Angen Ti Fod Angen Fi
Dwi'n gweld ti'n eistedd ar draws yr ystafell i mi yn y dosbarth.
Tybed wyt ti'n sylwi arnaf i, tybed os wyt ti'n gwybod fy enw hyd yn oed.
Fi ydy'r eneth yn eistedd ger y ffenestr os nad oeddet yn gwybod.
Fi ydy'r un gyda'r gwallt sydd yn disgyn i'w hwyneb yn barhaol, ta waeth pa mor aml byddaf yn ei roi tu ôl i'm nghlust.
Dwi ddim yn poeni am ffasiwn; dwi'n hapus mewn hwdi a jîns. Dwi'n gwisgo ychydig iawn o golur heblaw am leiniwr llygad ac efallai sglein gwefus bob hyn a hyn.
Dwi'n edrych ar rai o'r genethod yn y dosbarth ac yn rhyfeddu dros beth oedd ar eu pennau yn edrych fel rhywun dylai fod ar dudalen tri, ond efallai mai dyma'r fath o eneth ti'n sylwi arni.
Dwi'n gwybod fod dy ffrindiau. Nhw ydy'r fath o enethod mae pob bachgen yn debyg o sylwi arnynt. Nid geneth sydd â'i phen mewn llyfr a chlustffonau yn ei chlustiau yn barhaol. Dwi'n eistedd ac yn gwylio ti weithiau, nid fel stelciwr, ond yn gobeithio byddet yn edrych fy ffordd i. Fe wnes di unwaith. Dwi ddim yn meddwl dy fod di wedi fy ngweld i yn iawn; eiliad byr oedd cyn i ti edrych yn ôl at dy ffrindiau.
Hoffwn i os bydda gen i'r hyder i ddod atat ti a siarad gyda thi un dydd… neu os byddet ti'n siarad gyda fi un dydd. Tan hynny fe wnaf eistedd ar draws yr ystafell i ti yn y dosbarth, yn sylwi arnat ti ddim yn sylwi arnaf i.
*Erthygl wedi'i ysbrydoli gan y gân anhygoel I Want You To Want Me gan Cheap Trick… a gan fy mod i wedi bod yn ferch ifanc sydd wedi teimlo fel hyn un tro… ond yna pa ferch ifanc sydd ddim?
Tudalennau Bod Mewn Perthynas







