Clybiau Chwaraeon Yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae wyth deg o sefydliadau gwirfoddol a chlybiau wedi elwa o gyfran o £48,000 oddi wrth Gronfa Cist Gymunedol Castell-Nedd Port Talbot.
Dywed Gwasanaeth Gweithgaredd Corfforol a Chwaraeon Cyngor Castell-nedd Port Talbot (PASS) sy’n gweinyddu’r gronfa fod £20,000 yn y gronfa o hyd yn disgwyl am fynd at sefydliadau chwaraeon cymwys yn y fwrdeistref sirol.
Meddai Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Pwrpas y cynllun hwn gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw gwneud gwahaniaeth i gyfleoedd lleol ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol sy’n ychwanegol at yr hyn sy’n bodoli’n barod ac na fyddai’n bosibl heb grant.
“Nod y cynllun yw cynyddu cyfranogiad, gwella safonau perfformiad ac annog mwy o bobl i ddod yn actif yn gorfforol yn amlach.” Mae cyllid y Gist Gymunedol wedi caniatáu i glybiau newydd gael eu ffurfio ac wedi rhoi cyfle i sefydliadau gwirfoddol sy’n bodoli’n barod ehangu a gwella.
Mae’n rhaid i grwpiau cymunedol fodloni rhai meini prawf i fod yn gymwys am yr arian. Rhaid iddynt fod yn recriwtio gwirfoddolwyr, yn rhoi hyfforddiant i hyfforddwyr, yn prynu offer ac yn talu costau sefydlu timau/clybiau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: “Mae cynllun grant y Gist Gymunedol yn hanfodol i sefydliadau gwirfoddol oherwydd mae’n darparu cyllid y mae llawer o angen amdano i gynorthwyo gyda chael y boblogaeth gyfan yn fwy actif yn gorfforol gyda’r bwriad cyffredinol o wella iechyd ar draws y Fwrdeistref Sirol.”
Meddai Derek Jones o PASS: “Mae un cyfarfod panel o’r Gist Gymunedol ar ôl cyn diwedd y flwyddyn ariannol i drafod ceisiadau. Rhai o brif feysydd y meini prawf yw recriwtio gwirfoddolwyr, addysg i hyfforddwyr, costau dechreuol i glybiau / timau newydd, offer heb fod yn bersonol, cyhoeddusrwydd, cysylltiadau rhwng y gymuned a’r ysgolion, digwyddiadau a gwyliau chwaraeon, cynlluniau cludiant mewn amgylchiadau arbennig a chysylltiadau rhwng clybiau ac ysgolion.” Dylai clybiau a sefydliadau sy’n ymgeisio am gyllid gyflwyno eu ffurflenni erbyn Ionawr 26. Cynhelir cyfarfod y panel ar Chwefror 9 2010.
Mae’r panel yn gofyn i’r holl sefydliadau a gyflwynodd geisiadau ers 10 Tachwedd i ailgyflwyno eu ffurflenni i gyfeiriad newydd Gwasanaeth Gweithgaredd Corfforol a Chwaraeon y Cyngor ym Mhencadlys y Llyfrgell, Reginald Street, Felindre, Port Talbot, SA13 1YY neu at Derek Jones drwy e-bost: d.i.jones@npt.gov.uk







