Arolwg Iwnifform Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd am iwnifform eu swyddogion.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein er mwyn ceisio penderfynu sut mae pobl yn gweld yr heddlu a pha wahaniaeth mae steiliau iwnifform wahanol yn ei wneud.
Mae’r arolwg yn cael ei wneud gan yr Uwch-arolygydd Simon Shaw fel rhan o’i astudiaethau MBA ym Mhrifysgol Bangor.
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r iwnifform wedi cael ei datblygu er mwyn darparu gwisg gyffyrddus ac ymarferol i’r staff gweithredol.,” meddai.
“Fel rhan o’m hastudiaethau rwy’n gobeithio darganfod pa effaith mae’r iwnifform yn ei chael ar feddwl y cyhoedd o’r heddlu, a dros yr wythnosau nesaf byddaf yn cynnal arolwg ar y stryd, ynghyd ag arolwg ar-lein.”
Mae’r Uwch-arolygydd Shaw yn ei flwyddyn olaf o’r cwrs ac mae’r darn hwn o waith yn rhan o’i draethawd hir olaf. Bydd yn graddio ym mis Gorffennaf.
Mae eisoes wedi cynnal arolwg yng Nghanolfan Siopa’r Bay View ym Mae Colwyn ac mae’n annog gymaint o bobl a phosib i gymryd rhan.
“Rwy’n bwriadu cael cymaint o adborth ag y gallai, ac ar y diwedd, byddaf yn rhannu’r gwaith ymchwil รข’r llu.”
Mae’r arolwg ar lein i’w weld yma: www.north-wales.police.uk







