Cegin Eddie: Draenog Y Môr Wedi Grilio
English version
Dylai hwn fod yn un diddorol i chi.
Mae ganddo'i wraidd yng Ngwlad Thai ac mae'n ddraenog y môr (sea bass) gyda leim, sinsir a saws coriander, gyda llysiau wedi'i stemio.
Mae'r un yma yn cael ei gyflwyno'n arbennig i'r golygydd Ryan.
Beth fydd angen?
- 1 draenog y môr canolig i bob person (cyfan, wedi'i lanhau a'i olchi'n dda)
- 1chilli coch bach (gyda'r hadau wedi'u tynnu a'i dorri'n fan)
- 1 talp maint bawd o sinsir (wedi'i sleisio i mewn i stribedi bach)
- 1 cwpan o goriander
- Sudd 2 leim a chroen 1 leim
- 25g o siwgr mân
- Llysiau i stemio (dy ddewis)
- Pupur du a halen môr
- 50ml o dd?r
Dull
- Sleisia ochrau'r pysgodyn 3 gwaith ar bob ochr, gan sleisio drwodd yn ddwfn
- Rhwbio halen a phupur i mewn i'r pysgodyn
- Rho'r llysiau i mewn i stemar (os nad oes gen ti stemar gall greu un gyda cholandr metel dros sosban o dd?r yn mudferwi, ac yna rhoi caead dros y top) a choginio am 15-20 munud (dylai llysiau crensio ychydig)
- Rho'r badell gradell ar y pentan a'i roi ar wres uchel
- Rho'r pysgodyn i mewn i'r badell, a'i adael i goginio am 3 munud cyn troi (os yw'n sownd i'r badell, gad iddo goginio am ychydig hirach a bydd olew naturiol y pysgodyn yn ei dadludo o'r badell)
- Mewn sosban fach, ychwanega sudd leim, siwgr a d?r, troi'n barhaol nes i'r siwgr doddi
- Ychwanega'r croen leim, sinsir a chilli
- Mudferwa'r cwbl yn ysgafn, gan droi'n dda
- Ar y funud olaf ychwanega hanner o'r coriander i'r saws, gan droi'n dda
I Blatio i Fyny
- Gorwedda'r pysgodyn wedi'i goginio ar blât poeth
- Llwya'r llysiau allan, gan wneud iddynt edrych yn ffansi
- Diferu cwpl o lwyau o'r saws drosto
- Tasgu ychydig o goriander wedi'i rwygo drosto a'i serfio
Awgrymiad y Cogydd
- Cyn i ti ddiferu'r saws blasa ef. Os yw'n rhy siarp ychwanega cwpl o lwyau te o siwgr a'i doddi
- Os ydy'r pysgodyn ychydig yn fawr, coginio am ychydig hirach ar wres is i adael iddo goginio drwyddo
- Os wyt ti'n hoffi bwyd poeth, paid tynnu'r hadau o'r chilli. Deisia ac ychwanega, gyda'r hadau (os wyt ti eisiau ef yn fwy poeth, cyn i ti ychwanegu'r saws, ychwanega 3-5 diferyn o Tabasco neu saws poeth iawn arall)
Gobeithio dy fod di'n mwynhau'r un yma.
DELWEDD: Henrique Vicente







