Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cegin Eddie: Salad Cesar

Posted by Eddie's Kitchen from Torfaen - Published on 22/04/2012 at 15:13
0 comments » - Tagged as Food & Drink, Health

  • salad

English version

Reit ta, felly dwi'n gwybod bod rhai ohonoch wedi bod yn meddwl pryd mae'r rysáit nesaf yn ymddangos? Felly beth yw ef? Pam nad yw o yma eto? Wel, fe ddywedai wrthyt ti!

Y rysáit nesaf fydd teisen enfys gyda gwahaniaeth, ond cyn i mi roi'r rysáit i fyny dwi angen rhoi prawf arno gyntaf (mae'r un yma yn gais gan CLICiwr ifanc). Y rysáit ar ôl yr un yma fydd byrgyrs cartref, yn barod am y tymor barbiciw.

Bydd angen:

  • 3 deilen letys iceberg – wedi'i dorri'n ddarnau
  • Llond llaw fach o ferwr (rocket)
  • Llond llaw fach o ddail betys coch ifanc
  • 1 letys gem fach
  • 200g brest cyw iâr – wedi'i goginio a'i sleisio
  • 6 ansiofi
  • 3 sleisen cig moch – wedi'i goginio a'i ddeisio
  • Dresin Cesar

Sut i'w greu:

  1. Ar blât, gosod y dail gem fach i greu'r haen gyntaf
  2. Gwasgaru gweddill y dail letys drosto
  3. Gorwedd y frest cyw iâr wedi sleisio, gyda'r ansiofi ar ben pob sleis
  4. Gwasgaru'r cig moch drosto
  5. Tywallt ychydig o ddresin Cesar drosto

Awgrymiad y cogydd:

  • Am flas Eidalaidd, gwasgara siafins caws Parma a thywallt ychydig bach o olew olewydd hynod goeth.

Clicia yma i weld holl ryseitiau Eddie

Newyddion – Categorďau – Bwyd a Diod

Gwybodaeth - Bwyd

Gwybodaeth – Maetheg

DELWEDD: Ryan Grove

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.