Welcome to CLIConline! Please sign up or login

AR-OLWG... Edrych Tuag At 2011?

Posted by claireCLIC from Blaenau Gwent - Published on 02/01/2011 at 15:25
0 comments » - Tagged as Culture, People, Sport & Leisure, Work & Training, Yn Gymraeg

English version

Beth ydy AR-OLWG? Dwi’n clywed ti’n gofyn.

Maen nhw’n grŵp o bobl ifanc 11 i 25 oed, yn edrych am aelodau newydd ledled Cymru.

Mae AR-OLWG yn gweithio tuag at ddod yn Arolygiaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth yng Nghymru.

Yn y bôn,  bydd y grŵp yma yn edrych ar sut mae gwybodaeth yn cael ei ddarparu i bobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys pa mor gyfoes, perthnasol a defnyddiol ydyw.

Y syniad yw eu bod nhw’n cael gwneud asesiad ar Wasanaethau Gwybodaeth i adnabod pa mor dda ydynt i bobl ifanc.

Felly beth fyddet ti’n cael am fod yn rhan o hyn? Byddet yn cael ymuno yn ein gweithgareddau preswyl, derbyn ein rhaglen hyfforddiant ac achrediad ar gyfer Arolygwyr Ieuenctid, cael cyfle i gyfarfod pobl eraill ifanc o’r un oedran ac yn fwy pwysig fyth, cael dylanwad ar y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael i ti!

Bydd ein cyfarfod nesaf yn digwydd yn y Flwyddyn Newydd, os hoffet fod yn rhan ohono neu am wybodaeth bellach cysyllta â: Claire@cliconline.org.uk neu geoff@cliconline.org.uk.

Mae bod yn rhan o AR-OLWG hefyd yn wych i dy CV, ceisiadau am waith a/neu goleg ac yn rhoi set newydd o sgiliau i ti tuag at dy ddyfodol.

Am beth wyt ti'n disgwyl? Bydda’n rhan!

AR-OLWG - Y Cychwyniad!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.