CLIC @ Gŵyl Plant Ynys Môn
Bydd CLIC yn Ynys Môn o 2-3 Gorffennaf i gymryd rhan yng Ngŵyl Plant 2009 a gynhelir ar Faes y Sioe Mona.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc ddangos beth y gallant ei gynnig.
Cyflwynir diwrnod cyntaf y digwyddiad i blant cyn oed ysgol a disgyblion ysgolion cynradd a bydd yr ail ddiwrnod ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Bydd pump o ysgolion uwchradd yn dod draw gyda’u 500 o fyfyrwyr.
Os hoffet gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysyllta ag Anwen Jones ar 01248 751813 neu Delyth Owen ar 01248 752982.
Mae CLIC yn edrych ymlaen at dy gyfarfod yn Sir Fôn i rannu mwy o fanylion am y prosiect!








