A Oes Cwsg?
Mae ein corff ar ei isaf yn ystod dyfnderoedd y nos, yn ystod oriau man y bora. Dyma’r amser pan mae ein cyrff yn llythrennol yn llai tebygol o wneud y perfformiad gorau.
Mae ein tymer a’n bywiogrwydd ar ei isaf. Dydy hormonau ddim yn cynhyrchu eu hunain yn naturiol fel y maent yn ystod y dydd.
Mae tymheredd ein cyrff ar ei lefel isaf trwy gydol y nos gyda’r pwynt nadir yn cael ei gyrraedd o gwmpas hanner awr wedi pedwar y bore. Mae’n lleihau o tua saith o gloch y nos, oriau traddodiadol ymlacio a chysgu, a dwy awr yn ddiweddarach mae cemeg o’r enw melatonin yn cael ei ryddhau am naw o’r gloch y nos ac maen ran o’r cylchred naturiol cysgu-deffro sydd gan y corff.
Mae cynhyrchu a rhyddhau melatonin yn diweddu am hanner awr wedi saith y bora yng nghloc biolegol dynol; dyma pa bryd mae disgwyl i ni godi. Pan mae trefydd yn rhedeg yn ddifater i’r cloc biolegol dynol, ni fydd dy gorff yn gweithio cystal ag y gall. Ti’n wifredig i fod yn cysgu yn y gwely, a ni fydd caffein yn gwneud pwt o wahaniaeth. Mae nifer o ffactorau yn chwarae rhan yn ymostyngiad y corff i fyd y breuddwydion.
Mae gwres yn chware rhan, cysur yn chwarae rhan; hyd yn oed goleuni a thywyllwch yn chwarae rhan. Mae i gyd yn rhan o system gydgysylltiol soffistigedig wedi’i berffeithio dros filoedd o flynyddoedd o esblygiad.
Fel esiampl, faint ohonom sydd yn methu cael noson dda o gwsg un noson, dim ond i ddarganfod y bore wedyn ein bod wedi cysgu tra roedd y cyflwyniad PowerPoint ymlaen?
Goleuadau Llachar
Dydy bywyd modern a’i effaith ar y corff dynol, fel bylbiau golau llachar, ddim wedi newid y peth. Rydym yn parhau i fod eisiau cysgu yn fuan yn ystod misoedd y gaeaf pan mae’r haul yn yr awyr am ryw chwe awr ar y mwyafrif.
Rydym wedi bod o gwmpas am lawer hirach na’r goleuadau artiffisial a dydy’n cyrff ddim am sefyll am y fath beth. Efallai bod goleuadau llachar bywyd modern yn atynnu ein meddyliau ond yn gorfforol nid oes posib.
Heb noson o gwsg gweddus, heb ein cyrff yn cael ei gyfarparu yn syml i ddelio gyda’r dydd, sut gall disgwyl mynd o gwmpas ein dydd? Mae hormonau straen yn cael ei ryddhau yn naturiol i’r corff, a hyn yn creu hydeimledd, diffyg canolbwyntio a chyflwr simsan.
Dim Cwsg, Dim Sioe
Mae myfyrwyr sydd yn aml yn methu cael y cwsg maent angen yn disgyn ar ei hol hi ac yn fwy tebygol o gael cyflyrau fel iselder ac i gael sgôr profion gwaeth na’u cyd fyfyrwyr sydd yn cael digon o gwsg. Mae athletwyr sydd yn chwarae gemau oddi cartref dan anfantais oherwydd y teithio ac effaith negyddol cylchfa amser ar y corff. Wrth feddwl am hyn, sawl dewis drwg sydd wedi cael eu gwneud gan er enghraifft, wleidydd sydd ddim wedi cael llawer o gwsg? Chwaraewyr pêl-droed oedd yn troi a throsi?
Mae dylyfu gên yn llynol; mae rhai gwyddonwyr yn credu fod dylyfu gên yn cadw’r corf yn oer, ac mae eraill yn dweud fod atgyrch dylyfu gên i wneud gyda dylifiad sydyn o ocsigen i mewn i lif y gwaed.
