Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cegin Eddie: Sbag Bol Ysgafn

Posted by eddie secretary from Torfaen - Published on 05/01/2012 at 11:56
0 comments » - Tagged as Food & Drink, Health, People

  • sbag

English version

Iawn, felly mae hwn yn rysáit coginio byr arall (yn anffodus dwi heb gael camera eto).

Plîs noda efallai bydd angen goruchwyliaeth rhieni/gwarchodwr am rannau o'r rysáit hwn ar gyfer Sbageti Bolognese Iach i fwydo teulu o bedwar.

Cynhwysion ac offer:

  • Bag 500g o mins Quorn (rhaid bod yn fins Quorn er mwyn bod yn iach, os nad alli di ddefnyddio mins Quorn am resymau iechyd neu ddiet gall ddefnyddio unrhyw fins llysieuol ti'n ddewis)
  • 2 tun tomatos wedi'u torri (rhai isel mewn halen os galli di gael gafael arno, ond bydd unrhyw dun tomatos yn iawn)
  • 1 clof garlleg (wedi'i wasgu a'i ddeisio)
  • 1 nionyn canolig – wedi'i ddeisio
  • 1 moron mawr – wedi'i ddeisio
  • Hanner cwpan o bys wedi'u rhewi
  • 7-10 madarch (chwarteri)
  • 10-15ml o Olew olewydd hynod-goeth (neu gall ddefnyddio Vitalite heb laeth, yr opsiwn mwy iach)
  • Pasta (sych neu basta wy ffres)
  • 1 ciwb stoc (Oxo neu debyg)
  • Caws wedi'i gratio (20g y person)
  • 2 sosban
  • Colandr

Dull:

  • Ychwanega'r olew olewydd i sosban boeth ac ychwanegu'r nionyn nes iddynt feddalu (paid gadael iddynt losgi gan fydd hyn yn difetha'r blas), dylai hyn gymryd 3-5 munud.
  • Ychwanega'r moron nes maent wedi meddalu (cadwa'r nionyn a'r moron yn symud fel nad yw'n glynu i'r sosban)
  • Ychwanega'r mins Quorn a gadael iddo gynhesu drwodd (10 munud, parha i droi yn barhaol)
  • Ychwanega garlleg a briwsioni'r ciwb stoc a'i gymysgu'n dda
  • Ychwanega'r tun tomatos a'i goginio drwodd
  • Ychwanega'r pys a'r madarch a mudferwi
  • Mewn sosban ar wahân, hanner llenwi gyda d?r a'i roi ar y gwres, a rhoi llwy de o olew ynddo (bydd hyn yn stopio'r pasta o lynu at ei gilydd) a phinsiad o halen
  • Berwa'r d?r ac yna ychwanegu'r pasta, coginio nes bydd yn feddal (lluchia darn bach o basta ar ddrws cwpwrdd, os yw'n glynu mae wedi coginio – gofynna ganiatâd gyntaf)

I Serfio:

  • Draenia'r pasta a rhoi pentwr fach yng nghanol y plât
  • Rho'r Bolognese drosto
  • Rho'r caws ar ei ben a mwynha.

Plîs cymera lun o dy Bolognese a/neu adael sylwad isod.

Newyddion – Bwyd a Diod

Sefydliadau – Food For Thought

Gwybodaeth – Diddordebau - Bwyd

Gwybodaeth – Maetheg

Erthygl Berthnasol: Cawl San Steffan

DELWEDD: jakepjohnson

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.