CLIC Yn Dod I Pont
Dydd Iau cawsom sesiwn defnyddiwr CLICarlein grêt yn Ysgol Gyfun Pontllanfraith yng Nghaerffili,
Cawsom nifer fawr o sylwadau, digwyddiadau ac erthyglau wedi’u hysgrifennu. Cofia ddarllen Banio’r Blazers! aReiat Ysgol Gyfun Pont – adroddiad o’r diwrnod bu disgyblion yn protestio yn erbyn gwisgo blazers.
Rhywbeth arall sydd werth cipolwg ydy Ysgol Gyfun Pont – Chwaraeon am adolygiad o’r gêm Dinas Caerdydd yn erbyn Reading, a darnau barn ar Torres a Suarez.
Rydym wedi casglu gweddill y cyflwyniadau isod. Cofia ddarllen a gadael sylwad!
Rydym eisiau dweud diolch yn fawr i’r bobl yn Ysgol Gyfun Pont am groesawu ni ac am ysgrifennu i CLIC. Os oes unrhyw un ohonoch eisiau ychwanegu lluniau, neu newid eich enw defnydd, e-bostiwch ryan@cliconline.co.uk neu dan@cliconline.co.uk ac fe wnawn drefnu fo i ti.
CLIC Yn Dod I Pont
Mae CLIC wedi dod i Ysgol Gyfun Pontllanfraith. Mae wedi penderfynu dysgu’r cyngor ysgol am wyrthiau CLIC! Diolch am ddarllen!
cookiemonster123
Cafodd CLICarlein ei gyflwyno i’n hysgol heddiw (Ysgol Gyfun Pontllanfraith)…
Ond… dwi eisiau gwybod beth wyt ti’n feddwl ohono :D
Gad sylwadau isod :)
Lukeex
Adloniant
Mae hwn mor ddoniol, gwylia fo.
Byddet wrth dy fodd â hwn.
Mae fel Fred x :D
Mwynha
emily baby
Llwyddiant Newydd Ar Y Sîn
Yn ddiweddar mae yna ysfa fawr am y gyfres fideo lwyddiannus ar YouTube: Potter Puppet Pals. Mae’r pypedau addoladwy yma wedi bod yn gwneud i blant chwerthin allan yn uchel gyda’u fideos hynod o boblogaidd sydd yn sbŵff Harry Potter, fel “Mysterious Ticking Noise” a (ffefryn personol) “Snape’s Diary”.
Felly plant ac oedolion, dwi’n awgrymu’n gryf dy fod yn mynd ar YouTube ac yn LOL.
cookiemonster123
COD: Black Ops yn erbyn Modern Warfare 2
Pa un sydd orau: Black Ops neu MW2? Cymerodd Modern Warfare 2 y farchnad gemau yn gryf a dod yn ffefryn clir, ond gyda’r Black Ops newydd yn dringo yn araf yn y farchnad gemau mae pendant yn dod yn ffefryn.
Gad sylwad a dweud wrthyf: pa un ydy’r gêm Call Of Duty gorau?
cookiemonster123
Gormod o golur
Mae gormod o enethod yn yr ysgol gydag wynebau Oompa Loompas. Yn fwy oren nag oren!
Nid ydynt yn hapus os nad ydynt yn oren.
Maen nhw’n meddwl eu bod yn hyll, ond ni all neb gwyno os mai dy wyneb di ydy o; ti mae pobl eisiau, nid y colur.
Mae Dydd Y Cariadon ar y gorwel. Os wyt ti’n caru rhywun, dangos dy deimladau drwy gael anrheg i’r rhywun arbennig yno a defnyddia’r cyfle hwn i ddweud wrthynt sut maent yn gwneud i ti deimlo.
Felly dewch wan hogiau a genethod, lledaenwch y cariad o gwmpas oherwydd ar y diwrnod hwnnw bydd cariad yn yr awyr. Felly dangosa dy deimladau i rywun.
Paid poeni os nad oes gen ti rywun i garu eto; bydd y person arbennig yn ymddangos.
