Cystadleuaeth Ysgrifennu
English version
Yn galw holl bobl ifanc 11 i 25 oed, sydd, o gysidro'r amrediad oedran mae CLIC yn anelu tuag ato, yn debygol o fod yn chi i gyd.
Oes gen ti angen? Angen i rannu dy greadigaeth gyda phobl ifanc eraill?
Wel, ti mewn lwc, gan fod yr elusen gwaith ieuenctid mawr Youth Cymru yn cynnal cystadleuaeth newydd sydd yn cynnig ysgrifenwyr ifanc y cyfle i rannu eu profiad, deallusrwydd a mewnwelediad mewn bod yn ifanc yng Nghymru'r dyddiau hyn.
Efallai dy fod di wedi dyfalu erbyn nawr, ond thema'r gystadleuaeth ydy Bod Yn Ifanc a Bod yng Nghymru.
Diddordeb? Angen mwy o wybodaeth? Wel, ti mewn lwc, dyma wybodaeth bellach:
- Galli di ysgrifennu darn o farddoniaeth, rhyddiaith, traethawd, ffuglen neu di-ffuglen hyd at 500 gair.
- Cyfyngir i ddim ond un ymgais, ac nid oes caniatâd ymgeision ar y cyd
- Gallai gael ei deipio, ei ysgrifennu gyda llaw, ei beintio, beth bynnag rwyt ti'n teimlo'n fwy cyffyrddus ag ef
- Os wyt ti rhwng 11 a 25 ar y dyddiad cymhwyso (sef 1af Medi 2011), yna gallet ymgeisio
- Nid yw'r darn ysgrifenedig, sut bynnag rwyt ti'n ei ysgrifennu, yn cael bod ag iaith neu syniadau sydd yn ormesol, sarhaus nac gwahaniaethol
- Bydd ymgeision yn cael eu derbyn hyd at y dyddiad cau, sef 18fed Mai 2012
Os wyt ti'n cystadlu, byddi di mewn un o dri chategori, sef…
- 11-13 (Ysgol Uwchradd Blwyddyn 7, 8 a 9)
- 14-15 (Ysgol Uwchradd Blwyddyn 10 ac 11)
- 16-25 (Ysgol Uwchradd 12+)
Bydd tri o bob categori yn mynd ar restr fer, am gyfanswm o naw cystadleuwr rhestr fer. Bydd y naw yma yna yn cael ei arddangos i bawb gael gweld yng Ng?yl y Gelli rhwng y 6ed a'r 8fed o Fehefin 2012, gyda'r rhai sydd yn mynychu'r ?yl yn beirniadu'r ymgeision ac yn penderfynu ar yr enillydd erbyn 9fed Mehefin 2012.
Bydd pwy bynnag sydd yn ennill yn derbyn siec am £100 yn ogystal â'r Wobr Brian Taylor, sydd yn wobr sydd yn cael ei chyflwyno er cof cyn Prif Weithredwr Brian Taylor, bu farw'n sydyn ychydig flynyddoedd yn ôl.
Wel, dyna ti dy wybodaeth. Dal efo diddordeb? Roeddwn i'n gwybod byddet ti.
Cer draw i wefan Youth Cymru, lawr lwytha'r ffurflen gais, gyrra ef iddynt ac yna ti'n barod i fynd. O, ac mae yna ddogfen ar y dudalen yna i ti ddarllen mwy am y rheolau.
A chofia, dyddiad cau'r gystadleuaeth ydy 18 Mai 2012.
Gwybodaeth – Gwirfoddoli
Delwedd - Writing sample: Lamy Vista gan churl







