Ar Ôl Y Nadolig
English version
Felly dyna ni, Nadolig wedi gorffen am flwyddyn arall.
Y mwyafrif ohonom wedi bwyta gormod.
Ein cardiau credyd a siop wedi'u gwario i'r eithaf.
Wedi derbyn anrhegion, rhai rydym yn hoffi, rhai ddim gymaint (y siwmper neu sanau Nadolig yna unrhyw un?)
Mae'r mwyafrif ohonom wedi treulio'r Nadolig gyda'r rhai rydym yn caru yn cael hwyl ac yn jocian.
Mae rhai ohonom wedi bod i'r eglwys am yr Offeren Nadolig blynyddol.
Mae'r mwyafrif ohonom wedi bod yn edrych ymlaen am y cinio yna gallwn ni arogli drwy'r dydd.
Ar ddydd San Steffan mae yna dwrci ar ôl. Rydym yn ceisio defnyddio'r twrci yna gyda phopeth gallem am y dyddiau nesaf. Brechdanau twrci, cinio dydd Sul a beth bynnag arall gallem geisio defnyddio'r twrci. Fel arfer rydym yn falch fod y twrci i gyd wedi mynd ac weithiau yn falch o weld cefn y twrci yna.
Mae sêls Ionawr wedi dechrau a'r rhan fwyaf o bobl yn rhedeg i'r siopau i fod y cyntaf yno. Ond, beth ydy pwrpas bod tu allan i'r siop am 5yb pan nad ydynt yn agor tan 8 neu 9yb? Does yna ddim digon o eitemau yn y sêl i gael golwg arnynt? Wedi dweud hynny, mae yna lawer o fargeinion ar gael yn y sêls Ionawr.
Pan fydd y Flwyddyn Newydd yn dod mae pobl yn tueddu gwneud aduniad Flwyddyn Newydd. Efallai bydd rhai yn cadw'n heini, yn colli pwysau, rhoi gorau i ysmygu, yfed a bwyta'n fwy iach. Mae aduniad Flwyddyn Newydd yn ymrwymiad parhaol mae unigolyn yn ei wneud i un neu fwy o nodau, prosiectau, neu ddiwygio arferiad personol.
Yn ôl Gretchen Rubin (awdur y llyfr llwyddiannus The Happiness Project): "Ti'n taro nod, yn cyflawni nod. Ti'n cadw aduniad". Ond weithiau, dydy'r aduniadau Blwyddyn Newydd yma ddim i'w gweld yn parhau yn hir iawn.
Trwy'r flwyddyn mae pobl yn ceisio arbed arian ar gyfer y Nadolig nesaf. Mae dyledion cardiau credyd a siopau fel arfer yn cymryd amser i glirio. Mae rhai pobl yn cychwyn gyda chlwb arbed arian gyda chwmnïau fel yr un sydd yn gwneud hamperi.
Sut mae'r cyfnod wedi'r Nadolig yn effeithio ti? Amseroedd da neu ddrwg? Plîs gad sylwad isod.








