Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cael Gwared Â'r Boen

Posted by steampunk13 from Bridgend - Published on 17/05/2011 at 10:43
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Health, People, Topical

  • pain

English version

Dwi'n dal y siswrn mewn un llaw, gwaed yn sychu yn barod ar y metel miniog.

Dwi'n teimlo'r rhwyg llosg ar fy mraich sydd yn foddhad yn ei hun.

Mae crafiadau coch gwaedlyd wedi suddo i mewn i'm nghroen tra mae llinellau brathog yn cychwyn codi yn y llefydd dwi heb dorri digon dwfn.

Mae'r dagrau roedd yn llifo awr yn ôl bellach wedi sychu, yn gadael hoel pensel llygaid ar fy mochau. Mae fy ngwefusau yn blasu'r halen sydd wedi ei adael ar gornel fy ngheg.

Tri chnoc ar ddrws y stafell ymolchi a dwi wedi 'n rhyddhau o'r cornel oer yn fy meddwl roeddwn wedi ymlusgo iddo.

"Beth wyt ti'n wneud?" Llais fy chwaer yn galw arnaf drwy'r pren. Dwi ddim yn ateb, dim ond yn edrych i ffwrdd o'r adlewyrchiad tywyll ac yn troi'r tap oedd yn bygwth gorlenwi'r sinc i ffwrdd.

Dwi'n tynnu'r llawes i lawr i guddio'r briwiau ac yn rhoi'r siswrn yn ôl yn y cwpwrdd meddygol. Dwi'n gafael mewn hances bapur ac yn dabio d?r oer ar fy llygaid, yn tynnu unrhyw dystiolaeth mod i wedi gofidio. Bydd neb yn gwybod, a neb yn gofyn. Dwi'n fflysio’r toiled fel rhan o'r drefn ac yn agor y drws gyda gwen ar fy wyneb.

"Sori, problemau misglwyf" dwi'n ystumio, am unwaith yn falch o fod yn ferch 16 oed.

Dwi'n pasio fy chwaer ac yn mynd i'm hystafell, yn cau'r drws tu ôl i mi. Yn fy ngwarchodfa dwi'n codi'r llawes yn ôl, yn astudio'r creithiau dros dro sydd ar ôl. Dwi wedi troi hyn i mewn i gelf – hunan niweidio heb adael craith barhaol. Dim ond am ychydig ddyddiau maent yn aros cyn diflannu'n gyfan gwbl

I'r rhai sydd yn aros hirach dwi'n gwneud esgusodion – mae'n rhaid fy mod wedi'i wneud yn fy nghwsg, fe ddaliais i o ar y giât neu gath Sophie wnaeth. Nid oes neb yn gwybod a neb yn gofyn dim pellach. Ond maent yn amau rhywbeth, ond byth yn cwestiynu.

Mae fy ffrind Hannah yn hunan niweidio hefyd. Mae hi'n gwybod fod y boen gorfforol yn dominyddu'r meddyliol, y poen rydym yn teimlo bob dydd am ein bod yn bodoli mewn byd lle nad oes lle i ni. Ond mae ei chreithiau hi yn igam ogam dros ei braich, yn ddig ac yn amrwd, sydd yn golygu eu bod yn weledol drwy'r adeg. Nid yw'n gwneud llawer i'w cuddio.

Mae hi'n dweud nad yw'n poeni os oes unrhyw un yn gweld – ei bai nhw ydy gwneud iddi deimlo' fel hyn. Dwi ddim yn rhannu'r farn yma. Dwi ddim eisiau i bobl weld y boen dwi'n ddioddef ar y tu fewn. Mae'n well gen i gadw popeth i mewn a chuddio na roi baich ar unrhyw un gyda fy mhersonoliaeth hunan fychanu. Er fy mod yn cuddio, dwi'n gweiddi am help.

Yn ôl yn realiti fy ystafell dwi'n clywed y teledu lawr grisiau. Dwi'n cadw gwen ar fy wyneb ac yn mynd at mam yn yr ystafell fyw. Dwi'n eistedd ar y soffa ac yn cyrlio i fyny wrth ei hochor.

Yn rhoi ei braich o'm nghwmpas, mae hi'n rhoi gwasgiad bach i mi ac yn edrych arnaf gyda gwen cam. Mae ei llygaid yn goch, ei bochau wedi staenio gyda dagrau a'i masgara wedi rhedeg. Nid oes rhaid gofyn, dwi''n gwybod yn barod.

Plîs noda fod unrhyw farn a gweithred sydd yn cael ei drafod yn yr erthygl hon yn unigol i'r cyfrannwr ac nid yw, o reidrwydd, yn adlewyrchu barn y gr?p golygyddol, y Prosiect Bwsted na Gwasanaeth Ieuenctid Sir Pen-y-bont Ar Ogwr.

Os wyt ti'n neu rywun ti'n adnabod wedi cael dy effeithio gan y materion yn yr erthygl hon, plîs clicia ar y linciau isod am gymorth. Neu gallet alw Mind ar 0300 123 3393 neu e-bostio nhw ar info@mind.org.uk.

LINCIAU
Rethink
Harmless
BBC
Mind
Meic Cymru
Gwybodaeth Hunan Niweidio

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.