Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cenedl Dros Yr Enfys

Posted by welshtyke from Cardiff - Published on 29/06/2010 at 14:45
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, History, Sport & Leisure, Topical

  • fan

English version

Mae pawb yn gwybod fod y Cwpan Byd FIFA yn rhywbeth o bwys.

Mae’r digwyddiad chwaraeon unigol mwyaf ar y blaned, mis o’r gamp fwyaf poblogaidd yn y byd a’r chwaraewyr gorau yn y byd.

Tra mae rhai pobl i weld yn adnabod bob un chwaraewr o bob un tîm, yn ogystal â phob stadiwm, bob ystadegau a bob canlyniad, mae rhai pobl yn ei chael yn anodd deall y rheol camsefyll (dwi’n dweud celwydd, da ni gyd yn).

Efo’r gwahaniad rhwng yr ymennydd pêl-droed a phobl ‘normal’ roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n ceisio edrych ar ddigwyddiadau sydd ddim yn ymwneud â phêl-droed yn De Affrica.

Mae llawer wedi cael ei ddweud am hanes terfysglyd De Affrica a byddai digwyddiad o’r maint hyn yn y genedl hon wedi ymddangos yn amhosib rhyw 20 i 30 mlynedd yn ôl. Os nad wyt ti’n gwybod am beth ydw i’n siarad yna gall ei grynhoi mewn un gair hyll a chas. Apartheid.

Apartheid

Ar un adeg roedd De Affrica yn debyg i De Eithaf America yn y 60au. Dywedai llawer ei fod yn waeth na hyn. Roedd arwahanu hiliol yn gyffredin iawn, fel afiechyd cas yn fy marn i, ond dwi’n sicr nad wyt ti eisiau clywed fy marn i. Ti eisiau ffeithiau a gwybodaeth.

Wel, os byddwn i yn dweud wrthyt fod pobl dduon a gwyn yn byw mewn llefydd ar wahân, gyda’r bobl dduon yn cael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth, a’u hawliau yn cael eu sathru arnynt gan ormes llethol goruchafwyr gwyn, yna dwi’n gobeithio fod hynna yn ddigon i ti.

Arwr y symudiad gwrth-apartheid oedd y byd-enwog Nelson Mandela neu “Madiba” fel mae ei bobl yn ei alw. Mae’r gair ‘arwr’ yn cael ei orddefnyddio’r dyddiau yma ond mae’r dyn yma yn rhagori’r categori yma.

Mae ei 25 mlynedd wedi’i garcharu ar Ynys Robben (oddi ar arfordir Cape Town) yn parhau i synnu pobl dros y byd ac yn achosi iddynt edmygu’r dyn rhagorol hwn. Dyma wir arwr y frwydr am hawliau sifil yn De Affrica.

Mae’n eithaf posib na fyddai’r adeg yma byth wedi cyrraedd i De Affrica heb Mandella ac eraill tebyg, a byddai’r byd dal yn troi ei gefn ar genedl sydd wedi ei hollti gan liw. Roedd gwaharddiad chwaraeon De Affrica, parhaodd o Gemau Olympaidd 1964 i 1992, yn ymgais gan y gymuned ryngwladol i gael gwared â’r gyfundrefn apartheid canseraidd De Affrica.

Gall ddweud ei fod wedi bod yn llwyddiant ond fe gymerodd amser maith i gael unrhyw effaith ac efallai nad oedd yn brif ffactor mewn newid mawr De Affrica am y gorau.

Ynys Robben

Un stori o’r adeg honno oedd o ddiddordeb mawr i mi. Wedi gêm Yr Eidal yn erbyn Paraguay yn Cape Town ar y BBC, ymwelodd Gaby Logan â charchar Ynys Robben. Yno cyfarfydd â chyn carcharwyr fu’n esbonio’r gynghrair pêl-droed gafodd ei sefydlu ar dir y carchar tra roedd gwarchodwyr yn cadw llygaid craff arnynt. Roedd rhai o’r troseddau roeddent wedi’u cyhuddo ohonynt yn wirion bost ac yn hollol ddi-sail ond dyna stori at ryw bryd eto.

