Beio Pawb Yr Un Fath
Mae pobl ifanc yn cael eu gweld fel rhai afreolus sy’n creu arswyd.
Pan fo rhywun ifanc yn cerdded i lawr y stryd gyda’i gwfl i fyny, a bod person hŷn yn ei weld yn dod ac yn croesi’r stryd, ydy hyn yn golygu bod gan y person hŷn syniad anghywir am ‘y cwfl’?
Ond pam fod dyfodol yfory yn creu cymaint o gamargraff?
Y cyfryngau sydd i’w beio yn rhannol am gamddehongli pobl ifanc Prydain. Yn y papurau newydd mae pennawd bob amser sy’n targedu ieuenctid heddiw sy’n gysylltiedig â ASBOs ac ymddygiad gwael.
Gallech edrych ar bron unrhyw bapur newydd ym Mhrydain a chael eich cyfarch gyda phennawd yn defnyddio ymadroddion fel: “Fel pla, mae’r ddinas yn ymddangos fel pe bai yng ngafael anghyfraith ymysg yr ifanc” - Peterborough Evening Telegraph
Mae’r bobl y tu ôl i’r cyfryngau yn dadlau na fyddai ‘stori o lwyddiant’ yn gwerthu cystal â phobl ifanc yn ymddwyn yn wael a bod yn rhaid iddyn nhw ddiddanu eu cynulleidfa. Mae’n ddealladwy fod yn rhaid iddyn nhw gynhyrchu cynulleidfa ond mae defnyddio ymadroddion sy’n awgrymu bod pobl ifanc i gyd ar fai yn beth i’w ddirmygu.
Fel mae llawer o bobl ifanc wedi crybwyll, byddent yn falch iawn pe bai’r cyfryngau yn cyfaddawdu ac yn cydbwyso’r newyddion a gynhyrchant drwy ychwanegu ‘stori o lwyddiant’ ar gyfer pob stori wael y maent yn ei darlledu. Byddai’n beth da i ieuenctid hefyd pe bai’r cyfryngau yn stopio dweud ein bod i gyd yn ymddwyn yn wael.
Felly yn hytrach na defnyddio ymadroddion fel ‘pobl ifanc’ a ‘iobs’, defnyddio geiriau sy’n awgrymu mai lleiafrif o ieuenctid sy’n achosi trafferthion. Byddai geiriau bach fel ‘lleiafrif’ a ‘rhai’ yn newid ein delwedd, ac mae’n siŵr na fyddai’n cymryd llawer o ymdrech, arian ac amser i wneud hyn.
Oherwydd y cyfryngau camarweiniol, mae ar bobl ein hofn, neu byddant hyd yn oed yn gwahardd grŵp ohonom rhag mynd i siop yn gyfan gwbl. Mae’n mynd yn afrealistig ac yn wirion, ac mae’n bryd i ni sefyll i fyny drosom ein hunain a rhoi gwybod i Brydain nad y mwyafrif yw’r lleiafrif.
Felly, beth allwn ni ei wneud i hyrwyddo ein delwedd yn y cyfryngau?
Mae llawer o gynlluniau gwobr o gwmpas, fel Gwobrau Philip Lawrence a Gwobrau Dug Caeredin. Oherwydd bod llawer o gynlluniau gwobr ar gael i bobl ifanc gallwn ddangos i Brydain beth y gallwn ei gyflawni. Gallwn ennill ymddiriedaeth, clod a dealltwriaeth gan y rhai hŷn.
Hefyd mae gweithwyr ieuenctid a phobl sy’n gweithio gydag ieuenctid yn ein helpu i ennill proffil cadarnhaol drwy gywiro a dweud wrth bobl sydd wedi ein camddeall ein bod yn gwneud yn dda a’n bod yn cyfrannu at ein cymuned.
Gallem helpu ein hunain drwy gynhyrchu ein cylchgronau ein hunain neu ein blogiau ar-lein a’u darlledu, gan roi cyfle i’r rhai hŷn ddeall pwy ydym ni a beth yr ydym yn sefyll drosto, ac nad ydym ni i gyd yn alcoholigion ac yn gaeth i gyffuriau ac yn ymddwyn yn wael.
Beth fyddai’n digwydd pe bai’r sefyllfa yn cael ei gwyrdroi yn llwyr?
Allwch chi ddychmygu gwraig yng nghanol ei phedwardegau yn cerdded i lawr y stryd yn gwisgo cwfl ar ei phen a rhywun ifanc yn cael yr argraff anghywir amdani? Cymaint felly fel bod y person ifanc yn croesi’r ffordd? Dyw hyn ddim yn realistig, felly pam ydym ni yn cael ein trin fel hyn?
Beth yw eich barn chi am y ffordd yr ydym yn cael ein dehongli?






