Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cwrs Preswyl CLIC

Posted by Metallica-gal from Neath Port Talbot - Published on 04/02/2010 at 17:14
0 comments » - Tagged as Art, Education, Volunteering

  • metal2
  • metal
  • metal
  • metal

English version

Rydw i newydd ddod yn ôl o Ail Benwythnos Mawr CLIC yn 'Morfa Bay Adventure' yng Nghaerfyrddin ac roedd yn llawer o hwyl!

Gwnaethom lawer o bethau amrywiol, a buom yn gweithio o amgylch CLIC i gyd.

Rydw i’n hapus oherwydd gofynnodd Ryan, golygydd TheSproutZine a’r safle hwn i mi ddylunio’r clawr ar gyfer cylchgrawn nesaf CLIC.

Oherwydd nad ydw i erioed wedi dangos fy lluniau na’m dyluniadau i unrhyw un arall, doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer o bobl eu hoffi, oherwydd bod fy athro coleg yn meddwl nad ydy fy arddull yn un dda (dydw i yn bersonol ddim yn meddwl fod fy lluniau yn arbennig o gwbl).

Felly, heblaw am y cwrs rhwystrau mwdlyd, y pŵl a’r tenis bwrdd di-stop, cefais flas hefyd ar y gweithdai a gyflwynwyd ac rwy’n credu y dylai mwy o bobl ifanc fod yn cymryd rhan gyda CLIC oherwydd mae’n dod â llawer o gyfleoedd o ran yr hyn yr hoffent ei wneud yn y dyfodol.

Gobeithio y byddet yn hoffi’r ffotograffau o’m lluniau yr ydw i wedi eu postio ar y safle.

Diolch i CLIC am gwrs preswyl gwych, fedra’ i ddim aros am fynd eto.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.