Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Brwydr Y Bandiau 2011

Posted by CLICtania from National - Published on 28/08/2011 at 11:05
0 comments » - Tagged as Music, Stage

  • botb

English version

Ar ddydd Iau, 18 Awst yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, roedd ffeinal Brwydr Y Bandiau CLIC a Merthyr Rock yn digwydd – ac am noson wych!

Agorodd y drysau am 7pm, ond penderfynodd Tansi a finnau gyrraedd ychydig yn fuan i sicrhau ein bod yno mewn amser. Dim yn hir wedi'r drysau agor, cychwynnodd y lle lenwi ychydig. Dywedom helo wrth ychydig o wynebau cyfarwydd a phrynu diodydd wrth ddisgwyl i'r bandiau osod i fyny. Roedd yr ystafell fach (wel, eithaf bach. Bach yn fy marn i…) yn eithaf tywyll, yn llawn mwg – nid fel mwg sigarét ond y mwg llwyfan – ac yn teimlo ychydig yn glos (mae'n debyg dyma pam roedd yn ymddangos yn fach i mi. Dwi ddim yn hoffi llefydd cyfyng. Dwi'n hoffi cael lle!) wrth i'r band cyntaf, The Undivided, ddechrau chwarae.

Roedd y gerddoriaeth yn uchel iawn a'r dirgryniadau yn llifo drwy'r llawr ac i fyny fy nghorff ac yn teimlo fel eu bod yn rheoli fy nghorff. Roedd y gerddoriaeth hefyd yn swnio fel cymysgedd o roc a pop ac roeddwn yn eithaf hoff ohono. Ymddangosai fel bod y gynulleidfa yn mwynhau'r perfformiad gan The Undivided ac roeddent yn cymeradwyo ar ôl pob cân.

Nesaf cawsom Hotel Ambush. Roeddwn yn edrych ymlaen at glywed y rhain oherwydd, yn ôl y CLICshot, roedd llais y prif ddyn yn gallu gwneud i ben Justin Bieber ffrwydro – dyna'r unig amser roeddwn i wedi siomi nad allwn weld Bieber mewn person. Byddwn wrth fy modd bod yn dyst i hynny! Perfformiodd y band ganeuon metel a llwyddo i adlonni'r gynulleidfa gyda'r llais ymosodol a'r curiadau craidd caled iawn. Roeddwn yn mwynhau'r band yn fawr iawn ond dwi'n meddwl eu bod wedi achosi difrod dros dro i ddrwm fy nghlust ar ôl y perfformiad fel fy mod yn ei chael yn anodd deall beth roedd Stormer007 yn ddweud wrthyf – er ei fod wrth fy ochr.

Ar ôl toriad pymtheg munud (gyda llaw, roedd toriad pymtheg munud ar ôl pob band… lle roeddwn yn treulio'r amser yn siarad neu'n prynu mwy o sudd oren… rhag ofn dy fod eisiau gwybod. Mae'n siŵr doeddet ti ddim ond o wel, rhy hwyr rŵan) daeth Eric Unseen i'r llwyfan yn perfformio caneuon o gyfuniad genre Indie a Roc. Roedd y dorf yn ymddangos fel eu bod yn mwynhau'r band yma ac roedd y mwyafrif yn ei chael yn anodd peidio symud i'r curiad mewn un ffordd neu'i gilydd – gan gynnwys fi. Roedd y llais yn anhygoel ac yn gryf iawn sydd bob tro'n beth positif yn fy marn i. Roeddwn yn meddwl fod y band cyfan yn chwarae'n dda iawn a hoffwn ei weld eto.

Yn dilyn Eric Unseen roedd yr Editions, oedd yn perfformio cerddoriaeth pop/pync. Roeddwn yn hoffi'r band yma yn enwedig y gitâr , drymiau a lleisiau. Dwi ddim yn gwybod beth oedd o, ond roeddwn yn hoffi nhw'n fawr iawn. Ffordd od o ddisgrifio'r peth, dwi'n gwybod, ond ni fedraf ffeindio'r geiriau dwi'n chwilio amdanynt. Ond beth fyddwn i'n ddweud ydy fy mod i'n meddwl fod y band yn dalentog iawn ac fel Eric Unseen, hoffwn weld y band yma eto, rhyw dro yn fuan.

Y band diwethaf i ddod ar y llwyfan oedd Men On The Chessboard. Roedd y gerddoriaeth fel cyfuniad o ffync ac indie. Dwi'n cyfaddef, dwi ddim yn meddwl dwi wedi clywed llawer o gerddoriaeth debyg i hwn, os o gwbl, ond nid yw'n golygu nad oeddent yn dda. Roeddwn yn meddwl fod y gerddoriaeth yn ddiddorol iawn i wrando arno ac eto, roeddwn yn meddwl fod y gerddoriaeth yn ddiddorol iawn i wrando arno ac eto, roeddwn yn meddwl fod y llais yn gryf iawn. Eto, ni allaf ddarganfod geiriau i ddisgrifio'r band heblaw am ddiddorol iawn a grêt i wrando arno.

Ar ôl i'r band diwethaf orffen, roedd rhaid i mi adael gan fy mod angen dal y trên diwethaf adref yn ôl i'r pentref bach diflas (dwi'n meddwl mai pentref ydyw, er mae rhai pobl yn ei alw'n dref – pam fod i'n dweud hyn wrthyt ti?) o Dreorci. Siom mawr! Ond, tuag at gychwyn fy siwrne cefais neges gan Tansi yn dweud fod "Eric Unseen wedi ennill. Wedi cael CD i ti hefyd. Hotel Ambush ddaeth yn ail ac Editions yn drydedd."

Roeddwn yn falch iawn gyda'r canlyniad ac yn meddwl fod y bandiau gwir yn haeddu gorffen yn y safleoedd yna. Hoffwn ddweud da iawn mawr i'r holl fandiau oedd yn y ffeinal a llongyfarchiadau i'r enillwyr, Eric Unseen. Hoffwn hefyd ddweud diolch i CLIC am fy nhocyn am ddim hefyd! Roeddwn yn falch iawn efo hynny! Dwi'n gobeithio mynd i Ferthyr Rock fis Medi fel gallaf weld Eric Unseen yn perfformio eto.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.