Welcome to CLIConline! Please sign up or login

BYB - Y Bandiau

Posted by CLICdan from Vale Of Glamorgan - Published on 28/07/2011 at 13:15
0 comments » - Tagged as Festivals, Music, People, Stage

  • BOTB
  • BOTB
  • BOTB
  • BOTB
  • BOTB
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb
  • botb

English version

Mae'r Frwydr Wedi Cychwyn!

I weld y rhestr hon mewn fformat llawer fwy sgleiniog a threfnus, cymera olwg ar y CLICshot. [Beth ydy CLICshot, ti'n gofyn? Cofrestra yma.]

Mae'r cofrestru wedi cau ar gyfer Brwydr y Bandiau CLIC eleni, a dwi'n siŵr byddet yn hoffi gwybod ychydig mwy am y bandiau sydd wedi mynd drwodd i'r rowndiau nesaf a gwrando ar eu caneuon cyn y gigs.

Institiwt Glyn Ebwy (EVi) :: Gwener 29 Gorffennaf

Drain The Lake
http://www.myspace.com/drainthelakemetal/music
Genre: Metel
Bio: Yn tynnu o drymder digyfaddawd y sŵn craidd metel Americanaidd cyfoes ac yn cymysgu hyn gyda thechneg bandiau math-grind fel Dillinger Escape Plan, mae Drain the Lake yn anelu gwthio ffiniau metel Prydain.

Heroes And Outlaws
http://www.facebook.com/HeroesAndOutlaws?sk=app_178091127385
Genre: Roc Trwm
Bio: Bydd nifer yn meddwl bod ein gwaith yn gymysgedd perffaith o waith lleisio sydd yn mesmereiddio ac unawdau gitâr fydd yn rhoi croen gŵydd i chi, ynghyd â sain ddeniadol wych fydd yn cael chi'n chwarae ein traciau drosodd a throsodd!

Conquer The Decade
http://www.myspace.com/conquerthedecade
Genre: Amgen / Craidd caled / Roc Deheuol
Bio: Yn hanu o gymoedd De Cymru, mae Conquer The Decade yn dod â chymysgedd o genres cerddoriaeth i chi. Maent yn fand ifanc sydd yn gwneud eu gorau glas i wneud yn sicr fod pawb yn eu clywed. Cychwynnant weithio ar ail gerfio eu caneuon hen ac maent nawr yn dod â rhai newydd allan i arddangos cymaint maent wedi aeddfedu fel band. Ar ôl iddynt ennill Battle Turf 2010 penderfynant deithio i Stiwdios Outhouse yn fis Hydref i recordio'r EP maent wedi bod yn gweithio tuag ato am dros flwyddyn.

Dirty Sparrows
http://soundcloud.com/dirtysparrows
Genre: Ffync
Bio: Yn hollol newydd sbon! Mae'r band yn gybolfa gerddorol o artistiaid o nifer wahanol genres, o Ffync a Hip Hop i Jas a hyd yn oed Metel. Ein bwriad yw gwneud i chi ddawnsio. Yn galed. A lot.

Men On The Chessboard
http://www.myspace.com/menonthechessboard
Genre: Ffync / Seicodelig
Bio: 'Swnio fel llyfrau'

Y Ffactori, Porth :: Sadwrn 30 Gorffennaf

Editions
http://www.myspace.com/menonthechessboard
Genre: Pop / Pync
Bio: Cafodd y rocwyr-pop o De Cymru, Editions, ei ffurfio o lwch The Story So Far, Set In Motion a The Guns. Gobeithio bod chi'n hoffi'r tiwniau!

Venus Vipers
http://www.myspace.com/venusvipers
(Dim traciau wedi'u recordio eto – dewch i weld ni'n fyw!)
Genre: Roc Amgen
Bio: Rydym yn chwarae cerddoriaeth roc amgen uchel sydd yn tynnu sylw. NI YDY’R VENUS VIPERS!

Hello Camaro
http://www.myspace.com/hello-camaro
Genre: Indie
Bio: Mae Hello Camaro yn fand roc amgen 5 aelod o Bontypridd, De Cymru. Mae'r band efo cyfoeth o brofiad ac yn arddangos hyn wrth chwarae mewn sioeau byw!