Mae un mewn bob pum damwain yn cael ei achosi gan yrrwr a'i allu wedi’i amddifadu; oherwydd nad ydynt wedi cael digon o gwsg. Mae mynd heb gwsg am ddiwrnod cyfan yn canlyn gydag amser ymateb yr un peth a bod wedi meddwi yn gyfreithiol ym Mhrydain.
Pedwar y prynhawn a chwech y bore ydy’r amseroedd pan fydd y rhan fwyaf o ddamwain ceir yn digwydd; 4pm ydy pan fydd ein cyrff yn naturiol yn teimlo fel cael nap y prynhawn a 6am ydy pan fydd y corf yn parhau i greu melatonin i reoli’r patrwm cysgu. Nid yw’n cwympo gymaint ag y mae rhwng 12am a 4am wrth iddo godi dipyn, ond mae tymheredd y corff yn dal i fod yn is nag y mae yn ein prif, pan mae te yn cael ei gyflwyno am bedwar pm: yr angen am gaffein wrth i'n cyrff ddechrau blino.
Te
Mor rhyfedd ag y swniai, dydy nap prynhawn ddim yn effeithio ar gylchred cysgu'r corf. Mewn rhai gwledydd, fel Sbaen, mae siesta prynhawn yn hollol naturiol; beth bynnag dewisem wneud, rydym yn gaeth i’n cyrff. Ydy rhai gwledydd yn gallu cysgu yn well nag eraill? Os ydy Sbaen a gwledydd y Canoldiroedd yn cael siestas rydym ni yn yfed cyfanswm mawr o goffi ac yn ‘cael ymlaen’ efo pethau, yn herio’r fam natur.
Rydym yn yfed 2.8kg o goffi mewn blwyddyn, yn graddio’n rhif 48 yn rhyngwladol, mae’n bell o 12kg y flwyddyn Y Ffindir, ond dal…mae hynna yn lot o goffi. Mewn pwysau sych, mae te efo mwy o gaffein nag coffi rhost tywyll: rydym yn yfed 2.1kg o de bob blwyddyn, yn dod yn ail i Dwrci. Prif gyfranwyr i ddiffyg cwsg ydy defnydd caffein a straen.
Y tu ôl i America a’r Almaen, ni ym Mhrydain sydd efo’r achosion mwyaf o anhunedd (insomnia). Mae merched yn fwy tebygol o ddatblygu’r cyflwr nag dynion, ac mae cwsg wedi’i weirio i’n geneteg. Dangosodd astudiaeth ychydig o flynyddoedd yn ôl mai’r lleiafrif o gwsg roedd pobl angen oedd wyt awr y dydd; felly byddem wedi cysgu traean o’r dydd.
Ond, mae cwsg ei hun yn eneteg. Fel ein gwallt, llygaid, lliw ein croen, siâp corff, mae’n enetig. Mae faint o gwsg mae ein rhieni angen yn cael ei adlewyrchu yn ein genyn ni, unai trwy amgylchedd neu eneteg. Daeth adroddiad allan yn hwyrach ymlaen yn profi fod yr adroddiad cyntaf yn ddi-fudd, yn dweud os ydych yn cysgu ac yn teimlo’n iawn pam ydych yn deffro, yna mae hynny’n dda.
Mae pobl wahanol yn cysgu mewn ffyrdd gwahanol, pobl wahanol angen amseroedd gwahanol y medrant gysgu; mae popeth yn wahanol ac yn wahanol trwy’r adeg. Sut ar y Ddaear fedri di gychwyn rheoli rhywbeth mor unigol â chwsg?
Dwi ddim yn gweithio’n dda iawn heb lawer o gwsg. Dwi’n cau i lawr, mae fy meddwl yn rasio yn ddadreolaeth. Dwi’n colli’r awydd i fwyta. Mae fy amser ymateb mor araf yn ystod y dydd dwi’n teimlo yn ddatgysylltiedig o bopeth o’m nghwmpas: dwi’n flin efo pobl, dwi’n teimlo’n sâl a dwi hyd yn oed yn teimlo fod fy ymennydd yn fwy araf, y teimlad fod synaps fy ymennydd wedi’i ffrio gymaint fel ei fod yn brifo i fy ymennydd feddwl. Mae gen i lygaid gwaetgoch a dwi'n syllu'n llesg.
