Welcome to CLIConline! Please sign up or login

ConDemnio Ni I Genhedlaeth O Drueni

Posted by Jaque Thay from Cardiff - Published on 26/11/2010 at 17:21
0 comments » - Tagged as Culture, Education, History, People, Topical

  • razor edge

English version

Dwi’n ceisio peidio datgan fy newisiadau gwleidyddol. Dwi’n dewis peidio dweud wrth bobl sut a pham dwi’n pleidleisio os nad ydw i’n sicr eu bod eisiau gwybod, ac y byddent yn parchu’r rhesymeg tu ôl i’m mhenderfyniadau.. Wedi digwyddiadau’r dyddiau diwethaf dwi’n teimlo fy mod angen rhoi fy mhreifatrwydd i un ochr – am nawr o leiaf – a rhannu fy nghredau.

Byddai ffrindiau i mi yn dweud wrthyt, os gofynnir iddynt, fy mod wedi dweud yn gadarn cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf “nid oes yr un blaid wleidyddol hoffwn i weld mewn llywodraeth”. Yn fis Mai, pan ddigwyddodd yr etholiad, fe restrais fy meirniadaeth am yr amryw bleidiau ac un ar ôl y llall yn dileu pawb byddwn i ddim yn pleidleisio amdanynt i adael yr unig ymgeisydd fyddai’n derbyn fy mhleidlais. I gychwyn gad i ni edrych ar yr ymgeiswyr oedd ar gael i mi'r adeg honno; yn fy etholaeth roedd nifer siomedig o iawn o ymgeiswyr – y tri mawr, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr, yn ogystal â’r Blaid Werdd, UKIP a Phlaid Cymru.

Y Meini Prawf

Roeddwn wedi penderfynu ychydig o feini prawf yn barod cyn gwybod yn union pa blaid fyddai’n rhoi ymgeiswyr ymlaen yn fy ardal; byddwn i ddim yn pleidleisio am unrhyw un oedd yn dymuno tynnu ni allan o’r Ewro-dir – bydd ein heconomi yn cael ei effeithio gormod. Byddwn i ddim yn pleidleisio am neb oedd yn gysylltiedig â hiliaeth. A byddwn i ddim yn pleidleisio am unrhyw blaid mater sengl. Roedd hyn yn dileu UKIP a’r Blaid Werdd yn syth. Wedi tystio'r smonach roedd Llafur wedi achosi dros y 13 mlynedd diwethaf nid oedd gen i awydd i ganiatáu pum mlynedd arall iddynt gwblhau’r gwaith o ddatgysylltu’r wlad – felly roedden nhw allan. Gyda nhw aeth Plaid Cymru, eu chwaer blaid Cymraeg.

Roedd hynny yn gadael dau; y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Er protestio gan ffrindiau fod y Ceidwadwyr yn glwm diwygiedig bellach, ac yn hollol annhebyg i’r blaid fu mewn grym drwy’r 80au a’r 90 cynnar, roeddwn yn teimlo na allwn i gael ffydd ynddynt i beidio ail-wneud gweithrediadau eu rhagflaenyddion… felly roeddent hwy allan hefyd. Roedd hyn yn gadael y Democratiaid Rhyddfrydol. Mewn theori nid oedd gen i ddim yn eu herbyn; nid oeddent wedi gwneud niwed nac wedi gwella’r sefyllfa yn y wlad… mewn gwirionedd nid ydynt wedi gwneud llawer dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf. Nhw oedd y llechen wag diarhebol – ond roedd hyn yn ei hun yn gleddyf min ddwbl. Er nad oeddent wedi gwneud dim o’i le, nid ydynt chwaith wedi cael y cyfle i ddangos eu bod yn gallu gwneud yn iawn. Ar ddiwedd y dydd penderfynais bleidleisio am y Democratiaid Rhyddfrydol ar y sail na fyddwn i'n pleidleisio am unrhyw blaid arall a ddim yn dymuno gwastraffu fy mhleidlais yn gyfan gwbl.

