Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cwrdd Ā Dreigiau Ifanc

Posted by CLIC_sarahp from Torfaen - Published on 29/06/2012 at 14:20
0 comments » - Tagged as Education, Sport & Leisure, Work & Training, Volunteering, Yn Gymraeg

  • img

English Version

Heddiw cwrddais i ā'r Arolygydd Chris O'Driscoll o gr?p o'r enw'r Dreigiau Ifanc.

Nod y Dreigiau Ifanc yw creu cyfleoedd i bobl ifanc i gymryd rhan a helpu gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Mae'r Dreigiau Ifanc yn gasgliad o lawer o sefydliadau ieuenctid iwnifform fel: Sgowtiaid, Geidiau, Ambiwlans Sant Ioan, Cadetiaid Milwrol, Cadetiaid yr Heddlu, Cadetiaid Tān, Brigād Bechgyn a Merched ac maent hefyd yn gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau ieuenctid ac adrannau addysg.

Mae'r Dreigiau Ifanc yn gr?p eithaf newydd a'r gobaith yw y bydd wyth gr?p Dreigiau Ifanc yn cael ei sefydlu dros y misoedd nesaf dros Gymru gyd.

Eu gweledigaeth yw cael hwyl ac anturiaethau wrth ysbrydoli pobl ifanc Cymru i gyfrannu'n weithredol i'w cymunedau. Hefyd, nod y gr?p yw annog oedolion dros y gymuned eang i gymryd rhan er mwyn helpu redeg y grwpiau iwnifform newydd ac i gynyddu'r nifer o bobl ifanc sy'n gweithio gyda sefydliadau ieuenctid iwnifform wrth gynyddu'r maint o grwpiau o fewn y sefydliadau hynny.

Mae hwn yn brosiect gwych ac os hoffech glywed mwy amdano ac i gymryd rhan yn eich cymuned chi cysylltwch ā Christopher.O'Driscoll@gwent.pnn.police.uk neu edrychwch ar y wefan http://www.youngdragons.org.uk

Sefydliadau » Young Dragons

Newyddion » Categorļau » Gwirfoddoli

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwirfoddoli

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.