Yr Effaith Tetris
(Dyma'r erthygl gyntaf i mi ysgrifennu ar fy nyfais annwyl, yr iPad2!)
Dwi'n gaeth i'r hen gêm Tetris. Mae hynny'n ddigon drwg ond mae'n dod yn broblem ac yn rhan o fy mywyd pob dydd.
"Ond sut gallai fod yn rhan o dy fywyd pob dydd?" dwi'n clywed ti'n gofyn. Wel, gad i mi ddweud wrthyt.
Bob tro byddaf yn cau fy llygaid dwi'n gweld Tetriminos yn disgyn yn fy mhen. Od, dwi'n gwybod. Y peth gwaethaf ydy, dydy'r llinellau llawn ddim yn diflannu. Dyma hunllef waethaf chwaraewr Tetris.
Pan fyddaf yn pasio adeilad neu waliau, dwi bob tro'n meddwl pa fricsen Tetris fydda'n ffitio rhwng y bylchau. Pam dwi'n breuddwydio, dwi'n chwarae Tetris. Gelwir hyn yn Effaith Tetris.
Mae'r Effaith Tetris yn gallu effeithio unrhyw chwaraewr sydd yn chwarae gemau fideo yn ddwys. Mae gemau fel COD (Call Of Duty)yn gallu bod yn niwsans hefyd. Mae rhai chwaraewyr yn adrodd eu bod nhw'n gweld tag uwchben pennau pobl wrth iddynt gerdded pasio.
Ar ôl cymryd saib o'r gêm (sydd yn anodd iawn, iawn ac mae cael iPad2 sydd ddim yn rhedeg gemau Flash yn helpu lot hefyd), mae'r Effaith Tetris yn mynd yn araf bach.
Ond, dwi yn poeni pam fyddaf yng nghanol fy arholiadau TGAU, pan fyddaf yn galw ar fy meddwl i roi ateb i mi, dwi ofn mai'r unig beth ddaw ydy gêm ddrwg o Tetris.
Felly fy nghyngor i ti ydy: paid chwarae gemau yn obsesiynol a cheisia peidio dod yn gaeth iddo.
Chwarae Gemau Fideo – Dylanwad Drwg?
Chwarae Gemau Fideo – Ymateb






