wal a'i fethu o fodfedd.
"Dyna pam ti'n darllen cyn mynd i mewn i ystafell."
"Sori."
"A'i gyntaf a dilyna di. Paid cyffwrdd dim."
Cerddodd y ddau trwy bum ystafell arall i gyd efo trapiau ynddynt. Pan ddaethant i'r ystafell nesaf roedd yr ysgrifen ar y wal yn dweud fod pawb sydd yn chwilfrydig yn marw. Gan fod Chris a Tom eisiau gwybod beth oedd yn yr ystafell yn ôl hwn byddant yn marw.
"Beth wyt ti'n meddwl sydd mewn yno?" gofynnodd Tom.
"Dwi'n meddwl trysor, ond dim ond un ffordd sydd i ffeindio allan."
Gwthiodd Chris y drws yn agored a daeth tair picell fawr o bob ochr o'r wal. Deifiodd ac osgoi pob un ac roedd Tom wedi'i synnu gyda beth roedd Chris newydd ei wneud. Pan roeddent wedi sicrhau nad oedd mwy o drapiau aethant ymlaen at yr allor ac yna, yn gorwedd mewn cyflwr newydd sbon, oedd cleddyf efo'r geiriau 'ano cantashon' wedi'i gerfio ynddo.
"Beth mae'r geiriau'n feddwl?" gofynnodd Tom.
"Wel, os dwi'n darllen y rhain yn gywir dwi'n meddwl bod nhw'n golygu 'Ffyrnigrwydd Brwydr'." Cododd Chris y cleddyf i fyny ac edrych arno am funud neu ddau. "Dalia!" meddai,
"Beth? Ti ddim eisiau ef?"
"Na," meddai Chris, "mae gen i un yn y bag."
Trodd Chris i rownd ac i mewn yn ei fag roedd cleddyf o brydferthwch anhygoel, bron mor brydferth â'r un roedd Tom yn ei ddal nawr. Ymestynnodd Tom i'w fag a chreu daliwr cleddyf allan o'i strap. Rhoddodd y cleddyf yn sownd i'w ochr a dilyn Chris allan o'r ystafell. Wrth iddynt gau'r drws trodd y ddau o gwmpas i weld dyn mawr wedi'i wisgo mewn brethyn gyda dau deigr enfawr wrth ei ochr. Rhyfeddodd Tom a Chris sut gallai reoli'r teigrod. Ond cyn hir sylweddolant mai ef oedd y Brenin Teigrod o'r chwedlau a gallai reoli teigrod trwy ei feddyliau. Roedd yn sefyll yno yn edrych ar Tom a Chris ac yn archwilio nhw. Yna siaradodd. "Pwy ydych chi?"
Atebodd Chris a Tom gyda'r geiriau o'u henwau a hefyd "Ni ydy trigolion traeth yr ynys amser."
"Pam ydych chi yma?"
"Rydym yma am fod angen gwybodaeth am y Brenin Amser arnom ni," meddai Chris.
"Pam ydych chi eisiau gwybod am y Brenin Amser? Gall neb drechu ef.:
"Rydym ni'n credu gallem ni."
Chwarddodd Brenin y Teigrod. "Sut ydych chi'n disgwyl trechu ef? Nid oes gan yr un person ar yr ynys hon y p?er i'w drechu os nad yw'r un o'r broffwydoliaeth gydag ef neu hi, ond fel y gwelai…:
Torrodd Chris ar ei draws. "Ni ydy'r rhai sydd wedi'u dewis. Daethom yma o wlad o'r enw'r Ddaear ac mae'r ddau ohonom efo'r p?er i drechu'r Brenin Amser."
Roedd Brenin y Teigrod wedi synnu. "Wel, os byddwn i'n gwybod hynny o'r cychwyn yna byddwn i ddim wedi'ch cwestiynu chi. Dilynwch fi."
Dilynodd Tom a Chris y Brenin Teigrod i'w deyrnas, oedd yn llwyth o dai ar dop y coed. Pan roeddent ar y top galwodd y Brenin Teigrod ar un o'i weision teigrod i ddod a d?r iddo ac yn anhygoel aeth y teigr i ffwrdd i nôl d?r. Ar ôl tua dau i dri munud daeth yn ôl gyda jwg yn llawn d?r. Dywedodd rhywbeth mewn Mirrarsten cyn mynd i ffwrdd i ddisgwyl i gael ei alw eto.
"Os oes unrhyw beth gallaf i a'm myddin ei wneud i helpu yna plîs gadewch i ni wybod.:
Ysgwyddodd Tom a Chris eu pen.
"Wel os ddim, yna bydd un o'm ngweision yn mynd a chi i'ch lluestfa. Yna gallwch chi adael peth cyntaf yn y bore."" Galwodd at un o'i weision i fynd a nhw i'w ystafelloedd a gweini arnynt.
Ar y ffordd i'r ystafelloedd dywedodd Tom wrth Chris "Mae'r Brenin Teigrod yna i'w weld yn debyg iawn i'm mrawd Ben."