Noson Etholiad

Ar 6ed Mai roeddwn yn effro drwy’r nos yn gwylio’r canlyniadau yn dod i mewn. O’r sylw cyn yr etholiad ymddangosai'n debygol byddai’r canlyniadau yn cael eu rhannu mewn ffyrdd newydd a digynsail; y genhedlaeth h?n yn parhau i fod yn chwerw am y driniaeth cawsent o dan reolaeth Geidwadol a nifer yn casáu'r blaid Lafur dan reolaeth y digarismatig Mr Brown. Y canlyniad, fel disgwylir, oedd senedd grog. Erbyn hyn bydd pawb yn ymwybodol beth mae hyn yn ei feddwl, felly fe af ymlaen i’m mhwynt nesaf – pam fod hyn yn newyddion drwg i Brydain.

Pan fydd un blaid efo mwyafrif llwyr mae’r gallu ganddynt i wthio unrhyw gynlluniau a deddfau maent yn dymuno (nid yw mor syml â hyn, ond dyna’r sylwedd cyffredinol ohono). Efallai bod cyfran fawr o bobl yn anghytuno â’r mesuriadau sydd yn cael eu gweithredu ond maent yn pasio er hyn. Mewn senedd grog, ac yn benodol mewn llywodraethau lleiafrifol neu glymblaid, mae’r gwahaniaeth radical rhwng y ffyrdd mae’r pleidiau yn dewis cyflawni yn gallu datganu sefyllfa lle na all symud ymlaen o gwbl gan nad oes neb efo chefnogaeth ddigonol i basio deddfau a deddfwriaeth. Wedi’r blynyddoedd diwethaf o reolaeth Llafur roedd angen gweithredu pendant er mwyn troi’r wlad hwn o’i chwmpas – felly byddai senedd grog aneffeithiol yn drychinebus.

Grym Annisgwyl

Dyma ble daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwaraewyr allweddol. Ar ben eu hunain ni fyddai Llafur na’r Ceidwadwyr wedi rheoli digon o seddi i ffurfio llywodraeth. Roeddent wedi eithrio’r posibilrwydd o weithio gyda’i gilydd (yn ymwybodol wrth gwrs, byddai’n arwain at y fath o sefyllfa ddryslyd dwi wedi’i ddisgrifio uchod) ond byddai’r ddwy blaid, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu ffurfio senedd weithredol. Yn sydyn, daeth Nick Clegg yn ddyn grymus iawn. Yn ffurfio cynghrair craff gyda’r blaid Geidwadol, fe ddaeth yn Ddirprwy Prif Weinidog – swydd ddylai alluogi iddo ostegu gormodion rheol Geidwadol, rhywun i amddiffyn y werin rhag eithafiaeth wleidyddol.

I gychwyn fe groesawais Nick Clegg i’r swydd hwn. Mewn llawer ffordd roedd mwy o rym ganddo nag David Cameron gan y gallai, ar unrhyw adeg, orfodi’r diddymiad o lywodraeth os byddai’r gyfundrefn Geidwadol yn dod yn rhy lym. Roedd hwn yn rym y dylai Cameron ofni a pharchu; gallai wthio unrhyw ddeddfwriaeth hoffai, ond roedd rhaid iddo gydymffurfio. Un cam yn rhy bell a byddai pawb yn dychwelyd i’r orsaf bleidleisio.

Dewisiadau Anodd

Mae misoedd wedi pasio, mae pobl yn anfodlon gyda chyfeiriad y llywodraeth hon wedi ei gymryd; cyfeiriad byddai unrhyw un dros bumdeg wedi gallu rhybuddio ni amdano… a dydy Clegg ddim wedi gwneud dim. Yn waeth na hyn, mae'n dod yn amlwg ei fod wedi camarwain y cyhoedd yn fwriadol dros faterion allweddol. Materion oedd wedi ennill pleidlais myfyrwyr enfawr ac wedi ei roi yn y swydd o rym mae ynddi nawr. Os yw'n ymarfer ei rym nawr ac yn diddymu’r llywodraeth yna mae'n anhebyg byddai’r Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hethol yn ôl i rym – sydd yn gadael Llafur yn unig. Mae’n sefyllfa anobeithiol: derbyn y llywodraeth bresennol sydd yn cael ei chasáu fwyfwy, neu ddychwelyd i’r llywodraeth sydd wedi achosi’r problemau mae’r Ceidwadwyr yn ceisio datrys nawr.

