Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ysgolion: Gwrandewch Arnom Ni!

Postiwyd gan Snow.. o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 03/10/2011 am 13:24
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Materion Cyfoes, Gwirfoddoli

  • gwaedd

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.

Dwi'n gobeithio fod pawb yn cael cychwyn gwych i'r flwyddyn ysgol newydd. (I'r rhai ohonoch sydd wedi gadael ysgol, sut mae dyddiau'r wythnos heb gr?p enfawr o bobl ifanc yn rhydd o gwmpas y lle?) Cychwynnodd un fi yn iawn, dim byd arbennig, ond yna dyw ysgol byth yn ac i ddweud y gwir doedd hyn ddim chwaith…

Yn fy ysgol i mae gennym y cyngor ysgol (fel pob ysgol arall), ond dwi'n meddwl fod yr ysgol dwi'n mynychu yn ychydig gwahanol i rai o'r rhai eraill. Mae gennym is-grwpiau gelwir yn bwyllgorau, ac mae pob un efo adran benodol o'r ysgol maent yn gyfrifol amdano e.e.

  • Pwyllgor Amgylchedd
  • Pwyllgor Iechyd a Ffitrwydd
  • Pwyllgor Dysgu

Mae pob is-gr?p efo dau aelod o bob gr?p blwyddyn ac maent hefyd ar gyngor eu blwyddyn; gan fod i yn Flwyddyn 11, fi sydd yn y cyngor blwyddyn uchaf yn yr ysgol (gan nad oes chweched dosbarth, er mae hyn yn gwbl amherthnasol, mae croeso i unrhyw awgrymiadau gan y chweched flwyddyn yn ardal Caerdydd a'r Fro gael eu gadael fel sylwad isod! :D). Golygai hyn hefyd fod yr awgrymiadau a'r adborth o'n cyngor (Blwyddyn 11) fel arfer yn fwy tebygol nag o'r grwpiau is.

Cawsom ein cyfarfod cyngor blwyddyn gyntaf diwrnod o'r blaen a dwi wedi fy ffieiddio yn llwyr yn barod efo rhywbeth gododd! Dydd Gwener roedd ein Prif Fachgen a'n Pennaeth i fod i gael eu hethol; mae gennym Prif Ferch, Dirprwy Bennaeth a Dirprwy Prif Fachgen; dwi'n gwybod, nid yw’n gwneud synnwyr o gwbl! Gofynnodd rhai pobl yn fy nosbarth blwyddyn i fi a'r cynghorwyr eraill i godi hyn yn y cyfarfod. Roedd y mwyafrif o bobl yn y cyfarfod yn cytuno nad oedd yn gwneud synnwyr. Gan fod hwn wedi'i godi, codwyd pynciau eraill hefyd fel: "etholiad" y Cadeirydd y Cyngor Ysgol; y broses dewis berffaith; a'r ffaith nad ydym BYTH yn cael adborth gallai fod o fudd gan athrawon.

Fel cyngor Blwyddyn 11, cawsom wybod fod y Prifathro wedi gofyn ein barn ar sut dylai Cadeirydd y  Cyngor Ysgol gael ei ethol. Dywedwyd bod rhaid iddo fod yn rhywun o flwyddyn 11 ac nad allent fod yn Prif Fachgen na Phrif Ferch. Ar ôl cryn drafodaeth penderfynom mai etholiad (yn debyg i etholiad cynrychiolydd dosbarth ar gyfer bob cyngor blwyddyn) ddylai ddigwydd. Y ffordd hon, gall rhywun na chafodd y cyfle i gadeirio'r cyngor blwyddyn gadeirio'r cyngor ysgol.

Dywed wrthym fod hyn yn syniad da a byddai'n digwydd. Pan gyrhaeddom yn ôl i'r ysgol y tymor hwn, darganfyddom fod y Prifathro a Phennaeth ein blwyddyn wedi penderfynu mai nhw fydda'n dewis cadeirydd y cyngor ysgol, heb ofyn i weddill yr ysgol beth roeddent yn feddwl!