Hyd yn oed fel yr ydw i’n teipio hwn mae fy llygaid yn edrych dros y dudalen ac mae pethau yn dod i mewn ac allan o ffocws. Mae’n teimlo fel bod yna ddril ar bob ochr i’m mhen. Llygaid gwydrog o flaen sgriniau, sgrin car, sgrin sinema, sgrin gliniadur, sgrin cyfrifiadur a sgrin teledu. Ysgrifennodd Chuck Palahniuk, awdur y llyfr-wedi’i droi’n-ffilm cwlt Fight Club, pam ti methu cysgu neu pan ti’n dioddef o anhunedd “mae popeth yn teimlo fel copi o gopi o gopi”.
Mae Nos Yn Gweithio
Ar ochr mam o’m nheulu, mae pawb yn codi’n fuan a ddim yn gallu aros i fyny wedi hanner nos… ond yn ystod y nos rydw i ar fy ngorau. Dwi’n darllen y llyfrau gorau, yn cael y trafodaethau gorau. Mae bwyd yn blasu’n well. Trafodaethau yn well. Cerddoriaeth yn swnio’n well. Llyfrau yn ymddangos yn fwy angerddol. Bandiau yn swnio’n well. Mae hyd yn oed yr aer yn blasu ac yn teimlo’n well.
Dwi’n hoffi’r teimlad o fod un o’r unig bobl sy'n effro, mae fel bod y byd wedi marw a fi ydy’r unig un ar ôl. Dwi’n hoffi’r distawrwydd, a dwi’n hoffi’r heddwch ohono. Fi ydy’r unig un, mae’r distawrwydd yn orlethus o berffaith a’r lleuad yn edrych yn well yn yr awyr na’r haul, yn fy marn i.
Dwi ddim yn siŵr pa bryd gychwynnodd hyn. Roeddwn i’n deffro yn fuan pan oeddwn i'n blentyn, fel mae’r rhan fwyaf yn. Roeddwn yn treulio fy mlynyddoedd rhwng tŷ mam a thŷ dad; yn nhŷ dad roedd y teulu yn gweithio ym musnes bwyty. Roedd yn arferol iddynt godi am hanner dydd a chysgu am tua phedwar neu bump y bore. Dwi ddim yn cofio fy nghyfres o nosweithiau digwsg cyntaf, ond dwi’n cofio syllu allan o’r ffenestr yn edrych ar yr afon tra roedd mam yn cysgu yn yr ystafell drws nesaf. Dwi’n cofio ysgrifennu mewn nodiadur, sleifio o amgylch y tŷ a darllen.
Fy mhroblem i ydy dwi un ai ddim yn cysgu tan ryw awr wirion yn y bore, neu dwi’n mynd i gysgu ar amser arferol ac yn deffro gyda chodiad yr haul neu wrth glywed adar yn canu. Hyd yn oed pan oeddwn yn cadw at drefn yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i’n mynd i gysgu o gwmpas tri ac yn deffro pedwar awr wedyn. Mae wedi dod i’r pwynt lle na fydd teulu a ffrindiau n ffonio cyn hanner dydd ar fy nyddiau i ffwrdd o’r gwaith os nad yw’n angenrheidiol.
Dwi ddim yn cau i lawr. Dwi jyst ddim yn cau i lawr, mae doctoriaid yn amharod i roi tabledi cysgu i mi oherwydd fy oedran. Efallai nad ydw i lawer o ddefnydd i unrhyw beth neu unrhyw un yn ystod y dydd gyda fy mhatrwm cysgu, ond pan fyddaf yn effro yn ystod y nos…mae undonedd llwyd y dydd a’i ddyletswyddau yn gwaredu eu hunain.
Dwi’n gweithio yn ystod y dydd dan flanced trwchus o flinder. Yn mynd allan yn ystod y nos dwi’n teimlo’n fwy llon nad ydw i yn ystod y dydd: mae amser breuddwydio yn well na’r dydd, gan fod amser breuddwydio yn parhau am byth.
Dilyna’r linc am wybodaeth ar gwsg, gan gynnwys anhunedd a cherdded yn eich cwsg.
DELWEDD: Free 2 Be







