Beth Wyt Ti Am Wneud?
Dyma amser y flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto pan mae pawb yn ceisio codi arian am y marathon codi arian o Plant Mewn Angen y BBC. Bydd miliynau yn gwylio nos Wener, eisiau osgoi'r fideos 'diflas' yn apelio am arian a dim ond gwylio'r darnau difyrrus o'r sioe. Ond nid allwn anghofio pwrpas yr holl ddiwrnod, a hynny yw codi arian i blant a phobl ifanc difreintiedig ym Mhrydain, ac mae miliynau o bobl dros Brydain yn gwneud eu rhan mewn amryw ffordd ddyfeisgar a difyrrus.
Felly, rydym eisiau gwybod beth fyddi di'n gwneud i godi arian i Blant Mewn Angen eleni, yn dy ysgol, coleg, gwaith, cymuned, ble bynnag. Gad sylwad isod neu'n well fyth, ysgrifenna erthygl dy hun am beth wyt ti wedi bod yn gwneud a gyrra luniau i mewn hefyd, neu beth am greu fideo? Byddai pawb wrth eu boddau yn gwybod beth sydd wedi bod yn digwydd.







