Yr Anifeiliaid Yn Ymosod
Mae EP fydd yn cael ei ryddhau yn Ewrop ym mis Mai yn cynnwys trac gan fand o Ogledd Cymru, We//Are//Animal.
Dim ond ers Rhagfyr 2009 mae’r band wedi cychwyn ond yn barod maent wedi rhyddhau eu LP cyntaf ‘Idolise’ sydd ar gael ar iTunes. Mae eu trac ‘1268’ yn cael ei gynnwys ar yr EP ‘Dead Young Club II’ fydd yn cael ei ryddhau ar Mai 17eg a hefyd yn cael ei ryddhau fel sengl ar y 7fed o Fehefin.
Aelodau’r band indi roc ydy Owain Ginsberg (cynt o The Heights), y brodyr Hamer, Sion Edwards a Liam Simpson.
Mae’r hogiau yn sicr yn credu mewn gwneud pethau dy hun (DIY). Maent yn recordio popeth ar y diwrnod mae’n cael ei ‘sgwennu. Yn osgoi normalrwydd maent yn adlewyrchu eu hamgylchedd trwy recordio popeth ar beiriant bach 7 trac digidol o unrhyw le byddent yn digwydd bod y diwrnod hwnnw – gan gynnwys hen chwareli, caeau a choedwigoedd. Cafodd y fideo i ‘1268’ ei ffilmio mewn chwarel ger Waunfawr.
Mae’r label o Leeds, Dead Young Records, yn rhyddhau argraffiad cyfyngedig o’r casgliad ‘Dead Young Club II’ ar finyl 10” ar 17eg o Fai. Bydd ar gael mewn siopau record dros Brydain ac fel lawr lwythiad digidol.
Yn ogystal â We//Are//Animal y bandiau eraill ar yr EP ydy Gringo Star o America, The Cubical o Lerpwl a Paul Thomas Saunders o Leeds.
Bydd taith pedwar dyddiad yn cael ei gynnal i hyrwyddo’r EP. Bydd y pedwar band ynghyd â gwesteion arbennig yn chwarae yn Rascals, Bangor, ar y 12fed o Fai. Drysau yn agor am 7.30yh. Bydd ticedi yn £5 os ydynt yn cael eu rhagarchebu neu £6 ar y drws. Tocynnau ar gael o Cob Records a Rascals. Byddent hefyd yn chware yn The Faversham yn Leeds, The Foundry yn Brighton ac yn Lerpwl.
Bydd We//Are//Animal hefyd yn chwarae yn y Radio 1’s Big Weekend Pre-Party ym Mangor ar 20fed o Fai. Am dyddiadau gigs eraill cer i dudalen MySpace y band.








