Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Yr Ecs Ffactor

Postiwyd gan CLICdan o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 14/02/2010 am 20:41
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl

English version

Os oes un rheol yn y gêm dêtio dwi’n meddwl fod pawb yn cytuno y dylai gael ei ddileu, y cysyniad o ‘ecs’ ydy hwnnw.

Bod o’n gariad ysgol, neu ‘rhywun’ gyfarfuasai mewn clwb a chael ychydig o ddiodydd efo nhw, neu’r ffrind gorau hanfodol sydd ar ryw bwynt yn dod yn ‘fwy na hynny’ – yr un peth cyffredin ymhob romp rhamantus ydy’r canlyniad sydyn ac amhleserus o’u diwedd: ecs.

Rhywun, mae’r rheol yma yn gorchymyn, ti’n gorfod gwario unrhyw beth o fis i dragwyddoldeb yn melltithio, beirniadu ac osgoi; i gyd yn enw cariad. Mae’r cyn diddordeb cariadol yma yn cael ei stripio o unrhyw rinflas o ddynoliaeth, ac yn cael ei gyfeirio at fel ‘fy ecs’ am byth.

Mae cysylltiad, pan nad all osgoi, yn gyfyng i drafodaethau byr a lletchwith am waith, y tywydd – unrhyw beth ond eu statws perthynas presennol (rhag ofn iddo ymddangos fel dy fod yn poeni er, yn od, mi wyt ti).

Efallai fod hyn am y gorau, gan fod cenfigen yn rheoli dy farn o ecs am byth: yn brandio nhw fel ‘slut’ pan ti’n gweld nhw’n gwenu ar rywun newydd; ac yn twistio dy bersbectif ohonynt nes i ti ddweud y geiriau mor rhagfynegid yna, ‘Fedrai ddim credu mod i erioed wedi mynd allan efo…’

Dwi’n meddwl mai Iesu Grist ddywedodd, ‘Mae hi’n well i fod wedi caru a cholli, nag i beidio caru o gwbl’ ond, yn ôl fy ‘trac record’ i, dwi ddim yn siŵr os dwi’n cytuno.

Dwi’n cefnogi gwneud rhywun yn hapus am ychydig fisoedd, ond os dilynir hyn gyda photensial o fychanu pob manylion am eu bywyd ôl-ti ar hyd oes, ac yn deifio dan fyrddau pan maen nhw yn dod i’r ystafell, yna dwi ddim yn siŵr os yw werth o.

A’r unig beth sydd yn rhaid i ti wneud ydy mwmian ‘fy ecs’ o dan y bwrdd ac mae pawb yn deall – felly fedra i ddim bod yr unig un.

Yn bersonol, dwi’n gredwr cryf yn y cydweddiad ‘mae bywyd yn gar sglefrio’: mae ganddo ei fyny a’i lawr, ond yn y pen draw mae’r holl brofiad yn gadael ti’n yn ofn, sâl ac yn gafael yn sownd i unrhyw beth o fewn gafael er mwyn goroesi.

Ond dwi wastad wedi bod efo diddordeb yn sut gall cwpl fynd o, bron dros nos, rannu eu meddyliau ac amseroedd fwyaf cynefin i gasáu ei gilydd.

Dwi’n tybio mai agosatrwydd ydy’r rheswm: maen nhw’n gwybod gormod amdanat ti, ac os nad wyt ti yn ymdrechu chwalu eu credadwyaeth – ymysg dy ffrindiau o leiaf – nid oes gwybod pa bŵer gallent gael gyda’r wybodaeth.

Wrth gwrs, ti yn clywed sôn weithiau am gyn cariad yn dod yn ffrindiau gorau ar ôl yr apartheid cychwynnol, ac yn amlwg mae eithriadau i’r rheol ‘fe wnewch chi gasáu eich gilydd’: mae rhai pobl yn trefnu gwahaniad gyda chymaint o wedduster fel mai’r unig ganlyniad ydy teimladau lletchwith am ychydig wythnosau.

Ond gad i ni fod yn deg, mae’r cyfeillgarwch yma wastad yn canlyn mewn pobl yn sibrwd ‘Ydy nhw am gael yn ôl at ei gilydd?’, gan nad yw cyn cariadon byth yn ‘ddim ond ffrindiau’. Os nad wyt ti’n fy nghredu, trïa ddweud wrth dy bartner presennol dy fod yn cyfarfod cyn cariad am ddiod a ffilm (gwna’n siŵr dy fod yn nodi eu hymateb, gan efallai na weli di nhw eto).

Roeddwn wastad yn gweld y llinell ‘Dwi’n gwerthfawrogi ein cyfeillgarwch gormod’ fel esgus cliché, ond drwy edrych yn ôl, byddwn yn galw nhw’n eiriau crebachlyd hen law rhamant. Byddwn yn dweud mai ofn ‘yr ecs’ – yn fwy na disgwyl am ‘yr un’ – sydd yn gwneud pobl yn wyliadwrus o gymryd y cam marwol i mewn i berthynas.

Mae pawb yn crefu; mae’n naturiol. Ond mae ecs yn atgof cyson, llercion nad yw’n syniad da i ddêtio bob person ti’n teimlo teimlad bach o atyniad tuag atynt, gan mai’r tebygrwydd ydy'r unig beth fyddet yn lleihau’r cyfeillgarwch iddo ydy stad o osgoad, rhythu a dryswch meddwol ym mhen hir a hwyr yn y munudau byr o ‘Dwi’n dy fethu di’.

Dim i roi damper ar berthynas neb nag unrhyw beth – dwi’n siŵr eu bod i gyd yn anhygoel – ond am nawr dwi’n aros yn sengl, nes i mi ffeindio rhywun dwi’n o leiaf yn eithaf siŵr byddaf yn priodi.

Dim am fy mod yn ofn ymrwymiad na wrthodiad; ond am fy mod gen i ofn fy narpar ecs.

Mae gwybodaeth perthnasau yma ac yma.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.