Roedd timau fel Hotspurs FC, Gunners FC a Manong FC yn brwydro mewn tair adran. Roedd y rhwyd a’r postyn gôl wedi’i gwneud o ddeunydd oddi ar lan y môr, fel roedd y tlysau, a gafwyd eu cipio oddi arnynt. Pa mor symbolaidd o’r amser digalon hwn oedd hynny?

Ond roeddwn yn gwenu yn clywed y stori hon oherwydd er y driniaeth llym ac anghyfiawn hyn, roeddent wedi darganfod llawenydd a chysur drwy bêl-droed. Ni all llinach goruchafiaeth wen wneud dim ac mae hyn yn gwneud i mi wenu fwy. Mae’n dangos fod chwaraeon, yn benodol pêl-droed, efo’r nerth i annog a dod a llawenydd hyd yn oed i’r rhai mewn amgylchiadau arswydus.

Llwyddodd i uno’r carcharwyr ar Ynys Robben mewn bond o herfeiddiad ac mewn ysbryd ewyllys dda ac empathi gyda’i gilydd. Mae’n rhaid i hyd yn oed y person sydd yn casáu pêl-droed fwyaf gyfaddef mai pêl-droed oedd y ffactor fuddugol yn y sefyllfa yma.

Fe Gychwynnodd Yn Affrica

Felly, wrth i’r Cwpan Byd barhau yn genedl yr enfys, dwi’n gobeithio fy mod wedi rhoi ychydig o fewnwelediad i ti i’r rheswm pam fod hwn yn ddigwyddiad mor bwysig i’r wlad, nid yn unig i De Affrica ond i Affrica ar y cyfan. Dyma’r Cwpan Byd pêl-droed cyntaf i gael ei gynnal ar y cyfandir ac, gyda’r holl faterion sydd yn cael effaith ar Affrica ar y funud, mae hwn yn wrthdyniad gall pobl Affrica fwynhau.

Nid oes amheuaeth eu bod yn ei haeddu. Croesawodd Archesgob Desmond Tutu cenhedloedd y byd “adref” yn y seremoni agoriadol wrth i 32 o genhedloedd deithio i “grud amaethiad” ble cymerodd dyn ei gam cyntaf ar y ddaear.

Felly tra rwyt ti’n gwylio Fernando Torres, Wayne Rooney, Kaka, Lionel Messi, Chrstiano Ronaldo a’i fath yn rhwygo eu gwrthwynebwyr yn ddarnau, ceisia peidio cael yn rhy flin gyda sain flinedig y vuvuzela. Cwpan y Byd Affrica ydy hon ar ddiwedd y dydd ac mae vuvuzelas yn symbolaidd o’r gêm yn Affrica. Mae’r twrnamaint hwn yn garreg filltir i bêl-droed y Byd ac Affrica ond hefyd i’r genedl, sydd nawr yn wirioneddol cyfiawnhau’r enw Cenedl yr Enfys.

Byddai’n addas iawn os byddai cenedl Affrica yn ennill y gystadleuaeth, ond yn anffodus mae hyn yn annhebygol. Er hyn mae pethau rhyfeddach wedi digwydd. Er enghraifft mae Gogledd Korea yn y Cwpan Byd.

Byddwn i’n bendant yn mynd mor bell ag i ddweud fod hwn wedi bod y cynnwrf yn yr wythnosau cyn y Cwpan Byd hwn wedi bod yr un mwyaf lliwgar a cynhyrfiol y gallaf i gofio. Tra nad ydy’r pêl-droed wedi bod o safon eto, mae’r awyrgylch yn y wlad yn bendant wedi gosod safon newydd. Gall ddweud drwy wylio Newyddion y BBC neu Newyddion Sky Sports fod y twrnamaint yma yn golygu popeth i bobl y genedl yma sydd ar ei adfer.

Yn anffodus nid oedd Madiba yn gallu cynnal y seremoni agoriadol oherwydd marwolaeth echryslon ei gor-wyres a’r galar i bawb oedd ynghlwm ond mae’r twrnamaint nawr wedi cychwyn a’r Bafana Bafana (tîm cenedlaethol De Affrica) yn gwybod fod y wlad gyfan y tu cefn iddynt.

Mi fetiai fod Rob Green yn gobeithio byddai’r wlad cyfan y tu ôl i yntau hefyd.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.