Wel mae'n debyg mai dy frawd Ben di ydy ef.:
"Wel, o leiaf dwi'n gwybod ble mae o nawr."
"Ia ," meddai Chris, "ond bydd ceisio'i gael ar ei ben ei hun a'i gael i ddeall mai ef ydy dy frawd di yn anodd gyda'r holl deigrod yn amddiffyn ef."
"I, ond beth os ydy rhywbeth yn tynnu sylw'r teigrod, rhywbeth sy'n apelio llawer mwy na bachgen 13 oed heb lawer o gig arno?"
"O na,: meddai Chris, "does yna'r un ffordd ar y ddaear fedri di gael fi i dynnu sylw'r teigrod yna."
"Ah," meddai Tom, "un broblem efo dy ddadl di. Nid ar y Ddaear ydym ni."
Safodd Chris gyda golwg blin ar ei wyneb. "Beth wyt ti eisiau i mi wneud?"
Dechreuodd Tom esbonio'r cynllun iddo.
"Iawn, fe wna'i os wyt ti'n addo peidio cymryd mwy na phum munud."
"Cytuno," meddai Tom, yn chwerthin ychydig. Cychwynnwyd y cynllun wrth iddi droi'n hanner nos.
"Reit ta," meddai Chris, "barod?"
"Barod!" meddai Tom.
"Iawn, ar ôl tri, un, dau, tri!" ac ar y funud honno neidiodd Chris allan at warchodwyr ystafell Ben a chychwyn ysgwyd ei ben ôl atynt. Roeddent wedi hypnoteiddio'n syth gyda'r ddau dalp o gig o'u blaen a chychwyn rhedeg tuag ato. Ar y funud honno, caeodd ei lygaid a gweiddi "tigresso!" gan bwyntio atynt. Stopiodd y teigrod yn y fan a'r lle a syrthio i gysgu.
"Nawr!" meddai Chris wrth Tom a gyda'r holl warchodwyr yn cysgu rhedodd Tom nerth ei draed i ddrysau llofft Ben a byrstio i mewn. Deffrodd Ben ac roedd ar fin galw am fwy o warchodwyr pan roddwyd llaw dros ei geg i atal o rag gwneud. Roedd Tom yn gwybod fod rhaid iddo ddatgloi cof dyfnaf Ben am Tom a'i deulu er mwyn iddo gofio pwy oedd o.
"Nawr," meddai Tom. "Dwi'n gwybod byddi di'n cael hyn yn anodd credu ond fi ydy dy frawd bach di."
Roedd hwyneb Ben yn rhoi'r rhith ei fod wedi drysu, ac roedd Tom yn meddwl mai dyma fydda ef yn ei feddwl. Tynnodd Tom ei law oddi ar geg ei frawd.
"Am beth wyt ti'n siarad? Cafodd fy mrodyr eu cymryd oddi wrth mam ar ôl iddynt gael eu geni a'u rhoi i ffermwyr a brenhinoedd i dalu trethi," meddai Ben.
"Sawl brawd oedd gen ti?'
"Pump dwi'n meddwl."
"A beth oedd eu henwau?"
"Tom, Phill, Mikey ac roedd gen i ddau frawd oedd yn efeilliaid a Simon a Stuart oedden nhw."
"Yn union beth oeddwn i'n feddwl," meddai Tom. "Mae gen i bum brawd hefyd gyda'r union un enw.
"Cyd-ddigwyddiad," meddai Ben.
"Ia efallai, ond cyd-ddigwyddiad ydy i'w hoed nhw fynd i fyny yn yr union drefn."
"Ti'n dweud celwydd."
"Edrycha i mewn i'm llygaid a gweld os dwi'n dweud celwydd," meddai Tom. "Tyrd Ben, fedri di ddim cofio fi, yr holl amseroedd fues di'n taro ac yn ymladd fi?"
"Arglwydd," meddai Ben, "dwi'n meddwl mod i'n cofio ti."
Yn sydyn cychwynnodd ysgwyd a daeth ysbryd y gwir Frenin Teigrod allan ohono a sefyll yng nghanol yr ystafell.
"Diolch Tomas. Dwi'n ddiolchgar iawn i ti am atgoffa dy frawd pwy ydy ef. Nawr gallaf i fynd yn ôl i gysgu a bod mewn heddwch gyda'r byd. Bydd Ben efo fy mhwerau i nes i chi adael y byd yma." Yna pylodd i ffwrdd.
"Wow," meddai Ben. "Beth ddigwyddodd i mi?"
"Os oes gen ti funud, fe esbonia'i."
Roedd ben prin yn gallu siarad. "Felly oes gen i'r p?er i reoli'r teigrod efo fy meddwl."
"Dwi'n credu fod gen ti."
"C?l!" meddai Ben gyda gwen fach ar ei wyneb.
Dal i fyny gydag Ynys Amser yma
Erthyglau – Ysgrifennu Creadigol
Gwybodaeth – Bod yn rhan o Deulu
DELWEDD: MarkyBon