Felly pob lwc x.
chocobabe
Dim Disgo San Ffolant Yn Yr Ysgol!!
Mae Dydd San Ffolant yn dod yn fuan felly cer i nôl dy arian a phrynu rhywbeth arbennig i dy gariad (neu rywun sydd gen ti crysh arno)!
Fel mae’r teitl yn ddweud, nid ydym byth yn cael disgo ysgol a dylwn ni gan ein bod yn gweithio yn galed amdano ac os byddai gennym ni ddisgo ysgol fe ddylwn ni dalu tua £1 i fynd i mewn ac yna gallet brynu bwyd tu mewn (ni chawsom ddisgo Nadolig na pharti hyd yn oed :( !!!)
Felly gadewch i ni gael disgos ysgol!!!
liviajay1
Tîm Edward v Tîm Jacob
Tîm Edward! :)
Ffeithiau:
Mae Twilight yn nofel fampir-rhamant oedolyn-ifanc gan yr awdur Stephenie Meyer. Yn wreiddiol cafodd Twilight ei wrthod gan 14 asiant, ond daeth yn llwyddiant yn syth pan gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol mewn clawr caled yn 2005, yn ymddangos ar restr New York Times Best Seller o fewn mis o’i ryddhad ac yna yn cyrraedd y brig yn rhif 1. Yr un flwyddyn, cafodd Twilight ei enwi yn un o Lyfrau Plant Gorau 2005 Publishers Weekly. Y nofel oedd y llyfr werthoedd fwyaf yn 2008 ac, hyd yn hyn, mae wedi gwerthu 17 miliwn o gopïau fyd eang, wedi treulio dros 91 wythnos ar restr Best Seller y New York Times, ac wedi cael ei gyfieithu i 37 gwahanol iaith.
Mae’r ffilmiau Twilight yn wych!
Twilight ydy pan mae Bella yn cyfarfod Edward ac maent yn disgyn mewn cariad.
New Moon ydy pan mae Edward yn mynd i ffwrdd er mwyn diogelrwydd Bella.
Eclipse ydy pan mae grŵp o Fampir newydd yn dod i weld Bella.
Mae Breaking Dawn yn dod i’r sinema yn fuan yn 2011. :D
madblonde
Pa Un Wyt Ti’n Pigo
Gad sylwad pa un
Dwi’n meddwl Tîm Edward
AM BYTH!!! X Fe ddylai Bella Swan ddewis Edward Cullen! Bod efo Edward Cullen am byth ydy beth mae Bella Swan wedi bod eisiau ers iddi ddisgyn mewn cariad gydag ef. Maen nhw’n ffrindiau enaid.
Beth wyt TI’N feddwl? Cytuno? Anghytuno? Dewis ochor a gad i ni wybod, i gyd mewn ysbryd trafodaeth gyfeillgar, wrth gwrs.
NODYN: Mae rhai o’r sylwadau ar y dudalen hon efallai yn cynnwys difethwyr am Twilight, New Moon, Eclipse a Breaking Dawn. Ti wedi cael dy rybuddio.
http://www.youtube.com/watch?v=S0HxwmXfpjc
emily baby
Mae yna lot o ddadl wedi bod dros ba “dîm” ydy’r gorau! Ond pwy sy’n poeni go iawn? Yr unig beth dwi’n gwybod ydy mai llwyth o sbwriel ydy o, ond dwi’n hapus i bobl wneud sylwadau a chael dweud eu dweud.
iWaters28
Mae Tîm Jacob yn wych: mae bleidd-ddynion yn well na fampir unrhyw ddydd! Pwy sy’n cytuno gyda fi? Mae bleidd-ddynion yn gallu rhedeg yn gyflymach, yn gryfach ac yn well mewn cymaint o ffyrdd. Gad sylwad!!!
O.N.: Mae fampirs yn od lol
rhysterry
Sgrinlun Oompa Loompa o Willy Wonka & the Chocolate Factory ( y gwreiddiol, nid yr un od Tim Burton)
Calon San Ffolant o XKCD









