Barddoniaeth: Rhyl Sâl
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.
Cafodd y darn hwn ei gyflwyno yn Saesneg yn wreiddiol felly er mwyn gwerthfawrogi patrwm gwreiddiol y darn barddoniaeth yma gellir gweld y fersiwn Saesneg drwy glicio ar y linc uchod.
Rhyl Sâl
Mae’r llyfryn arfordir Gogledd Cymru
yn brolio: ‘Rhyl, y tlws
yn ein coron!’
Nawr mae’r colfachau yn rhydu yn y dref ysbryd hon.
Adfywiad trefol, pla gwylanod,
gwaith ffyrdd, tagfeydd traffig a rhaglenni methadon;
newyddion tudalen flaen.
Dim siopau cadwyn
bar Maccy’s a Woolies (RIP).
Siopau elusen a phunt yn leinio ein stryd fawr.
Bagiau Morrison’s yn rholio fel tumbleweed.
Manceinion wedi heigian
y gorlif Lerpwl hwn
acennau a lecsicon yn gwrthdaro
pysgod mawr, pyllau bach, ymladd
dros ferched, cyffuriau ac arian
yn unig le nos y dref.
Gyrru i mewn o’r dwyrain
a chyfarch gan westy wedi’i losgi,
to wedi cwympo a thrawstiau diffeithio
ddim yn cystadlu â’r olygfa ddigalon
o ffair hwyl i’r gorllewin.
Yr un drylliad yn cael ei glirio am flynyddoedd.
Fel yr arcêds ar y ffrynt
mae’r dref yn goleuo yn ystod
misoedd yr haf. Cluniau llosg haul,
hufen iâ wedi’i golli a reidiau mul
yn chwyddo economi’r glan môr yma ychydig
a’r colfachau yn cael eu seimio
tan yr hydref o leiaf







