Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Adolygiad: Diversity

Posted by welshboy199 from Rhondda Cynon Taff - Published on 02/04/2012 at 11:31
0 comments » - Tagged as Culture, Dance, Music, Stage, Sport & Leisure

English version

Dydd Sadwrn cawsom y cyfle i weld yr anhygoel Diversity yn fyw yng Nghaerdydd.

Mae'r gr?p, sydd yn cael ei adnabod orau am guro Susan Boyle i ennill y drydedd gyfres o Britain's Got Talent, yn gwmni dawns wedi selio yn Llundain sydd yn cael eu hadnabod fel modelau rhôl bositif i bobl ifanc.

Maent wedi dawnsio i Gordon Brown yn 10 Downing Street ac yn lansiad y sianel Disney XD.

Cychwynnodd y sioe am 7yh ac roeddwn i wedi cyffroi gan fy mod i wrth fy modd gyda Diversity ac yn meddwl bod nhw'n ddawnswyr gwych. O glywed yr holl waeddi oedd o'n gwmpas wrth iddynt ffrwydro ar y llwyfan, nid ni oedd yr unig rai oedd yn teimlo fel hyn.

Roedden nhw'n dda iawn ar BGT, ond mae gweld y dawnswyr yn fyw yn llawer gwell nag gweld nhw ar y teledu, wrth i ti gael profiad o'r holl beth go iawn. Roedd Ashley, y prif ddawnsiwr, yn gwneud symudiadau eithaf gwallgof, fel fflipio ar raffau a champau fel arall.

Roeddent wedi dyfeisio gemau ble roedd rhaid iddynt ddawnsio er mwyn cael allan, a chawsom hefyd weld dawnswyr gwadd benywaidd, dwi ddim yn gwybod eu henw,  ond roedden nhw'n dalentog iawn. Roedd y noson gyfan yn anhygoel ac roedd y dorf yn Arena Caerdydd wedi mwynhau bob eiliad o'r sioe.

Roeddwn i wrth fy modd gyda'r sioe a byddwn i yn caru gweld Diversity eto gan i mi gael fy adlonni yn fawr iawn. Gall hefyd weld nhw ar DVD yn y ffilm StreetDance 3D ynghyd â llwyddiannau dawnsio eraill y sioe talent, Flawless a George Sampson.

www.diversityofficial.com
Tudalennau Celfyddydau Perfformio

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.