Trwy’r etholiad, ac o fy mhrofiadau ers hynny, dwi wedi  ymddiried yn y Ceidwadwyr i wneud un peth ac un peth yn unig: i sicrhau fod Prydain fel gwlad yn goroesi. Er hynny nid yw’n beth da i breswylwyr Prydain. Dwi’n ymddiried yn y Ceidwadwyr i wneud y penderfyniadau anodd, i wneud y pethau nad yw’r pleidiau eraill yn mentro… ond y rheswm nad oeddwn i’n gallu pleidleisio amdanynt yn y lle cyntaf ydy’r llymder llwyr y gweithrediadau i gyrraedd eu nod. Drwy edrych yn ôl gwelir fod gweithrediadau a pholisïau’r llywodraeth Geidwadol ddiwethaf wedi  caniatáu i Brydain ddod i mewn i gyfnod o dyfiant economaidd a chymdeithasol  digynsail. O feddwl am hyn roedd yn llywodraeth lwydiannus - ond am y bobl? Reiat, newynu, diweithdra torfol, tlodi a thrallod. A nawr mae’n cychwyn eto.

Aflonyddwch Cynyddol

Fel gyda llywodraeth Thatcher, gwelir anfodlonrwydd mawr tuag at weithrediadau llywodraeth Cameron. Mae’r mis yma wedi gweld protest ar ôl protest yn erbyn yr awgrymiadau toriadau a newidiadau i’r ‘cyfundrefn’. Nid oes amheuaeth fod hyn i gyd yn angenrheidiol ar gyfer goroesiad dyfodol economaidd y wlad hon – ond mae'n niweidio ni nawr. Mae erthyglau eraill yn bodoli, gormod i grybwyll, yn disgrifio protestio’r myfyrwyr, yr ymgyrchu a’r deisebau. Chwilia amdanynt. Diweddara dy hun. Dysga am y sefyllfa a sut byddi di’n cael dy effeithio. Dwi’n ofni ei bod hi’n rhy hwyr nawr, rydym wedi pasio’r pwynt o gael ffordd allan hawdd a di-boen.

Dwi’n credu ein bod yn wynebu un o’r blynyddoedd caletaf sydd wedi’i goddef ym Mhrydain am genhedlaeth. Dwi’n credu yn y misoedd nesaf byddwn yn gweld mwy o brotestio heddychol – a threisgar – fel y rhai sydd wedi digwydd yr wythnos hon. Dwi’n credu bydd hyn yn tyfu – ac er rwyf yn gobeithio yn fawr nad fydd hyn yn digwydd, dwi’n credu byddwn cyn hir yn gweld anufudd-dod sifil torfol tuag at y llywodraeth ar raddfa na fyddai’n hawdd ei ymatal.

I sicrhau goroesiad ein gwlad fel endid gwleidyddol ac ariannol mae’n rhaid i ni oddef y blynyddoedd o galedi sydd i ddod. Byddai gwneud fel arall yn gwahodd ein dinistriad.

Nodyn Is-Olygydd: Fel gyda phopeth ar theSprout, mae’r erthygl hwn yn cynrychioli barn bersonol yr awdur ac nid o reidrwydd barn theSprout. Os ydy’r erthygl hwn wedi cynhyrfu ti, gadawa sylwad isod neu cyflwyna erthygl dy hun, ond paid â phwdu a gofyn iddo gael ei ddileu. Rydym yn byw mewn oes ddiddorol a gall wneud efo ychydig o ddadl. Ffwrdd a ni!

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth y DU

DELWEDD:

Double-Edged Razorblade & Case gan jpmatth

Erthyglau perthnasol:

Hollol Cleggiol

Pam Dwi’n Casáu Gwleidyddiaeth

Egluro Etholiad

Yr Etholiad Ofnadwy

Aelodau Anrhydeddus?

Sprout Yn Mynd I Gwestiwn Ac Ateb Etholiad

Senedd Yn Y Crocbren

Os Doeddwn I Ddim Yn Poeni Cynt…

Myfyrwyr Lleol Yn Meddiannu Prifysgol

Gwleidyddiaeth & Cyfryngau: 6Music, UKIP & ‘Yoof’


Defnyddiwr Sprout Eisiau Ymateb Gan Nick Clegg

David Cameron Yn Dal Ei Dir Am Fudd-daliadau

Mae’r Llywodraeth Wedi Ymadael  Phobl Ifanc

Pobl Ifanc Yn Teimlo Effaith Toriadau’r Llywodraeth

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.