Mae’n llawer rhy debyg i ddewis blaenorol y Prif Fachgen a'r Brif Ferch. Roedd y disgyblion oedd yn swyddogion yn gorfod ysgrifennu enw pwy hoffent fod yn Prif Fachgen a Phrif Ferch ar ddarn o bapur. Gyda'r mwyafrif o bobl yn dweud yr enwau roeddent wedi'i ddewis, roedd yn amlwg pa fyfyrwyr fydda yn debygol o'i gael….

Ond unwaith eto nid oedd bron dim o'r disgyblion yma wedi'u dewis, gyda'r athrawon yn dewis heb gydnabod ni nac ein barn; ac yn anwybyddu beth oedd gweddill y staff yn feddwl hefyd.

Ar ôl i'r Brif Ferch, Dirprwy Prif Ferch a Dirprwy Prif Fachgen gael eu dewis, doedd neb oedd wedi rhoi eu henwau ymlaen wedi cael adborth – beth oedd wedi gwneud iddynt sefyll allan neu beth oeddent yn ddiffyg. Ond roedd pawb eisiau gwybod. Ni chawsom wybod pam nad oedd Prif Fachgen ychwaith.

O'r diwedd, y proses dewis perffaith. Ar gyfer hyn, roedd rhaid i unrhyw un oedd eisiau bod yn swyddog disgybl ysgrifennu llythyr yn dweud pam byddent yn dda yn y swydd a pam dylai eu dewis. Yna cawsom ein rhoi ar dreial pythefnos i brofi ein bod yn addas ar gyfer y swydd. A dyma oedd y penderfyniad mwyaf annheg i gael ei wneud.

Cafodd rhestr o ddisgyblion oedd eisiau bod yn swyddogion ei roi i fyny yn ystafell yr athrawon er mwyn iddynt arwyddo wrth ochr enwau'r bobl nad oeddent yn meddwl bydda'n gwneud  swyddog da. Roedd yr athro oedd yn goruchwilio ein cyfarfod wedi dweud fod dau ddisgybl oedd efo nifer o lofnodion ger eu henwau (golygai nid eu dewis fel swyddog) ond roedd rhai disgyblion heb lofnodion (golygai eu dewis fel swyddogion) ond nid ydynt yn swyddogion!

Fel disgyblion, rydym hefyd wedi sylweddoli fod rhai o'r disgyblion sydd ddim yn bihafio mor dda wedi dod yn swyddogion, a'r rhai byddai wedi bod yn berffaith ddim, dim ond am fod athrawon ddim yn hoffi nhw.

Nodwyd hyn i gyd i lawr mewn manylder a'i gyflwyno i'r athrawon, ond rydym yn amlwg wedi cael ein hanwybyddu, a dwi'n si?r mai holl bwynt cael cyngor ysgol, Prif Fechgyn a Genethod, a swyddogion, oedd er mwyn helpu clywed llais y disgybl yn fwy aml ac i'w ystyried – sydd ddim wedi digwydd.

Dwi'n si?r nad fy ysgol i yn unig sydd yn gwneud hyn, a bod hawl yn y CCUHP (Confensiwn y Cenhedlodd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) sydd yn caniatáu plant a phobl ifanc i gael ystyried eu barn.

I ddweud y gwir, dwi'n gwybod fod un:

Erthygl 12, sydd yn dweud fod "mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried." Pam fod hyn ddim yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion?! I bob staff uwch a.y.b. mewn ysgolion, GWRANDEWCH ARNOM NI! Mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda i chi ac yn rhoi enw da i'ch ysgolion. Bydd yr ymddygiad a'r enw da yn gwella os ydych chi'n barod i…

...Wrando.

Plîs noda fod gwefannau CLIC (Swoosh) yn llwyfan ar gyfer mynegiad. Mae'r farn sydd o fewn yr erthyglau yn rai'r bobl ifanc sydd yn cyflwyno nhw. Os wyt ti'n anghytuno gyda nhw, yna plîs gadawa sylwad isod neu gyflwyno erthygl dy hun.

DELWEDD: Designer iub

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50