Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Bancwyr A Breintiau Mawr

Posted by eddie secretary from Torfaen - Published on 31/01/2012 at 14:12
0 comments » - Tagged as People, Topical, Work & Training

  • banc

English version

Dwi'n siwr dy fod di wedi gweld yn y newyddion fod rhai o reolwyr banc mawr yn ennill hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn ac yna yn cymryd bonws o £900,000.

I fi, nid yw hyn yn deg, ac nid yw'n gyfiawn!

Yn fy marn personol i dwi'n teimlo na ddylai neb fod yn ennill mwy na £1 miliwn y flwyddyn. Dwi'n teimlo os ydynt yn ennill mwy nag hyn yna dylai fynd i elusennau ble mae 97% neu fwy o'r arian yn mynd i'r elusen ac nid i reolwyr yr elusen yna.

Dwi hefyd yn credu dylai breintiau gael eu cyfyngu i ddim mwy na £5000 y person, a dwi hefyd yn credu dylai pawb gael yr un faint, pa bynnag swydd sydd ganddynt (bydd hyn yn ei wneud yn gyfartal, yn enwedig pan dyw breintiau ddim yn cael eu hymdrin ag o dan y Ddeddf Gyflog Gyfartal.)

Os ydy bancwr gyda chymaint o arian yn y coffrau fel y gallent roi £900,000 o fonws iddyn nhw'u hunain yna nid ydynt yn gwneud digon i helpu'r economi Prydeinig, yn enwedig gyda chyflogau sydd mor uchel hefyd, gan nad ydynt yn gwario'r arian yna yma. Maent yn mynd dramor yn eu hawyrennau personol i wario eu harian yn America, Awstralia, Sbaen a bron pobman sydd ddim yn Prydain.

Dylai holl reolwyr banc gael ei gorfodi i roi holl arian gormodol i elusennau a busnesau sydd yn buddsoddi mewn pobl ifanc ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i'r bobl ifanc yma.

Mae byw yn Nhorfaen i bobl ifanc yn waith caled, gan nad oes gwaith allan yna, ac os gallai person ifanc gael swydd nid yw'n swydd maen nhw eisiau, mae'n rhywbeth sydd yn diflasu nhw ac yn y diwedd maent yn rhoi gorau iddi, yn gadael eu hunain heb incwm na chyflogaeth.

Felly mae hwn yn neges i'r holl reolwyr banc mawr.

Annwyl Reolwr Banc,

Mae pobl ifanc yn cael trafferth darganfod cyflogaeth na ennill cyllid i gychwyn busnes eu hunain. Dwi'n annog chi i roi 50% o'ch cyflog i un ochr a 50% o'ch bonws a'i roi i mewn i weithgareddau ieuenctid ac elusennau.

Diolch,

Person Ifanc Sydd Yn Ymdrechu

Tudalennau Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
DELWEDD: NateLove

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.