Clay Statues
http://www.myspace.com/claystatues
Genre: Minimalydd / Pync
Bio: "Dyma Clay Statues… o Gaerdydd… dim ond dau ohonynt sydd, ond maent yn gwneud diawl o swn…" – Adam Walton – BBC Radio Wales

The Hotel Ambush
http://www.myspace.com/thehotelambush
Genre: Metel
Bio: Mae'r band wedi cyfansoddi llawer o ganeuon gyda riffs gwych, curiadau craidd caled a llais ymosodol sydd yn ymylu ar alawol i fodloni'r tyrfaoedd fwyaf caled. Mae pob cân wedi'i ysgrifennu gydag unigrwydd ac angerdd i lwyddo yn y diwydiant cerddorol. Mae'r band pum aelod yn cael ei yrru gan eu hawydd ac uchelgais i berfformio ar y lefel uchaf, gyda set llawn egni a charisma. Mae eu perfformiadau hyd yn hyn wedi cael eu derbyn gyda brwdfrydedd a chymeradwyaeth uchel.

Sin City, Abertawe :: Sadwrn 13 Awst

After An Alibi
http://www.myspace.com/afteranalibi
Genre: Amgen / Ôl-pync
Bio: Bore / Prynhawn/ Noswaith dda boneddigion a boneddigesau! Ni ydy After An Alibi. Rydym yn fand dwyieithog sydd yn chwarae yng Nghymraeg a Saesneg. Rydym wedi bod yn fand ers Pasg 2009, ac yn y cyfnod ers hynny rydym wedi chwarae tipyn o gigiau ac wedi ennill Brwydr Y Bandiau Maes B fis Awst, ac wedi chwarae ar BBC Introducing Wales gan Bethan Elfyn ar Radio 1.

Hey! Alaska
http://www.myspace.com/heyalaskauk
Genre: Pop-pync / Screamo
Bio: "Llinellau gitâr dda, drymio gweddus, a prif lais sefydlog yn cyd-fynd gyda strwythur cân wedi'i chyflunio yn dda (os nad yn arloesol). Mae wedi'i ddaearu cymaint yn y dosbarth pop-pync/pop-roc/craidd caled smalio heddiw, sain sydd yn addas i sioe gyda'r fath o fandiau fel Deaf Havana." – Punktastic.com

Eric Unseen
http://www.myspace.com/ericunseen
Genre: Indie / Reggae / Roc
Bio: Pam ddim dod draw i'n sioe i weld ni a rhoi disgrifiad personol eich hunain…

Ryan March
http://www.myspace.com/ryanmarchmusic
Genre: Acwstig / Gwerin / Pync
Bio: Canwr / Ysgrifennwr caneuon o Ben-y-bont ar Ogwr, Cymru.

The Undivided
http://www.myspace.com/theundividedmusic
Genre: Amgen / Indie / Roc
Bio: Os mai Biffy Clyro ydy cyfuniad craidd caled-pop fwyaf arloesol y degawd hwn, yna The Undivided ydy'r brawd ifanc llygaid llydan, gyda bachiad gordd, yn gytganau nendwr a 'savvy' i gyd, a threfniadau pop-pwerus cleisiog.

Hobos, Pen-y-bont ar Ogwr :: Sul 14 Awst

Akronist
http://www.myspace.com/akronist
Genre: Electronig / Hip-Hop / Telynegol
Bio: "Tyrd i Gaerdydd. Nei di hoffi."

Continents
http://www.facebook.com/Continentsband
Genre: Metel / Craidd Caled
Bio: Yn hanu o De Cymru, mae'r Continents wedi profi i fod yn fand dewisol y noson diolch i'r prif ddyn deinamig a grŵp o ganeuon llawn personoliaeth ac addewid. Roedd 'Life's A Grave (But I Dig It)' yn un o'r caneuon yma; yn cymysgu curiadau ffrwydredig craidd caled gyda gitâr dechnegol wedi'i steilio fel DEP golygai fod y set yn ffrwydro gyda ffyrnigrwydd, ehofndra, a hiwmor craidd caled.

Radio City
(Dim traciau wedi'u recordio eto – dewch i weld ni'n fyw!)

Solace Awaits
http://www.myspace.com/solaceawaits
Genre: Metel / Roc
Bio: Mae 2010 wedi bod yn flwyddyn gyda llawer o ddigwyddiadau i Solace Awaits! Rydym wedi chwarae amryw o gigiau, wedi chwarae gyda bandiau anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd! Os ydych chi erioed wedi cymryd yr amser i weld/gwrando arnom yna hoffwn ddiolch i chi am eich amser. Mae'ch cefnogaeth yn golygu'r byd i ni. Gadewch i ni obeithio fod 2011 y cam nesaf rywbeth prydferth!

Charnel House
(Dim traciau wedi'u recordio eto – dewch i weld ni'n fyw!)

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.